Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
David Brooks: Dyfodol yn 'addawol' wedi triniaeth canser
Mae'r dyfodol yn edrych yn "addawol ac yn bositif" i b锚l-droediwr Cymru, David Brooks, sy'n derbyn triniaeth am ganser ar hyn o bryd.
Cafodd Brooks, sy'n 24, ddiagnosis o Lymffoma Hodgkin ym mis Hydref.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd chwaraewr canol cae Bournemouth ei fod wedi cyrraedd hanner ffordd yn y driniaeth.
"Mae'n mynd yn dda ac mae'r dyfodol yn edrych yn addawol ac yn bositif," meddai.
Diolchodd i bawb wnaeth gysylltu yn dilyn y diagnosis, gan ddweud bod y gefnogaeth wedi bod yn "anghredadwy".
"Dwi'n cadw cysylltiad gyda phawb yn Bournemouth a'r t卯m cenedlaethol ac yn edrych ymlaen at ddiweddglo cyffrous i'r tymor gyda fy nghlwb a fy ngwlad."
Mae Brooks wedi chwarae 21 o weithiau i Gymru, gan gynnwys tair gwaith yn Euro 2020 llynedd.
Chwaraeodd ei gem ddiwethaf i Bournemouth yn erbyn Peterborough ar 29 Medi.