´óÏó´«Ã½

Parti Rhif 10: Is-weinidog yn 'deall teimlad pobl'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Boris Johnson at PMQsFfynhonnell y llun, EPA

Mae aelod o lywodraeth Boris Johnson wedi dweud ei fod yn "deall teimlad pobl" sydd wedi colli anwyliaid am y "parti" gafodd ei gynnal gan staff Downing Street yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, ei fod ef ei hun wedi colli ei dad i ganser yn ystod y pandemig.

Ond ychwanegodd, "dwi ddim yn gallu rhoi'r bai bod fy nhad wedi marw yng nghanol y pandemig ar y ffaith bod 30 o bobl wedi cael diod mewn gardd.

"Dwi ddim yn gallu cysylltu'r ddau beth, yn bersonol."

Disgrifiad,

David TC Davies: 'Falch bod y DU wedi cael brechlyn cyn gwledydd eraill y byd'

Pan ofynnwyd i Mr Davies a fydd Boris Johnson yn arwain y Ceidwadwyr i'r etholiad nesaf, atebodd "ydw", cyn cydnabod bod "gwleidyddiaeth yn gêm rhyfedd iawn. Ond y peth pwysig yw ein bod ni'n cael sefydlogrwydd".

Daw'r sylwadau wedi i Brif Weinidog y DU Boris Johnson ymddiheuro am y 'parti', gan ddweud ei fod yn bresennol.

"Yn syml, ni wnaethom y peth yn gywir ac mae'n rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb.

"Rwy'n difaru am yr hyn ddigwyddodd ar y noson dan sylw," meddai.

Cafwyd beirniadaeth gan wleidyddion o bob plaid a gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.

Ond dywedodd fod yn rhaid i bobl nawr aros tan fod casgliadau ymchwiliad annibynnol yn cael eu cyhoeddi.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Elliw Gwawr

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Elliw Gwawr

Roedd Mr Johnson yn cael ei holi yn NhÅ·'r Cyffredin am ddigwyddiadau ar 20 Mai 2020.

Ymhlith y rhai mwyaf beirniadol am adroddiadau am bartïon yn Downing Street oedd teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid tra yn ystod y cyfnod clo.

"Wrth edrych yn ôl fe ddylwn wedi anfon pawb yn ôl tu mewn i'r adeilad a dod o hyd i ffordd arall o ddiolch i staff", meddai.

Disgrifiad,

Dywedodd Emma Harris bod ei theulu wedi methu galaru ar ôl colli ei thad, a bod parti Rhif 10 "wir yn brifo"

Rai wythnosau cyn y parti bu farw tad Emma Harris o Lanilltud Faerdref o ganlyniad i Covid-19, ac mae hi'n gofyn am ymddiheuriad cyhoeddus.

"Mae angen gonestrwydd. Ma' angen iddo ef nawr fod yn ddigon o ddyn i gyfaddef yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ei gartref ei hunain, yn ei ardd ei hunain," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"Mae angen iddo ymddiheuro nid just i'r cannoedd, miloedd o deuluoedd sydd wedi bod yn galaru dros y cyfnod yma, ond i bob aelod o'r wlad sydd wedi bod wrthi yn cadw at y rheolau mae ef a'r bobl o'i gwmpas wedi eu gosod er mwyn ein cadw yn saff."

Ychwanegodd bod y cyfnod "mor unig" i'w mam a'i brawd, a bod gweld ei brawd yn eistedd ar ben ei hun ar ddiwrnod yr angladd yn "dorcalonnus".

Dywedodd bod yr honiadau am barti yn Rhif 10 "wir yn brifo".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tŷ’r Cyffredin yn llawn ar gyfer sesiwn Holi'r Prif Weinidog

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, sy'n aelod o gabinet Mr Johnson, y bydd yn rhaid dod i benderfyniadau ond ddim tan i gasgliadau ymchwiliad annibynnol gael eu cyhoeddi.

"Dy' ni ddim yn byw ar blaned wahanol. Rydym yn deall yn llwyr ac yn cydymdeimlo â'r rhwystredigaeth, ac mewn sawl achos y loes, a'r anghrediniaeth sy'n dod o ganlyniad i straeon fel hyn.

"Y peth olaf mae unrhyw un ei angen - gan gynnwys y prif weinidog - yw ychwanegu at y loes mae Covid wedi ei roi i'r boblogaeth gyfan," meddai Mr Hart, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

"Ein dyletswydd yw i gael i waelod y mater, i benderfynu be' sy'n wir a'r hyn na sy'n wir mor fuan â phosib."

Ond dywedodd AS Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams mai ymddiswyddiad Mr Johnson oedd yr "unig ateb boddhaol" yn hytrach nag aros i'r ymchwiliad annibynnol.

Un arall sy'n anfodlon yw AS Llafur Rhondda, Chris Bryant, sydd hefyd yn cadeirio pwyllgor safonau TÅ·'r Cyffredin.

"Felly, doedd y prif weinidog ddim wedi sylwi fod hwn yn ddigwyddiad cymdeithasol. Pa fath o esgus yw hwnna?

"Pa mor dwp mae'r prif weinidog yn credu yw pobl Prydain .

"Byddai'n gam o'r mwyaf pe bai, wrth edrych am fwch dihangol, aelod iau o'r staff yn colli ei swydd ond fod Mr Johnson yn cadw ei swydd."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Hywel Williams AS/MP

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Hywel Williams AS/MP

'Amser iddo fynd'

Yn gynharach yn y dydd cyn Sesiwn Holi'r Prif Weinidog dywedodd yr Aelod Senedd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei fod yn bryd i Mr Johnson ymddiswyddo.

"Mae'n rhaid iddo fod yn hollol onest, yn hollol agored ac mae'n amser iddo fynd," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

Dywedodd bod y dyfalu am ddigwyddiadau a phartïon yn Downing Steet wedi bod yn mynd ymlaen yn rhy hir.

"Bob amser mae hyn yn mynd ymlaen mae yna bethau eraill yn digwydd dros y wlad mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar, [mae] Covid yn mynd ymlaen wrth gwrs, cost ynni a'r effaith ar deuluoedd ac felly mae'n amser iddo ddweud mae pobl yn ffocysu arna i ac felly mae'n rhaid i mi fynd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau lygad dyst wedi dweud wrth y ´óÏó´«Ã½ fod Boris Johnson a'i wraig Carrie yn bresennol yn y parti

Johnson 'wedi gorffen'

Dyna hefyd yw barn LlÅ·r Gruffydd, AS Plaid Cymru, sydd wedi galw am ymddiswyddiad Mr Johnson.

"Rwy'n cofio Aelod Seneddol Torïaidd blaenllaw yn dweud cyn y Nadolig fod Boris wedi cael dwy streic, ac un arall ac mae e allan. Wel dyma hwnna. Mae wedi gorffen."

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan fod y mater yn tanseilio awdurdod Mr Johnson.

"Mae gen i ofn ein bod wedi gweld eto, bod y Prif Weinidog wedi methu rhoi atebion clir i gwestiynau syml."

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, "mae pobl wedi brifo, yn grac ac wedi'u siomi gyda digwyddiadau'r 48 awr ddiwethaf, ac mae'r prif weinidog yn iawn i ymddiheuro.

"Rhaid cyflymu'r ymchwiliad gan yr uwch was sifil, Sue Gray, yn awr er mwyn sefydlu'r ffeithiau llawn ac adrodd ar y canfyddiadau cyn gynted â phosibl."