Pwy fydd sêr y sin gerddoriaeth yn 2022?

Disgrifiad o'r llun, Ifan Davies, prif leisydd y band Sŵnami, aelod o Yr Eira a chyflwynydd rheolaidd ar Radio Cymru fu'n cyflwyno ar ´óÏó´«Ã½ Radio 1 dros y Nadolig

Ydy eich rhestr chwarae yn sych o fiwsig? Yn gwaredu blwyddyn arall o siarad feirws ac eisiau dihangfa? Y cerddor a'r cyflwynydd radio Ifan Davies sy'n awgrymu pum artist/band o Gymru i'ch rhestr chwarae yn 2022.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi profi'n un fwy cynhyrchiol nag erioed o ran cerddoriaeth newydd. Mae mwy o bobl i weld yn creu, ac yn llwyddo hefyd i gyd-greu.

Er nad ydy'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn un clên iawn â cherddoriaeth fyw, mae artistiaid a bandiau o Gymru dal wedi ffynnu, mentro a chreu tiwns. Mae 2022 yn argoeli'n flwyddyn gerddorol iach, egnïol a gwreiddiol.

Dyma bum enw fydd yn siŵr o serennu yn 2022, felly gwyliwch allan amdanyn nhw!

Gwenno Morgan

Ffynhonnell y llun, Y Selar

Disgrifiad o'r llun, Gwenno Morgan; pianydd, cyfansoddwr a chynhyrchydd

Mae enw Gwenno wedi codi'n sydyn mewn corneli cerddorol gwahanol dros y flwyddyn ddiwethaf. Ddes i ar draws ei henw hi am y tro cyntaf ar ôl clywed ei thraciau unigryw ar Soundcloud (ydi, mae Soundcloud dal i fodoli yn 2022), ac ar ôl hynny, yn cydweithio hefo enwau mawr gan gynnwys Mared ar senglau unigryw ddaeth allan llynedd.

Mae ei EP Cyfnos yn mynd â chi i fyd arall, ac os ydach chi i mewn i synau chill, dwi'n gweld Gwenno yn datblygu i fod yn un o'r enwau mwyaf yn y byd yma dros y blynyddoedd nesa'. Mae'r ffaith taw Gwenno sy'n cynhyrchu ei stwff ei hun yn ei wneud yn fwy sbesial!

I osgoi neges YouTube, 1
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 1

Lemfreck

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Lemarl Freckleton o Gasnewydd yw Lemfreck

Un o'r pethau gorau i fi wylio ar y teledu flwyddyn ddiwethaf oedd yr artist Lemfreck yn cyflwyno pennod o'r gyfres Curadur ar S4C; cyfres sy'n gwahodd unigolion ym myd cerddoriaeth Cymru i ddewis yr artistiaid i bob rhaglen.

Cerddor o Gasnewydd ydy Lemfreck. Mi wnaeth o ryddhau EP llynedd o'r enw The Pursuit oedd yn llawn traciau oedd yn gwneud i chi isio mynd 'nôl am fwy, a dwi'n edrych ymlaen at weld lle fydd Lemfreck yn mynd â ni nesa' hefo'i guriadau grime pwerus.

I osgoi neges YouTube, 2
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 2

Bandicoot

Ffynhonnell y llun, Bandicoot

Disgrifiad o'r llun, Mae Bandicoot yn canu'n Gymraeg a Saesneg ac yn galw eu hunain yn "fand dwyieithog"

Mae'r band Bandicoot yn enw eitha' cyfarwydd i ni erbyn hyn, ac ar fin rhyddhau eu halbwm cyntaf Black After Dark gydag un o labeli mwyaf cynhyrchiol Cymru ar hyn o bryd, label Libertino. Mae eu sain unigryw "sy'n gymysgedd o Talking Heads, Super Furry Animals a Radiohead" yn ôl y band, wedi ei blethu gyda'r sacsoffon yn cynnig rhywbeth newydd a ffres.

Gyda thrip i ŵyl SXSW yn Texas ar y gweill dwi'n siŵr y bydd hon yn flwyddyn fawr i'r pedwarawd o Abertawe. Mae gen i lot o amser i fandiau sydd hefo 'chydig bach o'r sacs!

I osgoi neges YouTube, 3
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 3

Lauren Morais

Ffynhonnell y llun, Lauren Morais

Disgrifiad o'r llun, Yn ogystal â bod yn artist mae Lauren hefyd yn actores. Dyma lun ohoni yn gwneud Monologau'r Maes yn Eisteddfod Amgen 2021 gyda'r cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Unwaith eto, roedd Lauren yn enw newydd ar ddechrau 2021 cyn dod yn hanner gyfrifol am un o collabs mwya'r flwyddyn, a hynny gyda Sywel Nyw ar y trac 10/10.

Byddai'n dda gweld Lauren yn rhyddhau mwy flwyddyn yma; mae ei geiriau amrwd yn cynnig rhywbeth gwahanol ac mae hi'n egni sy'n chwa o awyr iach.

I osgoi neges YouTube, 4
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 4

Ystyr

Ffynhonnell y llun, Ystyr

Disgrifiad o'r llun, Mae Ystyr yn galw ei hun yn "grŵp o gerddorion o Gymru sydd yn cydweithio i greu cerddoriaeth o ddihangddod, teimlad ac angerdd"

Yn gyfrifol am un o fy hoff ganeuon o 2021, Tyrd a Dy Gariad, dwi'n siŵr y bydd gan Ystyr gynlluniau i ryddhau mwy dros y flwyddyn nesa'. Mae pob sengl hyd yn hyn wedi bod yn wahanol i'r llall, felly pwy a ŵyr lle fydd Ystyr yn mynd â ni nesa'?

I osgoi neges YouTube, 5
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 5

Enwau eraill o Gymru i gadw llygaid arnynt yn 2022: Strawberry Guy, Greta Isaac, Tacsidermi a TWST.

Hefyd o ddiddordeb: