Clybiau chwaraeon yn croesawu llacio cyfyngiadau

Disgrifiad o'r llun, Fore Sadwrn gweithgaredd parkrun ym Mhontypridd

Mae hyd at 500 o bobl bellach yn cael mynychu digwyddiadau awyr agored yng Nghymru wrth i gyfyngiadau ddechrau llacio wedi ton Omicron.

Dyma'r newid cyntaf yn y camau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i symud yn gyfan gwbl i lefel rhybudd sero o fewn pythefnos.

Ddydd Sadwrn cafodd y newid gryn groeso gan glybiau chwaraeon a rhedwyr parkrun.

Dywedodd Karl Johnson, o Bontypridd, bod rhedeg parkrun o les i'r corff a'r meddwl a bod cael cynnal y "digwyddiad unwaith eto yn rhyddhad i nifer".

O'r penwythnos nesaf bydd y cyfyngiadau ar dorfeydd mewn gemau chwaraeon yn cael eu codi'n llwyr, gan olygu y gall torfeydd llawn ddychwelyd i stadiymau ar bob lefel.

Disgrifiad o'r llun, Mae cael torf yn gwneud cryn wahaniaeth i'r chwaraewyr, medd Glesni Jones

Roedd yna groeso hefyd yn Llanrwst gyda'r llacio yn golygu bod Clwb Rygbi Nant Conwy wedi gallu croesawu cefnogwyr yn erbyn Bethesda.

"Mae cefnogaeth y dorf yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r chwaraewyr ar y cae ac mae'n dod 芒'r elfen o gymuned yn 么l i'r clwb," meddai'r cadeirydd Glesni Jones.

"Mae wedi bod yn anodd cynllunio'r cyfan ond mae wedi bod yn wych cael pawb yn 么l," ychwanegodd.

Disgrifiad o'r llun, 'Mae'r clwb yn golygu llawer iawn i'r gymuned,' medd Nerys Ellis

Un arall oedd yn falch o fod n么l oedd Nerys Ellis, 70 - roedd ei g诺r yn un o sefydlwyr y clwb ac mae eu mab yn chwarae i'r t卯m.

"Mae'r clwb yn golygu llawer iawn i'r gymuned," meddai, "gyda phlant mor ifanc 芒 saith oed ac aelodau o'r t卯m cyntaf yn mwynhau eu hunain."

Croeso gan gefnogwyr

Yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod y newidiadau'n bosib am fod y don o achosion Omicron a welwyd dros gyfnod y Nadolig wedi dechrau cilio bellach.

Disgrifiad o'r llun, Clybiau llai fydd yn elwa ar y newid ddydd Sadwrn nid clybiau mawr

Fe wnaeth clybiau p锚l-droed Wrecsam a Chasnewydd gadarnhau nad oedd y newid wedi dod yn ddigon buan i'w galluogi gael cefnogwyr yn eu gemau cartref y penwythnos yma, ac roedd clwb p锚l-droed Caerdydd a rhanbarth rygbi'r Gweilch ymysg y timau proffesiynol eraill oedd yn chwarae gartref ddydd Sadwrn.

Ond roedd modd i dimau lled-broffesiynol ac ar lawr gwlad fanteisio ar y newidiadau - yn eu plith, RGC 1404, a oedd yn croesawu Caerdydd yn yr unig g锚m yn Uwch Gynghrair Rygbi Cymru'r penwythnos yma.

Mewn datganiad ar eu gwefan nos Wener dywedodd y clwb eu bod nhw'n "falch o allu croesawu 500 o gefnogwyr" i Barc Eirias ym Mae Colwyn ar gyfer yr ornest ddydd Sadwrn, gyda thocynnau'n mynd ar sail cyntaf i'r felin.

"Rydyn ni'n eich annog i gyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi siom, achos unwaith bydd y tocynnau wedi eu gwerthu fe fyddwn ni'n cau giatiau'r stadiwm," meddai'r clwb.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Rygbi Gogledd Cymru - neu RGC 1404 - yn chwarae ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn

Ychwanegodd Russell Everett, cadeirydd clwb cefnogwyr RGC 1404, fod llawer o gefnogwyr wedi gweld eisiau gallu mynd i gemau dros wyliau'r Nadolig a bod croeso mawr i'r cyhoeddiad.

"Fel arfer 'dyn ni'n cael torf o tua 800-1,200, felly mae unrhyw gynnydd [i'r nifer a ganiateir] yn newyddion da," meddai.

"Dwi'n falch, ond hefyd dwi'n gweld pam bod Cymru wedi bod yn ofalus a synhwyrol o ran y cyfyngiadau."

Ychwanegodd ei fod yntau, fel nifer o gefnogwyr eraill oedd gyda thocynnau i wylio Cymru yn y Chwe Gwlad, wedi poeni pan oedd s么n y gallai'r gemau cartref gael eu symud i Loegr os nad oedd cefnogwyr yn cael dychwelyd erbyn hynny.

"Roeddwn i'n bryderus iawn - doeddwn i ddim am fynd os oedden nhw'n symud y gemau i Loegr," meddai. "Ond gobeithio nawr bod hwnna wedi ei sortio."

'Colli arian' heb dorf

Fydd cynghreiriau p锚l-droed y Cymru Premier, Cymru North a Cymru South ddim yn ailddechrau nes y penwythnos nesaf, pan fydd torfeydd yn 么l yn llawn, a hynny ar 么l gohirio gemau ers Dydd San Steffan yn sgil y cyfyngiadau.

Ond fe gafodd nifer o gemau chwaraeon ar lefel is eu cynnal ddydd Sadwrn - yn eu plith g锚m gyfeillgar CPD Llanuwchllyn yn erbyn Treffynnon.

Mae cadeirydd y clwb, Dei Charles Jones, yn croesawu'r newid i'r rheolau.

"Dan ni'n hapus iawn bod y cyfyngiadau 'di mynd oddi arnon ni," meddai. "Er dwi'm yn meddwl gawn ni fwy na 500 yn Llanuwchllyn!"

Ffynhonnell y llun, CPD Llanuwchllyn

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd mae CPD Llanuwchllyn yn bumed yn nghynghrair Adran Gogledd Orllewin - trydedd haen y pyramid yng Nghymru

Dywedodd fod y clwb yn gefnogol o benderfyniad Cymdeithas B锚l-droed Cymru i ohirio gemau cystadleuol tra bod y cyfyngiadau mewn lle, gan fod cynnal gemau heb dorf yn gallu bod yn gostus i glybiau.

"Mae swyddogion g锚m yn costio ryw 拢200 y g锚m i ni heb s么n am gostau eraill, felly colli arian bob g锚m fysa ni heb dorf yn cael dod yma," meddai.

"Mae'r t卯m yn mynd yn dda tymor yma - gobeithio r诺an allwn ni orffen y tymor heb dim chwaneg o gemau'n cael eu galw i ffwrdd."