大象传媒

Cyllideb Cymru: I ble mae'r arian yn mynd?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arian CymruFfynhonnell y llun, Thinkstock

Wedi blynyddoedd o doriadau, mae'r gyllideb ar gyfer rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn tyfu.

Ond mae Mark Drakeford a'i weinidogion yn dal i wynebu penderfyniadau anodd.

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi ei blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb, ac fel y mae pethau, mae disgwyl i'r arian penodol ar gyfer ymladd y pandemig ddod i ben y flwyddyn nesaf.

Mae'n rhaid i'r llywodraeth hefyd dalu am y polis茂au y mae wedi'u cytuno 芒 Phlaid Cymru.

I ble mae'r gyllideb yn mynd felly?

Arian

Yn syml, mae mwy ohono. Mwy na blynyddoedd blaenorol a mwy na'r disgwyl yn y gwanwyn.

Bydd cyllid ar gyfer gwariant dydd i ddydd, fel talu nyrsys ac athrawon, dros 拢18bn y flwyddyn nesaf.

Dyma'r cyfle cyntaf ers 2010 i wario mwy ar bob math o wasanaethau cyhoeddus, nid dim ond iechyd, meddai arbenigwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Mae'r Trysorlys yn Llundain hefyd wedi nodi maint y gyllideb yn ystod blynyddoedd olaf Mark Drakeford fel Prif Weinidog.

Ond mae ef a'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn gwybod bod "mwy" a "digon" yn bethau gwahanol iawn.

Mae'r gyllideb graidd yn tyfu, ond mae taliadau brys i ymdopi 芒 Covid yn dod i ben. Mwy na thebyg聽bydd olynydd Mr Drakeford hefyd yn wynebu cost gwaddol y pandemig.

Covid

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cyllid brys gwerth tua 拢8bn i fynd i'r afael 芒 Covid ers mis Mawrth 2020.

Roedd tua 拢500m heb ei wario ddechrau wythnos ddiwethaf, cyn i'r Trysorlys addo 拢135m yn ychwanegol diolch i Omicron. Ond does dim sicrwydd faint yn fwy, os unrhyw beth, fydd ar gael ar 么l hynny.

Mae'r gwasanaeth iechyd yn cael tua hanner y gyllideb, ond roedd angen biliynau'n fwy ar gyfer offer diogelwch ac i frechu pobl.

Nawr, rhaid iddo ddelio gyda'r amrywiolyn newydd ar adeg pan mae ysbytai'n gobeithio taclo'r amseroedd aros anferth a gr毛wyd gan y tonnau blaenorol o'r haint.

Does dim sicrwydd y bydd yr arian sydd ar gael i helpu disgyblion ysgol i ddal i fyny yn ddigonol, ac fe fydd y sector preifat yn gofyn Llywodraeth Cymru am help hefyd.

Hyd yn oed cyn i unrhyw gyfyngiadau newydd gael eu cyflwyno y gaeaf hwn, roedd y diwydiant lletygarwch a hamdden wedi gofyn i drethi busnes gael eu hepgor eto'r flwyddyn nesaf.

Hinsawdd

Fe wnaeth Mark Drakeford greu gweinidogaeth newydd eleni pan roddodd bortffolio enfawr i'r adran Newid Hinsawdd. Mae ei dyletswyddau'n cynnwys adeiladu miloedd o gartrefi a chadw'r trenau i redeg ar amser.

O ganlyniad, yr adran hon sy'n cael y gyfran fwyaf o gyllideb cyfalaf y llywodraeth - dyna'r arian sy'n talu am adeiladau, ffyrdd ac offer ysbyty, yn hytrach na chostau dyddiol fel cyflogau.

Mae'r adran hefyd yn arwain ymdrechion i wneud Cymru'n genedl sero-net erbyn 2050.聽Bydd targed cynharach fyth - 2035 - yn cael ei ystyried dan y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Bydd y gyllideb hon yn cael ei harchwilio'n fanwl am dystiolaeth i brofi bod y llywodraeth o ddifrif am yr amgylchedd.

Cydweithio, nid clymbleidio

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru ei arwyddo ddechrau'r mis

"Perfformiad rhyfeddol mewn economeg voodoo" yw sut y disgrifiodd Mark Drakeford maniffesto Plaid Cymru.

Nawr mae'n rhaid iddo ganfod yr arian i dalu am bolis茂au'r Blaid, fel prydau ysgol am ddim (tra bod Llafur yn hawlio'r clod ar Facebook).

Mae'r cyfan yn rhan o'r cytundeb cydweithio y mae wedi'i daro gydag Adam Price.

Mae'r cynnydd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i benderfyniadau gwario gan Rishi Sunak, yn helpu egluro pam y gall Mr Drakeford nawr fforddio pethau yr oedd yn wfftio rhai misoedd yn 么l.

Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dalu sylw i flaenoriaethau ei phartner cydweithio er mwyn cwblhau unrhywbeth.

Costau byw

Mae chwyddiant yn codi ac mae incwm aelwydydd yn cael ei wasgu.

I ymdopi 芒 hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 拢100 i unrhyw un sy'n cael Credyd Cynhwysol y mis hwn neu'r nesaf.

Yn y gyllideb hon, gallai gweinidogion edrych ar ffyrdd eraill o roi arian yn 么l yng nghyfrifon banc pobl, yn enwedig y rhai lleiaf cefnog.

Mae ganddynt bwerau dros rhai trethi.

Cafodd 1% yn ychwanegol yn y dreth trafodiadau tir ei osod ar bobl sy'n prynu ail gartrefi yn y gyllideb llynedd.

Yn eu maniffesto fe wnaeth Llafur Cymru addo cadw hynny - tra hefyd yn addo peidio codi'r dreth incwm tra bod y pandemig yn parhau i effeithio ar yr economi.