Rhewi ffi'r drwydded yn 'cryfhau'r achos i ddatganoli darlledu'

Disgrifiad o'r fideo, Mae darlledu Cymraeg wedi cael "ergyd drom iawn", meddai'r cyn-weinidog Alun Ffred Jones

Mae'r penderfyniad i rewi cost trwydded y 大象传媒 yn "cryfhau'r achos dros ddatganoli darlledu", yn 么l Prif Weinidog Cymru.

Er y bydd S4C yn derbyn cynnydd yn ei chyllideb o fis Ebrill ymlaen, mae'r 大象传媒 yn amcangyfrif colled o 拢300m y flwyddyn.

Mae hyn wedi arwain at bryderon yngl欧n 芒'r effaith ar ddarlledu yng Nghymru yn sgil y toriadau sy'n wynebu'r gorfforaeth.

Yn y Senedd brynhawn Mawrth, honnodd Mark Drakeford "nad oedd unrhyw ystyriaeth o bwys" tu 么l y penderfyniad.

Rhewi am ddwy flynedd

Bydd ffi trwydded y 大象传媒 yn cael ei rhewi am ddwy flynedd ac yna'n cynyddu yn unol 芒 chwyddiant hyd at 2027, gan olygu toriad mewn termau real.

Bydd cyllideb gyhoeddus S4C yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl drwy ffi'r drwydded o 2022.

Wrth gyhoeddi'r newid, dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU Nadine Dorries y byddai'n arbed arian i bobl ar hyd y DU wrth i gostau byw gynyddu.

Ond gyda'r grymoedd dros ddarlledu yn perthyn i San Steffan yn hytrach na Bae Caerdydd a Chaeredin, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod y penderfyniad wedi'i ddylunio i "daflu cig coch i gefnogwyr y Prif Weinidog (y DU), sy'n lleihau'n dragwyddol".

Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod angen brys am "glymblaid o gefnogaeth i gefnogi cyllid gyhoeddus ar gyfer darlledu cyhoeddus yn y DU."

Ychwanegodd Mr Drakeford, "Dwi'n si诺r, fel dywedodd Adam Price, nad oedd Nadine Dorries wedi meddwl am un eiliad am effaith beth mae hi wedi'i gyhoeddi ar yr iaith yma yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Honnodd Mark Drakeford "nad oedd unrhyw ystyriaeth o bwys" tu 么l y penderfyniad.

Mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi cytuno eisoes i greu awdurdod darlledu a chyfathrebu dros Gymru fel rhan o'u cytundeb cydweithio, mewn ymgais i "amddiffyn ei annibyniaeth a natur bregus".

Ond wedi datgan fod Radio Cymru'n "ganolog i'r defnydd o'r Gymraeg ac yn bwysig ar gyfer ei ddyfodol," aeth Mr Drakeford ymlaen i gytuno gyda Adam Price fod penderfyniad Llywodraeth y DU yn cryfhau'r angen i ddatganoli darlledu.

"R欧n ni wedi cytuno yn barod i gryfhau'r achos i ddarlledu gael ei ddatganoli, ac i sefydlu awdurdod i'n helpu ni, gyda phobl eraill, ar y daith yna.

"Pan r欧n ni'n gweld y Llywodraeth yn y DU yn gwneud pethau fel y maen nhw wedi eu gwneud, mewn hast, ac am resymau gwleidyddol yn unig, wrth gwrs mae'n cryfhau'r achos r欧n ni wedi'i roi mas yn barod."

'Ymosodiad ar ddarlledu cyhoeddus'

Yn gynharach disgrifiwyd cyhoeddiad Llywodraeth y DU fel "ymosodiad ar ddarlledu cyhoeddus" gan un cyn-weinidog Llywodraeth Cymru.

"Mae'r golled a'r peryg i ddarlledu Cymraeg a darlledu cyhoeddus yn un gwirioneddol," meddai Alun Ffred Jones.

