Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Wrecsam i barhau gyda chais am statws dinas er gwrthwynebiad
Bydd Wrecsam yn bwrw mlaen gyda chais am statws dinas er gwaethaf ymgyrch yn erbyn y cynlluniau.
Mae pwyllgor gweithredol y cyngor wedi pleidleisio o blaid parhau gydag ymgeisio mewn cystadleuaeth sy'n nodi Jiwbil卯 Platinwm y Frenhines.
Dros y penwythnos, fe ddaeth tua 100 o bobl ynghyd mewn protest a drefnwyd gan rai o gynghorwyr Plaid Cymru i wrthwynebu'r cais.
Yn 么l ymgyrchwyr, mae'r prosiect yn wastraff arian cyhoeddus.
Ddydd Mawrth, fe bleidleisiodd bwrdd y cyngor i gefnogi'r cais.
Mae aelodau o'r cyngor wedi dweud bod cael statws dinas wedi bod yn "gam positif" i fwyafrif y trefi sydd wedi ei dderbyn.
Ychwanegodd y byddai'n codi proffil Wrecsam ac yn denu cyllid i'r ardal.
Ond, mae cynghorydd Plaid Cymru Marc Jones wedi dweud ei fod eisiau i'r cyngor ganolbwyntio ar ennill gwobr Dinas Diwylliant yn 2025 yn lle.
Wrecsam yw'r unig dref yng Nghymru ar y rhestr hir o wyth lleoliad allai dderbyn teitl Dinas Diwylliant.