'Roedd hi'n werth cyflwyno cyfyngiadau yn sgil Omicron'
- Cyhoeddwyd
"Roedd hi'n werth cyflwyno cyfyngiadau yng Nghymru yn sgil amrywiolyn Omicron," medd y Gweinidog Economi, Vaughan Gething.
Heblaw am gyfyngiadau Llywodraeth Cymru byddai mwy o bobl wedi dioddef, meddai.
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig bod y llywodraeth wedi "gorymateb yn sgil Omicron".
Ddydd Sadwrn fe wnaeth y rheolau yng Nghymru lacio wrth i'r cyfyngiad ar faint o bobl sy'n cael ymasglu y tu allan gynyddu o 50 i 500.
Mae clybiau chwaraeon ac elusen redeg parkrun wedi croesawu'r newid.
Wrth gael ei holi ar raglen Politics Wales y 大象传媒 a oedd gosod cyfyngiad o 50 person yn rhy eithafol, dywedodd y Gweinidog Economi: "Fe gawson drafodaeth am gyfyngu gweithgareddau y tu allan a chyngor ein prif swyddog meddygol a'r ymgynghorydd gwyddonol oedd bod hynny yn beth iawn i'w wneud."
Mae rhai wedi gofyn a oedd y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar Ddydd San Steffan yn angenrheidiol o ystyried y niwed economaidd i fusnesau lletygarwch.
Mae Mr Gething yn mynnu bod y cyfyngiadau yn angenrheidiol ac yn dweud bod achosion wedi codi fwy yn Lloegr yn sgil llai o fesurau amddiffynnol.
"Dyw hwn ddim fel annwyd cyffredin," meddai Mr Gething, "mae Omicron yn fwy trosglwyddadwy. Dyw e ddim cynddrwg ag amrywiolion eraill ond eto mae'n gallu taro rhywun yn wael. 聽
"Gallwn fod yn hyderus y byddai mwy o bobl wedi dioddef heb y cyfyngiadau a dwi o'r farn bod y camau a gymerwyd fis diwethaf wedi bod yn werthfawr."
Beth sy'n newid?
Mae'r cyfyngiadau'n newid mewn pedwar cam, meddai'r prif weinidog ddydd Gwener, gyda'r nifer a all fynd i ddigwyddiad awyr agored wedi codi o 50 i 500 ddydd Sadwrn, 15 Ionawr.
Wrth ateb cwestiwn am be fyddai'n atal y llacio, dywedodd Mr Gething ei bod yn bwysig edrych ar nifer yr achosion yn ystod y dyddiau nesaf a'i bod yn debygol mai llacio'n raddol yw'r ateb gorau - sef yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei weithredu.
"Ond rhaid i ni barhau i edrych a oes amrywiolyn arall neu cynnydd yn nifer yr achosion ac os oes yna mae'n rhaid i ni ystyried a fyddai cyflwyno mesurau yn gwneud gwahaniaeth."
Ymateb y gwrthbleidiau
Ddydd Gwener dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Rwy'n falch eu bod o'r diwedd wedi gwrando ar alwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig.
"Er gwaetha'r dystiolaeth wyddonol fanwl o Dde Affrica, mae gweinidogion Llafur yn amlwg wedi gorymateb i Omicron, ac mae hynny wedi achosi poen a gofid sylweddol i deuluoedd a busnesau yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth: "Os ydyn ni, fel mae'n ymddangos ar frig y don, y peth iawn i'w wneud yw gweld sut y gallwn ni ymateb yn ddiogel.
"Mae codi'r cyfyngiad ar y nifer a all fynd i ddigwyddiadau awyr agored yn fan da i ddechrau ac yna symud os yw pethau'n parhau i wella yn ystod y diwrnodau nesaf i godi'r cyfyngiadau ar y diwydiant lletygarwch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2022