Galw am ysgol Gymraeg newydd yng ngogledd Powys
- Cyhoeddwyd
Mae galw am agor ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yng ngogledd Powys.
Mae aelod o Gyngor Powys am weld Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin yn cael ei dynodi yn Ysgol Gymraeg.
Yn 么l y Cynghorydd Bryn Davies, mae pryder bod rhieni lleol yn gorfod mynd 芒'u plant tu allan i'r ardal i gael addysg Gymraeg.
Ddydd Mawrth, bydd cabinet Cyngor Powys yn trafod dyfodol tair ysgol gynradd yn yr ardal.
Ar un adeg, roedd ysgolion Llanfechain, Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin yn mynd i gael eu cau ond yr argymhelliad o flaen y cabinet ddydd Mawrth yw y dylid eu cadw ar agor.
Dywedodd y Cynghorydd Bryn Davies, sy'n byw yn nalgylch Ysgol Bro Cynllaith: "Yn naturiol 'dech chi'n croesawu peidio gorfod cau yr ysgol ond mae o yn anodd cyfiawnhau cadw ysgol efo dim ond 25 o blant yn agored, ond mae rhai ysgolion llai eto.
"Yn ysgol ardal Llansilin 'den ni wedi bod yn galw am addysg ddwyieithog i bawb ers dros hanner canrif.
"R诺an mae dwsin da o blant o ardaloedd dalgylch Ysgol Bro Cynllaith, Llansilin yn cael eu cludo ers blynyddoedd i Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant [i gael addysg Gymraeg] ac felly mae niferoedd Ysgol Bro Cynllaith yn artiffisial o fach."
Yn 么l y cynghorydd, byddai cael ysgol Gymraeg yn Llansilin yn denu rhagor o ddisgyblion sydd yn teithio heibio'r ardal i dderbyn eu haddysg yn Gymraeg.
Dywedodd: "'Den ni o fewn lled cae efo'r ffin efo Lloegr, efo Sir Amwythig - mae 'na Gymry Cymraeg yn byw yn Sir Amwythig.
"Felly nid yn unig basen ni'n gallu cadw'r 12 o blant sy'n barod i deithio i gael addysg Cymraeg, basen ni yn denu plant o Sir Amwythig sydd hefyd yn dymuno addysg Gymraeg," ychwanegodd.
"Ma' nhw ar y funud yn mynd heibio Ysgol Llansilin i Llanrhaeadr-ym-Mochnant neu Lanfyllin i gael addysg Gymraeg."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys y bydd y cyngor yn ailystyried yr opsiynau ar gyfer yr ysgolion.
Ychwanegodd y bydd mynediad i addysg Gymraeg yn rhan o'r adolygiad hwnnw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018