Trydydd brechlyn i oedolion cyn diwedd Rhagfyr 'os yn bosib'
- Cyhoeddwyd
Bydd pob oedolyn sy'n gymwys yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd y flwyddyn "os yn bosib" dan gynllun Llywodraeth Cymru.
Nos Lun fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi'r cynllun newydd mewn neges ar sianel deledu 大象传媒 Cymru.
Dywedodd ei fod yn rhagweld y bydd angen treblu nifer y brechiadau sy'n cael eu rhoi er mwyn taro'r targed hwnnw.
Ychwanegodd bod y llywodraeth yn "debygol o orfod cymryd rhagor o gamau i ddiogelu Cymru".
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog gyhoeddi unrhyw newidiadau, os oes angen, ddydd Gwener.
Daw'r cyhoeddiad nos Lun yn dilyn addewid Boris Johnson i gynnig y trydydd brechlyn i bawb dros 18 sy'n gymwys erbyn diwedd Rhagfyr.
Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "gwneud popeth posib i gyflymu'r rhaglen frechu".
Dywedodd Mr Drakeford bod Omicron yn bygwth creu "sefyllfa ddifrifol iawn" ac erbyn diwedd y mis, Omicron fydd "prif ffurf y feirws, gan gyflwyno ton newydd o haint a salwch".
Mae 30 o achosion Omicron bellach wedi eu cofnodi yng Nghymru ac fe ddaeth i'r amlwg fod un person eisoes yn yr ysbyty gyda'r haint.
Yn ei neges dywedodd y Prif Weinidog "nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon" a bod y pigiad atgyfnerthu yn "hollbwysig i wella'r amddiffyniad rhag yr amrywiolyn newydd sy'n lledaenu'n gyflym".
"Mae'r wybodaeth sydd gennym yn dweud ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn. Mae Omicron yn symud yn gyflym iawn," meddai'r Prif Weinidog.
"Mae'n bosibl y bydd hyn yn arwain at nifer fawr o bobl yn yr ysbyty, ar yr union adeg pan mae'r Gwasanaeth Iechyd eisoes dan straen sylweddol.
"Ein nod yw cynnig apwyntiad i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y flwyddyn, os gallwn.
"Dyma fydd blaenoriaeth y Gwasanaeth Iechyd dros yr wythnosau nesaf.
"Rhowch flaenoriaeth i'r pigiad atgyfnerthu. Dyma'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun yn erbyn y coronafeirws a'r amrywiolyn newydd."
Mae disgwyl i'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan rannu rhagor o fanylion mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth.
'Sefyllfa'n gwaethygu'
"Doedd neb ohonom eisiau clywed y newyddion am yr amrywiolyn omicron hwn," ychwanegodd.
"Ar 么l dwy flynedd hir o'r pandemig, roeddem i gyd wedi gobeithio gallu rhoi'r coronafeirws y tu n么l i ni y Nadolig hwn.
"Unwaith yn rhagor, yn anffodus, rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol, sy'n gwaethygu.
"Gallwn dynnu gyda'n gilydd eto, i ddiogelu ein gilydd - ein ffrindiau, ein teulu, ein cymdogion. Diogelu ein gilydd, a chadw ein hunain yn iach ac yn saff.
"Rydyn ni eisoes wedi cymryd rhai camau i amddiffyn pobl. Ac mae'n debygol y bydd angen i ni gymryd camau eraill i'ch diogelu chi, a diogelu Cymru."
Wrth ymateb dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Does dim angen rhagor o gyfyngiadau arnom os oes cyfran fawr iawn o bobl yn cael eu brechu.
"Mae dyletswydd ar bobl sy'n gymwys i gael eu brechlyn ac mae gan lywodraeth Lafur gyfrifoldeb i gyflymu'r rhaglen frechu. Mae cymdeithas rydd ac economi agored yn dibynnu ar hynny."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Mae'n rhaid i'n Gwasanaeth Iechyd dderbyn y gefnogaeth a'r adnoddau y mae ei angen i weithredu'r cynllun brechu fel mater o flaenoriaeth lwyr a dylid ehangu apwyntiadau 'cerdded i mewn' fel bod mwyafrif y boblogaeth yn cael brechlyn atgyfnerthu erbyn y flwyddyn newydd."
Ychwanegodd bod adroddiadau o brinder profion llif unffordd yn "hynod bryderus ac ni allai fod wedi dod ar adeg gwaeth."
Llacio rheol goruchwylio?
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Dr Eilir Hughes o feddygfa T欧 Doctor yn Nefyn: "Mae hon yn darged hyn yn oed yn fwy uchelgeisiol o ystyried lefel y gwaith - pa mor brysur yw'r Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd ar yr adeg yma o'r flwyddyn ond hefyd 'dan ni'n mynd drwy gyfnod y gwyliau - mae lot o ddiwrnodau i ffwrdd, lot o ddyddiau G诺yl y Banc ac mae'n staff ni wedi blino."
"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod yn realistig - mae yna elfennau, ar hyn o bryd, sy'n bodoli efo'r hyblyn - er enghraifft, sicrhau fod pobl yn cael eu goruchwylio ar 么l ei chael hi," ychwanegodd.
"Petaen nhw yn medru llacio'r rheolau yma - gwneud y gwaith ymarferol yn rhwyddach i feddygfeydd ar draws Cymru - yna dwi'n meddwl bod modd i ni 'neud dipyn o wahaniaeth yn y cyflymder 'dan ni'n rhoi'r frechlyn allan - ond tan 'dan ni'n medru goroesi'r heriau hynny dwi'n teimlo, efallai, bod hi'n rhy anodd ond amser a ddengys ac efallai bod modd i rai o'r pethau 'ma lacio wrth i ni geisio cyflymu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2021