Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Argyfwng ail dai: Edrych n么l ar flwyddyn o weithredu
- Awdur, Liam Evans & Bryn Jones
- Swydd, Gohebwyr 大象传媒 Cymru
Mae ail gartrefi yn un o'r pynciau llosg sydd wedi cael cryn sylw yn 2021 - hynny yn sgil pryderon am y nifer cynyddol ac wrth i gynllun y Blaid Lafur a Phlaid Cymru nodi bod angen "gweithredu ar unwaith i fynd i'r afael 芒'r cynnydd".
Er yn wreiddiol o ardal Penrhyndeudraeth mae teulu Catrin Roberts wedi gosod eu gwreiddiau yn ardal Morfa Nefyn ers cenedlaethau.
Fe dreuliodd flynyddoedd yn teithio n么l a mlaen o'r ardal pan yn blentyn i ymweld 芒'i nain a'i thaid a dywed ei bod yn teimlo'n ffodus iawn o etifeddu'r t欧, lle mae bellach yn magu ei theulu.
Mae Catrin wedi bod yn llais amlwg yn yr ymdrech i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng ail gartrefi ond er iddi groesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael 芒'r broblem yn gynharach eleni, mae hi dal yn poeni am ddyfodol yr ardal.
Dywed merch Catrin, Nel sy'n 16 oed, ei bod wedi derbyn y bydd hi'n annhebygol y bydd hi'n gallu fforddio aros yn y pentre' lle ei magwyd hi.
Mae'r gwahaniaeth sydd i weld rhwng y gaeaf a'r haf ym Mhen Ll欧n yn drawiadol.
Yn ystod y misoedd braf mae'i bron 芒 bod yn amhosib parcio ym Morfa Nefyn - mae'r traeth yn llawn a bwrlwm ar hyd strydoedd y pentref.
Golwg go wahanol sydd yna ar brynhawn oer a gwlyb ym mis Rhagfyr.
"Mae'n wag iawn yma," meddai Catrin.
"Mae'n ardal hyfryd, dyma'r l么n sy'n arwain ni lawr at y traeth ac mae'r rhan fwyaf o'r tai sydd yn yr ardal yma yn ail gartrefi."
T欧 teras bron yn 拢300,000
Wrth gerdded ar hyd y stryd dawel fe bwyntiodd Catrin at nifer o dai sydd bellach yn ail gartrefi neu'n dai haf.
"Mae 'na fflatiau gwyliau moethus ym mhen y l么n fan hyn, roedd y penthouse yn mynd am filiwn ac mae hynny 'di cael effaith ar brisiau tai eraill.
"Mae 'na d欧 yn mynd am hanner miliwn o bunnoedd ac wedyn rhes o dai, hen dai ar dop y l么n - mae t欧 teras bychan efo croglofft yn mynd am bron i dri chan mil."
Yn 么l Catrin mae hi'n teimlo'n ffodus iawn i gael byw mewn ardal hardd sydd 芒 chymuned gl貌s ond mae'n dweud mai'r pryder ydi na fydd modd i'w phlant hi a chenedlaethau o blant sydd i ddod fyw yn yr un gymuned.
Mae gweithredu a phrotestio am y cynnydd mewn ail gartrefi wedi bod yn amlwg iawn ym Mhen Ll欧n ers degawdau.
Uwchlaw pentref Nefyn llosgwyd t欧 haf ar noson gyntaf ymgyrch Meibion Glynd诺r.
Yn Llanbedrog cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y mudiad 'Cymuned' ugain mlynedd yn 么l.
Ac yn 2021, rhai o aelodau cyngor tref Nefyn sydd wedi arwain protestiadau Hawl i Fyw Adra.
Ym mis Tachwedd 2021 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot yn ardal Dwyfor fyddai'n rhoi pwerau newydd i gynghorau i gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi.
Mae'n bosib y bydd rhaid cael caniat芒d i drawsnewid tai hefyd.
Mae Rhys Tudur wedi bod yn un o'r ymgyrchwyr mwyaf brwd ac yn croesawu'r cyhoeddiad fel cam cyntaf.
"Cyn y cyhoeddiad doedd gynnon ni ddim math o arwydd fod unrhyw fath o ewyllys gan y llywodraeth i daclo'r sefyllfa ond 'dan ni'n gwybod bod 'na r诺an," meddai.
"Mae rhaid inni barhau r诺an i sicrhau'r mesurau 'dan ni eisiau i daclo'r argyfwng yma".
Wrth gydnabod fod 'na le i rai llety gwyliau sydd o bosib yn cyfrannu i'r economi leol, mynnodd fod 'na lai o fudd' i dai haf i'r rhai hynny sy'n dod yma ambell dymor y flwyddyn.
N么l ym Morfa Nefyn fe aeth Catrin a'i merch Nel o gwmpas stad o dai cyfagos.
Gyda dim ond ambell olau t欧 ymlaen mae'r ddwy yn dweud dyma sut ddyfodol all yr ardal hon wynebu os nad oes rhywbeth yn newid.
"Mi allai'r rhain fod yn dai a chartrefi i deuluoedd lleol, yn olau, yn gynnes ac adeg yma'r flwyddyn wedi eu haddurno gyda golau 'Dolig ond yn anffodus nid felly mae hi," meddai Catrin.
Wrth gerdded ar hyd y strydoedd tywyll oedd wedi eu goleuo gan ambell lamp stryd, dywedodd merch Catrin, Nel, nad oedd hi'n hyderus y byddai hi'n gallu bod yn rhan o ddyfodol y pentref.
"Mae o bron yn rhywbeth 'da ni wedi derbyn... pan fyddai'n h欧n, mae'n annhebygol fyddai'n gallu byw yma oni bod rhywbeth yn digwydd.
"Mae'n rhaid i rywbeth ddigwydd er mwyn arbed y sefyllfa waethygu oherwydd mae'n gwaethygu bob blwyddyn.
"Mae 'na fwy a mwy yn dod yma bob blwyddyn, mwy a mwy o dai haf a llai o fobl lleol yn byw yma".
Erbyn hyn mae 30% o stoc dai Morfa Nefyn yn dai gwyliau.
Dim ond trwy weithredu polis茂au cadarn y bydd modd creu newid yn 么l y fam a'r ferch.
Fydd y ddwy yn aros yn eiddgar i weld a fydd arbrawf Llywodraeth Cymru'n ddigon i achub dyfodol y gymuned hon.