大象传媒

Tegan yn anelu am record byd codi pwysau yn 14 oed

  • Cyhoeddwyd
Tegan EasonFfynhonnell y llun, Tegan Eason

"Dwi'n anelu am y record byd 'powerlifting' nawr. Does dim llawer o bobl yn 'neud y gamp yma, yn enwedig merched. Os fydden i'n cael y record byd, bydde fe'n neis i gael a bydde fe gyda fi am amser hir."

Dyma uchelgais merch ysgol o'r Tyllgoed yng Nghaerdydd, sy' newydd ddod yn bencampwr byd powerlifting ym Mhortiwgal.

Roedd Tegan Eason, 14, yn fuddugol yn y categori 48kg (pwysau corff) wrth iddi gystadlu dros Brydain yn y pencampwriaeth byd yn Trofa ym mis Tachwedd 2021.

Tegan sy'n dal y record Prydeinig a'r record Ewropeaidd yn y gamp o fewn ei gr诺p oedran, sef 13-15, ac mae'n anelu am y record byd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Tegan Eason
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Medal Tegan wedi iddi ennill ei chategori ym mhencampwriaeth y byd

Math o godi pwysau yw powerlifting lle mai codi pwysau trwm mewn un symudiad yw'r nod. Mae tair prif ddisgyblaeth sef sgwat, bench press a deadlift ac mae cystadleuydd yn cael tri chynnig i godi'r pwysau trymaf posib ym mhob un.

Ffynhonnell y llun, Tegan Eason
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sgwat Tegan ym mhencampwriaeth y byd - llwyddodd i godi 82.5kg

Dywedodd y disgybl Blwyddyn 10: "Dwi ishe curo'r record byd blwyddyn nesaf.

"Merch o Rwsia sy' efo'r record (ar gyfer y categori 48kg) ac mae hi wedi cael y record am 20 mlynedd felly os dwi'n curo hwnnw bydde fe'n rial accomplishment."

Y record byd yw 267.5kg sef cyfanswm y pwysau a godwyd wrth wneud sgwat, bench press a deadlift. Does neb yn y categori pwysau 48kg wedi curo'r cyfanswm hwnnw ers 2000.

Llwyddiant

Meddai Tegan am ei buddugoliaeth ym mhencampwriaeth y byd: "Mae'n anodd i gael fy mhen rownd y peth ond fi'n rili falch.

"Dwi'n mwynhau cystadlu mwy na dim a dwi'n hoffi cyfarfod pobl hefyd - mae'n braf i gyfarfod pobl yn y sport.

"Mae'n nhw'n gallu uniaethu gyda beth fi'n gwneud."

Ffynhonnell y llun, Tegan Eason
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Benchpress' Tegan yn codi 40kg ym mhencampwriaeth y byd

Dechrau cynnar

Cychwynnodd Tegan yn y gampfa yn 10 mlwydd oed gydag ychydig o waith codi pwysau.

Mae ei thad Andrew Eason, sy' wedi bod yn codi pwysau ers blynyddoedd ei hun, yn esbonio sut dechreuodd y diddordeb: "Dwi wastad wedi bod yn gryf ac o'n i wedi cychwyn gwneud mwy o powerlifting ac yn trio cael fy ngwraig Michelle i wneud mwy.

"Ac yna dechreuodd Tegan bigo pethau i fyny o'r llawr."

Roedd Tegan yn canolbwyntio ar y tair prif ddisgyblaeth, sef deadlift, sgwat a bench press.

Dechreuodd gymryd y peth o ddifri ar 么l mynd i'r rowndiau cynnar ar gyfer y bencampwriaeth Prydeinig yn Salisbury a chael llwyddiant annisgwyl.

Yn 么l Tegan: "Do'n i ddim yn disgwyl mynd trwy. O'n i jest yn meddwl, awn ni fan hyn a gweld sut mae'n mynd."

Ac mae ei thad yn dweud: "Ond ar 么l y qualifier edrychon ni ar y records blaenorol a sylweddoli mor dda oedd hi wedi gwneud.

"Mae Tegan fel ceffyl rasio ac mae mor gryf am ei phwysau. Mae'n beth anghyffredin iawn i ferch ifanc.

"Mae lot o bobl yn y qualifiers ond mae'n mynd yn llai a llai y pellach i fyny ti'n mynd."

Ac mae hynny'n arbennig o wir am gategori oedran Tegan - does dim llawer o ferched ifanc yn cystadlu.

Dywedodd Andrew: "Pan gystadlodd Tegan yn Salisbury yn Chwefror 2020 dyna oedd ei chystadleuaeth cyntaf ac roedd wythnos ar 么l ei phen-blwydd yn 13.

"Hi oedd y cystadleuydd ifancaf iddyn nhw weld erioed.

"Do'n ni ddim yn gwybod hynny ar y pryd ond roedd hi wedi curo'r record Prydeinig ac hefyd y record byd yn y qualifiers. Ond oherwydd nad oedd beirniaid rhyngwladol yno doedd e ddim yn swyddogol."

Ffynhonnell y llun, Tegan Eason
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tegan ym mhencampwriaeth y byd

Ysbrydoliaeth

Mae Andrew wedi bod yn allweddol i lwyddiant Tegan ac mae hi'n hyfforddi dan ei oruchwyliaeth e.

Meddai: "Dad fi yw ysbrydoliaeth fi a dwi'n anelu i fod mor dda a fe.

"Mae wedi 'neud y qualifiers ei hun ond oherwydd job e doedd e ddim wedi gallu cario ymlaen gyda'r Europeans. Dwi'n gobeithio 'neud y qualifier gyda fe blwyddyn nesa'.

"Mae ei wybodaeth e'n inspiring, mae e'n gwybod popeth am hyfforddi ac mae e wedi dysgu fi popeth hyd yn hyn."

Mae mam Tegan, Michelle, wedi trio ymarfer yn y gampfa gyda'i merch hefyd ond yn chwerthin gan ddweud: "Dwi'n methu cadw i fyny gyda hi, mae hi'n rhy gryf i fi."

Ffynhonnell y llun, Tegan Eason
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd Tegan i godi 90kg mewn deadlift ym mhencampwriaeth y byd

Mae'r gamp yn un sy'n gofyn am ddisgyblaeth gyda deiet arbennig i'w ddilyn ac hefyd boreau cynnar.

Meddai Tegan: "Yn y bore dwi'n codi am 5:30 i naill ai fynd i'r garej i wneud fy mhrif ymarferion - deadlift, sgwat a benchpress- neu dwi'n mynd i'r gampfa i ymarfer.

"Dwi'n hyfforddi pump gwaith yr wythnos - dwy waith yn y gampfa a 2-3 gwaith yn y garej, am tua awr a hanner bob tro."

Ac mae awch Tegan am gystadleuaeth yn ei gwthio hi ymlaen: "Dwi'n gystadleuol iawn felly weithiau angen cwlio lawr.

"Stopiais i wneud Taekwon-Do am gyfnod oherwydd wythnos cyn pencampwriaethau'r byd o'n i'n rhedeg n么l a 'mlaen yn trio curo'r oedolion oherwydd mod i mor gystadleuol ac mi wnes i droi fy mhigwrn a cholli wythnos o hyfforddi."

Dyfodol

Felly beth nesaf i Tegan?

Dywedodd: "Dwi'n teimlo'n fwy hyderus oherwydd y profiad o fod ym mhencampwriaeth y byd. Mae pawb yn cefnogi ei gilydd.

"Dwi'n mwynhau y powerliftio ond mae'n fwy o hobi. Dwi eisiau bod yn fet."

Pynciau cysylltiedig