´óÏó´«Ã½

Galw am ailagor pyllau hydrotherapi 'ar frys'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pwll hydrotherapi
Disgrifiad o’r llun,

Mae pyllau hydrotherapi yn cael eu defnyddio i helpu rheoli cyflyrau iechyd difrifol

Mae angen ailagor holl byllau hydrotherapi Cymru i drin pobl sy'n dioddef o gyflyrau'r cyhyrau, medd elusennau.

Mae pyllau drwy Gymru wedi eu cau oherwydd y coronafeirws, gan effeithio'n fawr ar fywydau nifer o bobl gydag anableddau.

Yn ôl yr elusen anabledd Scope, mae bron i hanner pobl gydag anableddau yn symud llai yn ystod y pandemig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gwasanaeth iechyd dan straen enfawr ac y byddai pyllau'n ailagor pan mae modd gwneud hynny.

Mae'r Gymdeithas Axial Spondyloarthritis Genedlaethol a Chymdeithas Dystrophy'r Cyhyrau wedi galw am ailagor y pyllau ar frys.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhian Iolen Jones ddiagnosis o lid y cymalau yn ei chlun ddwy flynedd yn ôl

Mae Rhian Iolen Jones yn byw yn Llansadwrn ar Ynys Môn. Mae hi'n profi cyfnodau o boen oherwydd llid y cymalau ac mae ganddi ME, neu gyflwr blinder cronig.

Roedd hi wedi gobeithio cael mynd i bwll hydrotherapi yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ond mae hwnnw ar gau ar hyn o bryd.

Dywedodd Rhian wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw bod llid y cymalau'n rhedeg yn y teulu.

Mae "poen yn dod i lawr drwy'r goes, ac wedyn poen yn dod o'r hip i lawr drwy'r goes - ac wedyn brifo wrth drio cerdded a gwneud rhyw bethe felly," meddai.

"'Nes i holi yn Ysbyty Gwynedd i weld os fuaswn i yn cael hydrotherapi yno," meddai, "ond oherwydd yr achos efo Covid a petha, doeddan nhw ddim yn gwneud petha felly wrth reswm".

"Ches i ddim o'r cyfle da chi'n gwybod. Dwi'n teimlo base fo wedi helpu.

"Oherwydd pan mae corff rhywun mewn dŵr yn nofio mae o'n helpu….y boen yn llai," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwll hydrotherapi yn Ysbyty Gwynedd ar gau yn sgil y pandemig

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y pwll hydrotherapi yn Ysbyty Gwynedd wedi gorfod cau ar ddechrau'r pandemig fel rhan o gynllun i ohirio triniaethau nad oedd yn hollbwysig.

Ychwanegon nhw fod y staff wedi eu trosglwyddo i adrannau eraill, gan gynnwys adrannau gofal dwys, a'u bod nhw wedi methu ag ailagor y pwll o ganlyniad i reolau rheoli haint llym yn sgil y pandemig.

'Mwy o byllau i anifeiliaid na phobl'

Ond mae cau pyllau hydrotherapi yn broblem drwy Gymru, ac mae elusennau am eu gweld yn ailagor ar frys.

Maen nhw'n honni bod yna fwy o byllau hydrotherapi i drin anifeiliaid na phobl yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid gweld hydrotherapi fel triniaeth angenrheidiol, medd Hannah Murphy

Mae Hannah Murphy yn aelod o Fwrdd rheoli'r Gymdeithas Axial Spondyloarthritis Genedlaethol, elusen cryd cymalau.

"Er gwaethaf ei fuddion aruthrol, mae hydrotherapi yn parhau i gael ei danariannu a'i ddibrisio," meddai wrth Cymru Fyw.

"Da ni eisiau newid hyn a gweld hydrotherapi yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol trwy wneud y canlynol: Yn gyntaf, sicrhau bod modd i bawb sydd ei angen fanteisio arno, a bod hydrotherapi yng angenrheidiol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd gwneud ffisiotherapi mwy effeithiol mewn pyllau hydrotherapi gan fod tymheredd y dŵr yn lleihau'r straen ar y cymalau

"Yn ail, cynnwys hydrotherapi yn y canllawiau clinigol perthnasol er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn ei flaenoriaethu."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y gwasanaeth iechyd dan straen enfawr ar hyn o bryd ac y bydden nhw'n disgwyl i fyrddau iechyd ailddechrau gwasanaethau fel therapi hydro pan fyddan nhw mewn sefyllfa i fedru gwneud hynny.

Ond gyda Covid yn llosgi fel tân gwyllt ar y funud, mae'n annhebygol y bydd y pyllau'n ailagor yn fuan.