Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynnydd biliau ynni i 'beryglu' iechyd a lles pobl h欧n
- Awdur, Alun Thomas
- Swydd, Newyddion Radio Cymru
Mae Comisiynydd Pobl H欧n Cymru yn rhybuddio y gallai cynnydd mawr mewn biliau ynni olygu y bydd rhai pobl yn gorfod dewis rhwng pryd da o fwyd neu wresogi eu cartrefi.
Mae Hel茅na Herklots wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am gymorth ariannol ychwanegol i helpu pobl h欧n sydd ar incwm isel.
Mae'n galw am ehangu'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf fel bod mwy o bobl yn gymwys i dderbyn arian.
Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd y llywodraeth bod modd i aelwydydd cymwys hawlio taliad un tro o 拢100 gan eu cyngor lleol o dan y cynllun, i'w cynorthwyo i dalu biliau tanwydd dros y gaeaf.
Mae'r Comisiynydd hefyd eisiau gweld y llywodraeth yn cynnal ymgyrch yn y cyfryngau yn annog mwy o bobl i wneud cais am Gredyd Pensiwn, fel eu bod nhw'n cael yr arian maen nhw'n gymwys i'w dderbyn.
'Dewis rhwng bwyd a gwres'
Dywedodd Hel茅na Herklots: "Trwy gydol y pandemig, mae pobl h欧n wedi dangos dycnwch mawr, ond rydyn ni hefyd wedi gweld pa mor bwysig yw hi fod cefnogaeth ar gael i bobl h欧n, yn enwedig rheini all fod yn fregus."
"Mae costau byw eisoes yn codi'n sylweddol.
"Wrth i ni ddisgwyl gweld costau'n codi eto fyth - mae 'na amcangyfrifon gallai prisiau ynni godi hyd at 40% ym mis Ebrill - rydyn ni'n debygol o weld hyd yn oed yn fwy o bobl h欧n yn wynebu tlodi tanwydd."
Ychwanegodd Ms Herklots y gallai olygu "gorfod dewis p'un ai i fwyta pryd da neu wresogi eu cartrefi, gan beryglu eu hiechyd a'u lles er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd."
Mae'r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd gyda sefydliadau eraill sy'n gweithio gyda phobl h欧n, gan gynnwys Age UK, Age Cymru, Scottish Care a Chomisiynydd Pobl H欧n Gogledd Iwerddon.
Maen nhw'n galw am weithredu gan lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig i sicrhau bod pobl h欧n yn cael y gefnogaeth maen nhw ei angen yn ystod "y gaeaf heriol hwn".
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Mae aelwydydd yng Nghymru o dan bwysau ariannol digynsail, sy'n waeth oherwydd yr argyfwng costau byw a'r penderfyniad creulon gan Lywodraeth y DU i roi terfyn ar y cynnydd i Gredyd Cynhwysol, sydd wedi plymio llawer mwy o oedolion sy'n agored i niwed i dlodi.
"Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi teuluoedd, unigolion a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni yn ystod y cyfnod anodd hwn," medden nhw.
"Dyna pam mae gennym ni gynlluniau ar waith i helpu pobl i ddatblygu eu gwydnwch ariannol, gan gynnwys ein hymgyrch hawlio budd-daliadau 'Hawliwch Yr Hyn Sy'n Ddyledus I Chi', ac rydyn ni wedi ariannu gwasanaethau cynghori sydd wedi helpu pobl i hawlio mwy nag 拢17m o incwm ychwanegol.
"Rydyn ni'n parhau i gynnig cymorth i bobl h欧n sy'n derbyn pensiwn y wladwriaeth i sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn Taliad Tanwydd Gaeaf sydd rhwng 拢100 a 拢300."