Lauren Price yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru
- Cyhoeddwyd
Y bocsiwr Lauren Price yw enillydd gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru.
Fe wnaeth Price, 27, ennill y teitl pwysau canol Olympaidd ym mis Awst, gan guro Li Qian o China yn Tokyo.
Roedd Price, sydd o Ystrad Mynach, yn well na'i gwrthwynebydd drwy gydol yr ornest yng Ngemau Olympaidd Tokyo, wrth i bob un o'r beirniaid ddyfarnu ei bod yn fuddugol ar bwyntiau.
Roedd y fuddugoliaeth yn golygu mai Price yw'r Gymraes gyntaf i ennill medal aur Olympaidd am focsio.
Cafodd Price ei dewis gan banel o arbenigwyr oedd wedi ei gadeirio gan gyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker.
Roedd y panel yn cynnwys y Farwnes Tanni Grey-Thompson, prif weithredwr Criced Cymru, Leshia Hawkins, cyn-chwaraewr p锚l-droed a ph锚l-rwyd dros Gymru, Nia Jones, ac Owen Lewis o Chwaraeon Cymru.
Roedd "trafodaethau cadarn" ymysg y panel, meddai Walker, ond cafodd Price ei dewis oherwydd "ei llwyddiant yn 2021, effaith hynny ar y wlad... a'r brwydrau personol mae'r person yma wedi bod drwyddyn nhw".
Er ei llwyddiant, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai chwerw-felys i Price.
Bu farw ei thad-cu, oedd ynghyd 芒'i mam-gu wedi magu'r bocsiwr, yn Nhachwedd 2020, ac fe ddywedodd bod y fedal aur er cof amdano.
Cafodd Price ei magu yn Ystrad Mynach, Sir Caerffili, gan fynychu'r ysgol ym Margoed.
Wedi iddi ddod i'r amlwg bod ganddi dalent o oed ifanc, dechreuodd ymarfer a chystadlu mewn p锚l-rwyd, cic-focsio a ph锚l-droed.
Pan oedd hi'n iau, fe wnaeth hi gynrychioli Cymru mewn p锚l-rwyd a taekwondo, ac mae hi wedi ennill teitlau Prydeinig ac Ewropeaidd mewn cic-focsio.
Chwaraeodd dros 50 o weithiau dros dimau ieuenctid, ac yna t卯m cyntaf p锚l-droed Cymru, cyn penderfynu canolbwyntio ar focsio.
Yn 17 oed fe enillodd ei medalau cyntaf ym mhencampwriaethau Ewrop yn 2011.
Price oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014, gan ennill efydd, cyn mynd ymlaen i ennill yr aur pum mlynedd yn ddiweddarach yn 2019.
Yn dilyn ei buddugoliaeth Olympaidd, y cwestiwn mawr iddi nawr ydy a fydd yn parhau fel amatur ac amddiffyn ei theitl, neu'n troi'n broffesiynol ac ymladd am arian.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021
- Cyhoeddwyd10 Awst 2021