大象传媒

Angen arholiadau 'teg a diogel', medd undeb

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
arholiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n fwriad gan Lywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru i gynnal arholiadau eleni

Mae angen i arholiadau sy'n cael eu sefyll nawr neu'n yr haf fod yn "deg ac yn ddiogel", yn 么l undeb addysg.

Dywed ASCL Cymru fod angen ystyried ffactorau fel presenoldeb dysgwyr, absenoldeb staff a'r amrywiolyn Omicron.

Mae pryderon am fwy o darfu ar addysgu wyneb yn wyneb ar drothwy y tymor newydd wrth i rai dysgwyr baratoi ar gyfer arholiadau TGAU a phynciau galwedigaethol.

Yn hwyr nos Fawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid newydd o tua 拢100m i sicrhau bod ysgolion a cholegau'n ddiogel o ran Covid.

Mae'r rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru yn bwriadu cynnal arholiadau fis yma, ac os yw disgyblion yn eu methu fe fyddan nhw'n cael cyfle i'w sefyll yn yr haf.

Eisoes mae ysgolion wedi cael dau ddiwrnod cynllunio ychwanegol, sy'n cynnwys paratoi ar gyfer arholiadau.

Bydd rhai arholiadau sy'n cael eu dyfarnu gan CBAC, gan gynnwys TGAU, cymwysterau cyffredinol a chymwysterau galwedigaethol, yn dechrau'r wythnos nesaf ar 11 Ionawr.

'Annheg iawn'

"Pe bawn i'n ddisgybl heddiw - ym mlwyddyn 11, 12 neu 13 - yn paratoi ar gyfer yr arholiadau hyn byddwn yn teimlo braidd yn nerfus," meddai Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb ASCL Cymru.

"Y ddau beth mae angen i ni lynu atyn nhw o ran arholiadau - fis Ionawr neu dymor yr haf - yw bod angen iddyn nhw fod yn deg, ac mae angen iddyn nhw fod yn ddiogel."

Yn sgil y tarfu parhaus, mae Ms Hughes hefyd wedi galw am eglurder yngl欧n ag arholiadau'r haf ac am i benderfyniad gael ei wneud "mor gyflym 芒 phosib".

"Mae angen penderfyniad arnom yn eithaf cyflym os bydd newid. Does dim modd gwneud hyn ar y funud olaf, oherwydd byddai hynny'n annheg iawn i ddysgwyr sydd eisoes wedi dioddef cymaint," ychwanegodd.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru yn bwriadu cynnal arholiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru ddydd Mercher, dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg mai arholiadau yw'r ffordd mwyaf teg o asesu disgyblion, ond ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn asesu'r sefyllfa yn ddyddiol wrth i'r tymor newydd ddechrau.

"Ry'n ni'n cynllunio ar y sail y bydd arholiadau yn digwydd, a dyna fy neges i ysgolion," meddai.

"Blaenoriaethu arholiadau yw'r safbwynt cyffredin ar draws y DU, oherwydd hyd yn oed yn yr amgylchiadau heriol presennol dyna'r dull tecaf o asesu ein dysgwyr."

Ychwanegodd fod CBAC wedi addasu cynnwys y cyrsiau, lleihau faint o'r cynnwys fydd yn cael ei arholi ac wedi rhoi adnoddau ychwanegol a chefnogaeth i ddysgwyr.

Mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu cynnal arholiadau yr wythnos nesaf, ond bydd cyfle i'r rhai sy'n methu eu sefyll bryd hynny i'w sefyll nhw yn yr haf.

Mae rhai arholiadau gan CBAC, gan gynnwys TGAU, Cymwysterau Cyffredinol a Gwobrau Galwedigaethol, i fod i ddechrau ar 11 Ionawr.