Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysgol Abersoch: Cau'r drws am y tro olaf wedi bron i ganrif
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Wedi 97 o flynyddoedd, mae Ysgol Abersoch wedi cau'r drws am y tro olaf ddydd Mercher.
Yn dilyn penderfyniad i gau'r ysgol sydd 芒 chwech o ddisgyblion ynddi ers mis Medi, mae'r ysgol wedi bod yn destun ffrae rhwng y gymuned leol a chabinet Cyngor Gwynedd.
Yn 么l y cyngor, doedd dyfodol yr ysgol ddim yn gynaliadwy oherwydd costau a diffyg disgyblion.
Ond drwy gydol y broses mae cyfeillion yr ysgol wedi dadlau y byddai cau'r ysgol yn arwain at effaith negyddol ar y gymuned a'r iaith Gymraeg.
Wrth nodi cau'r ysgol fe gynhaliwyd diwrnod agored yn nyddiau olaf yr tymor i gyn ddisgyblion a chyfeillion ddod ynghyd.
Tra bod y penderfyniad i gau'r ysgol wedi eu gwneud ers rhai misoedd bellach, mae 'na anghrediniaeth yma o hyd.
"Ma'i'n ddiwrnod emosiynol", meddai'r pennaeth, Linda Jones.
"Ond ma'i hefyd yn ddiwrnod hapus i rannu atgofion, a gobeithio ddeith cyn ddisgyblion, pobl y pentref er mwyn rhannu profiadau a chofio'r dyddiau da."
Fel un o gyn ddisgyblion yr ysgol, roedd derbyn swydd Pennaeth Ysgol Abersoch yn freuddwyd i Linda Jones.
"Does ysgol ei thebyg hi yn nunlle arall", meddai.
Gyda dim ond chwech o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg yn yr ysgol fe benderfynodd cabinet Cyngor Gwynedd i gau'r safle.
Tra bod cynghorwyr a thrigolion lleol wedi dadlau y byddai datblygiadau tai a gwestai cyfagos yn arwain at fwy o ddisgyblion mewn blynyddoedd i ddod, yn 么l Cyngor Gwynedd doedd dim sicrwydd o hynny.
Ddechrau Rhagfyr fe benderfynodd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Abersoch ymddiswyddo oherwydd eu gwrthwynebiad unfrydol at y penderfyniad.
Yn 么l Eifiona Wood, un o gyn llywodraethwyr yr ysgol, doedd y penderfyniad "ddim yn deg".
"Roeddan ni wedi cael ein rhoi mewn safle eithaf anodd gan y Cyngor," meddai.
"Mi oedd na ddisgwyl i ni ddiswyddo'r staff ac roeddan ni'n teimlo bod ni wedi cwffio gymaint i gadw'r ysgol ar agor, oedd o'n teimlo'n hynod annheg inni fynd drwy'r broses honno."
Gyda hanes hirfaith yn ymestyn dros bron i ganrif roedd cyfle i rai o'r disgyblion hynaf ddod draw hefyd.
Roedd Robert Hywel Wyn Williams yn gyn ddisgybl yn Ysgol Abersoch yng nghanol y 1940au.
"Mond y ddwy ystafell yma oedd yr ysgol ac oedd na rhyw 30 ohonom ni yma.
"Mi oedd a stof yn y canol i gynhesu'r ddwy ystafell a chwpwrdd mawr draw fanna efo llyfr du, ac yn y llyfr hwnnw oedd enwau'r plant oedd yn camfihafio."
Ar 么l cyfaddef i'w enw gael ei gynnwys ambell waith... dywedodd y bydd cau'r ysgol yn glec i'r ardal.
"Mae'n drist i'r gymuned ac yn enwedig i'r gymuned Gymraeg, mae o fatha torri braich dde o'r gymuned.
"Mae hon di bod yn athrylith i ni," meddai.
Melissa (chwith yn y llun uchod) fydd un o'r chwech o ddisgyblion olaf i dderbyn eu haddysg yn yr ysgol.
"Dwi'n drist, fi ddim isho mynd i ysgol arall ond isho mynd i Ysgol Abersoch," meddai.
Mae 'na bron i ganrif o atgofion a hanesion o fewn muriau Ysgol Abersoch. Tra bydd y drws yn cau am y tro olaf ddydd Mercher, bydd yr atgofion yn fyw o hyd.