'Poeni am fy nheulu bob tro mae'n bwrw glaw'

Disgrifiad o'r llun, Roedd tirlithriad ym Mhendyrys wedi Storm Dennis ym mis Chwefror 2020

Bob tro mae'n bwrw glaw, mae Phil Thomas yn poeni wedi iddi ddod i'r amlwg fod ei deulu ifanc yn byw yng nghysgod hen domen lo allai fod yn beryglus.

Mae hyd yn oed wedi ystyried pa ffordd y bydden nhw'n rhedeg "pe byddai rhywbeth yn dechrau tywallt i lawr yr allt" y tu 么l i'w gartref.

"Ond mewn gwirionedd byddai dim gobaith gyda ni," medd y tad i ddau, sy'n 39 oed.

Daeth pryderon am domenni glo yng Nghymru yn amlwg wedi i 60,000 tunnell o wastraff lifo i lawr dyffryn yn dilyn storm yn 2020.

Yn ffodus, ni chafodd neb ei anafu pan lifodd y gwastraff i lawr dyffryn gwag ger Pendyrys yn y Rhondda, ond mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu bod oddeutu 2,500 o hen domenni yn y wlad o hyd.

Mae'r mwyafrif llethol wedi eu cuddio gan natur, ond mae 327 yn dal i gael eu hystyried fel rhai "risg uchel" sy'n golygu bod angen eu harchwilio'n gyson am unrhyw arwydd o symud.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim eto wedi datgelu'n gyhoeddus ym mhle mae'r tomenni mwyaf peryglus, na faint o bobl sy'n byw yn agos atyn nhw.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Bu farw 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant yn nhrychineb Aberfan yn 1966

Ym mis Chwefror y llynedd, aeth Phil Thomas i'r archif lleol wedi misoedd o fethu cael atebion am domen lo posib ger ei gartref ym mhentref Ynyshir yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd wedi gobeithio tawelu ei ofnau wrth astudio hen ddogfennau.

Ond yn hytrach fe ddaeth o hyd i adroddiad a ysgrifennwyd yn sgil trychineb Aberfan yn 1966 oedd yn dangos fod ei gartref - ynghyd ag 20 o rai eraill - wedi ei ddisgrifio fel "mewn perygl" gan beirianwyr oedd yn archwilio diogelwch y domen leol.

"Fe wnaeth hynny droi fy stumog," meddai. "Mae gen i deulu a chartref. Ry'n ni wedi bod yno ers wyth mlynedd. 'Naeth hyn erioed gael ei grybwyll, hyd yn oed pan brynon ni'r t欧.

"Ro'n i wedi meddwl - yn na茂f efallai - bod mwyafrif y tomenni glo wedi cael eu gwneud yn ddiogel erbyn hyn.

"Mae'n gwneud i chi boeni bob tro mae'n bwrw glaw y gallai rhywbeth ddigwydd, nid dim ond i mi ond i'r 327 o domenni risg uchel sydd yma yng Nghymru.

"Beth ddylen ni wneud os oes rhywbeth yn dechrau llifo i lawr yr allt? Byddai dim gobaith gyda ni.

"Pe bydden ni'n gallu cael y wybodaeth heddiw, rwy'n sicr y byddai pobl yn fwy ddiogel nag ydyn nhw heb y wybodaeth."

Tua'r un adeg y dechreuodd Mr Thomas wneud ymholiadau, fe wnaeth llywodraethau Cymru a'r DU sefydlu Tasglu Diogelwch Tomenni Glo.

Disgrifiad o'r llun, Mae Phil Thomas yn byw'n agos i domen lo yn y Rhondda

Daeth Llywodraeth Cymru i'r casgliad yn fuan fod newid hinsawdd yn golygu y byddai angen "cannoedd o filiynau o bunnoedd" i sicrhau diogelwch hen domenni glo.

Ers hyn mae gweinidog newid hinsawdd Cymru wedi dweud fod cynlluniau ar y gweill ar gyfer system negeseuon testun a fyddai'n gallu rhybuddio trigolion "os oes problem".

Ond ni fydd lleoliadau'r tomenni yn cael eu datgelu tan yn ddiweddarach eleni er mwyn gwneud gwiriadau pellach am fanylder y wybodaeth.

Pan fydd y wybodaeth yn dod yn gyhoeddus, fe allai nifer o deuluoedd ganfod am y tro cyntaf eu bod yn byw o dan hen domen lo.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef y gallai pethau fel yswiriant cartref fod yn cynyddu.

Disgrifiad o'r llun, Mae Ynyshir yn bentref ger Porth, Rhondda Cynon Taf

Credir fod cymaint 芒 70% o domenni glo Cymru ar dir preifat, gan gynnwys yr un uwchlaw cartref Phil Thomas a'i deulu.

Ond o dan y ddeddf ar hyn o bryd, does gan gynghorau mo'r grym i ymyrryd oni bai eu bod yn gallu profi fod tomen yn "berygl clir ar ddigwydd".

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith adolygu'r sefyllfa yna, ac hefyd yn dweud eu bod yn "treialu dulliau gwahanol o ddeall technoleg allai gael ei defnyddio i hysbysu pobl am unrhyw newid yn sefydlogrwydd y tomenni".

"Ymhen amser, fe fyddem yn hoffi medru rhannu'r wybodaeth yn uniongyrchol gyda phobl yn y cymunedau lleol, ond mae angen gwneud hyn mewn ffordd sydd ddim yn codi ofn heb angen," meddai llefarydd.