Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bwrdd Ysgol Abersoch yn ymddiswyddo mewn gwrthwynebiad
Mae saith o lywodraethwyr Ysgol Abersoch wedi ymddiswyddo yn dilyn cyhoeddiad y bydd yr ysgol yn cau ddiwedd y mis.
Mewn cyfarfod ar 25 Tachwedd, penderfynodd saith aelod o Fwrdd y Llywodraethwyr y byddai'n rhaid iddynt ymddiswyddo oherwydd eu "gwrthwynebiad unfrydol" i gau'r ysgol.
Dywedodd y saith aelod na fyddan nhw'n "gwneud gwaith budr y Cyngor" o orfod terfynu cyflogaeth staff yr ysgol.
Mae Cyngor Gwynedd wedi diolch i'r llywodraethwyr am eu gwaith.
Bydd ysgol Abersoch yn cau ar 31 Rhagfyr ar ol i Gabinet Cyngor Gwynedd bleidleisio'n unfrydol dros y penderfyniad.
Yn 么l y saith llywodraethwr sydd wedi ymddiswyddo, roedd gofyn iddynt ddilyn proses "nad oedd yn addas".
Mewn datganiad, dywedon eu bod "dan bwysau i ymateb o fewn cyfyngiad amser" a'u bod yn wynebu "bygythiad o gael eu labelu fel ysgol lle mae methiant yn y ffordd mae'n cael ei llywodraethu".
Dywedodd yr aelodau mewn datganiad: "Mae'n drist ofnadwy nad ydym, er ein holl ymdrechion, wedi gallu diogelu dyfodol Ysgol Abersoch. Rydym yn gandryll ac yn drist bod y Cyngor yn barod i gau ysgol yng nghanol y flwyddyn academaidd, yn enwedig ar adeg y Nadolig."
"Fodd bynnag, gallwn eich sicrhau y byddwn, fel unigolion a ffrindiau Ysgol Abersoch, yn parhau i gefnogi staff, rhieni a disgyblion yr ysgol arbennig hon yng nghalon ein cymuned."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae ystyried dyfodol unrhyw ysgol yn benderfyniad anodd.
"Fodd bynnag, mae gan y Cyngor, fel awdurdod addysg, ddyletswydd i sicrhau ein bod yn darparu'r addysg a'r profiadau gorau yn ogystal 芒'r awyrgylch addysgu gorau ar gyfer holl blant y sir.
"Yn dilyn ymgynghoriad am ddyfodol Ysgol Abersoch, mae'r penderfyniad wedi ei wneud i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr a chynnig lle i ddisgyblion yn yr ysgol gyfagos - Ysgol Sarn Bach.
"Ry'n ni wedi derbyn gohebiaeth yn ddiweddar gan Gorff Llywodraeth Ysgol Abersoch yn ein hysbysu bod saith aelod wedi ymddiswyddo.
"Yn y cyfamser, rydym yn diolch iddynt am eu gwaith a'u hymroddiad i Ysgol Abersoch ac addysg y disgyblion dros y blynyddoedd."