'Rhyddhad' wrth ennill achos parcio Llangrannog
- Cyhoeddwyd
Mae Dirprwy Farnwr Rhanbarth wedi dyfarnu o blaid menyw o Geredigion oedd yn honni nad oedd cwmni parcio wedi dilyn y prosesau cywir wrth geisio hawlio dirwyon ganddi.
Roedd One Parking Solution yn honni eu bod nhw wedi anfon Hysbysiad T芒l Cosb at Hannah Thomas o Gaerwedros, ond roedd y diffynnydd yn mynnu nad oedd hi wedi ei dderbyn.
Mae nifer o bobl wedi cwyno ar 么l cael dirwyon ym maes parcio Llangrannog, sydd yn cael ei redeg gan One Parking Solution ar ran tirfeddiannwr o Abertawe. Mae pobl y pentref wedi annog ymwelwyr i ddefnyddio'r maes parcio rhad ac am ddim ar gyrion Llangrannog yn sgil y cwynion.
Fe aeth Hannah Thomas i'r maes parcio ar y 6 Gorffennaf 2019. Fe dalodd ffrind am ei thocyn wrth iddi newid clwt ei phlentyn.
Ar y 13 Awst, 2019, fe dderbyniodd hi lythyr yn honni nad oedd hi wedi talu Hysbysiad T芒l Cosb, a bod arni bellach 拢170 i'r cwmni.
Fe ddaeth Ms Thomas o hyd i'r tocyn yn ei char ac e-bostio copi at y cwmni. Fe wrthododd One Parking Solution ag ildio ac fe honnon nhw fod y cais y tu hwnt i'r cyfnod ap锚l o 28 diwrnod.
Ers mis Awst 2019, mae hi wedi derbyn cyfres o lythyrau gan y cwmni, yn honni bod arni arian iddyn nhw.
Ym mis Mawrth 2021, derbyniodd Ms Thomas gais i dalu 拢256.34.
Doedd cyfreithwyr y cwmni ddim yn bresennol yn y gwrandawiad yn Llys Sirol Llanelli ac fe aeth yr achos ymlaen yn eu habsenoldeb.
Fe gwestiynodd y Dirprwy Farnwr Rhanbarthol, Graham Carson, a oedd gan y cwmni "rhyw fath o gofnod" o anfon yr Hysbysiad T芒l Cosb.
Mae Ms Thomas yn mynnu na dderbyniodd yr hysbysiad gwreiddiol.
Clywodd y llys bod yn rhaid cyflwyno'r hysbysiadau hyn o fewn 28 diwrnod. Dadl yr amddiffyniad oedd nad oedd Ms Thomas wedi derbyn yr hysbysiad o fewn yr amserlen gyfreithiol honno.
Dywedodd y Barnwr Carson wrth y gwrandawiad bod y diffynnydd wedi bod yn "glir ac yn gyson" yn ei thystiolaeth a doedd y cwmni ddim yn gallu profi eu bod nhw wedi anfon yr hysbysiad.
Mae perffaith hawl gan gwmn茂au hawlio ffioedd parcio yn 么l os ydyn nhw dilyn y prosesau cywir yn 么l Mr Carson. Ychwanegodd ei bod hi'n glir nad oedden nhw wedi dilyn y broses yn yr achos yma ac ar y sail hwnnw roedd e'n "diddymu achos y cwmni i hawlio yn erbyn y diffynydd".
Dywedodd bargyfreithiwr y diffynnydd, Sara Rowlands, bod y cwmni wedi achosi "pryder a rhwystredigaeth" i'w chleient.
Cafodd cais am gostau yn erbyn y cwmni, yn sgil honiadau o ymddygiad afresymol, ei wrthod.
Yn dilyn yr achos, dywedodd Hannah Thomas wrth 大象传媒 Cymru ei bod hi yn "teimlo rhyddhad" ac yn falch ei bod hi "wedi cadw i ymladd".
Mae One Parking Solution wedi cael cais i ymateb i'r dyfarniad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019