Er iddo groesawu'r 拢7.5m yn ychwanegol y flwyddyn i S4C, dywedodd ei fod yn "ddiferyn yn y m么r" yn y cyd-destun ehangach.

Fe wnaeth cyn-brif weithredwr S4C hefyd rhybuddio fore Mawrth bod y newid yn "beryglus" i ddarlledu Cymraeg.

"Bydd rhaid unwaith eto ailagor y ddadl yngl欧n 芒 datganoli darlledu," meddai Arwel Ellis Owen.

'Ergyd drom'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae cynulleidfa Cymru'n "ffyddlon" i'r 大象传媒, medd Alun Ffred Jones

Dywedodd Mr Jones, cyn-weinidog treftadaeth Llywodraeth Cymru, fod rhewi ffi'r drwydded yn "ergyd drom i ddarlledu Cymraeg".

"Dwi'm yn erbyn ail-edrych ar ffi'r drwydded a sut mae'n cael ei gasglu, ac os bosib gwneud o'n decach - 'swn i o blaid hynny," medd Mr Jones wrth raglen Dros Frecwast fore Mawrth.

"Ond nid dyna sydd wrth wraidd hyn, a 'sa rhaid i chi fod yn na茂f iawn i gredu hyn - ma' hwn yn ymosodiad ar ddarlledu cyhoeddus.

"Mi fydd o'n 'chydig bunnoedd yn ychwanegol y flwyddyn ym mhocedi pobl - ond os ydych chi'n credu bod darlledu'n bwysig, a 'swn i'n dadlau bod o'n eithriadol o bwysig o safbwynt delwedd Cymru a sut da ni'n gweld ein hunain a sut da ni'n adrodd straeon ein hunain, yna mae'n golled anferthol."

Ychwanegodd fod cynulleidfa Cymru'n ddibynnol ar y 大象传媒 - "llawer iawn rhy ddibynnol yn anffodus" - ac yn ffyddlon iawn iddo.

"Dwi'n credu bod dros 90% o bobl Cymru'n gwrando ar y 大象传媒 bob wythnos," meddai, "ac mae tri chwarter y gwylio a gwrando yng Nghymru yn digwydd trwy wasanaethau'r 大象传媒."

Disgrifiad o'r llun, Mae pencadlys S4C, Yr Egin, yng Nghaerfyrddin

Rhybuddiodd am ddyfodol gwasanaethau yn y Gymraeg heb ddarlledu cyhoeddus.

"Os 'da chi yn rhoi o i gyd yn nwylo darlledwyr masnachol - dydy darlledwyr masnachol ddim yn mynd i ddarlledu'n Gymraeg, go brin fyddan nhw'n darlledu unrhyw sylwedd yng Nghymru nag yn unman arall."

"'Swn i'n dweud wrth bobl am fod yn effro iawn i'r hyn sy'n digwydd."

'Rhaid ystyried datganoli darlledu'

Dywedodd Arwel Ellis Owen wrth Dros Frecwast ei fod yn "anorfod" y bydd toriadau yn sgil rhewi ffi'r drwydded.

Er bod angen llongyfarch S4C am sicrhau cyllid ychwanegol, "yn erbyn y cynnydd o 拢7m mae'n rhaid i chi roi'r golled [i'r 大象传媒]", meddai cyn-brif weithredwr S4C, a chyn-bennaeth gyda'r 大象传媒.

"Mae'r golled yna o 拢300m y flwyddyn yn llawer iawn mwy peryglus i ddarlledu cyhoeddus a darlledu yn y Gymraeg na'r cynnydd o 拢7m mae S4C wedi llwyddo i'w negydu."

Dywedodd y bydd y toriadau'n golygu "llai o raglenni, heb os nac oni bai".

"Felly yn amlwg fe fyddan nhw yn trio diogelu gwasanaethau craidd, fel newyddion, plant, addysg, crefydd ac yn y blaen.

"Ond yn y b么n, beth sydd yn denu'r cynulleidfa mewn ydy'r rhaglenni eraill fel Strictly Come Dancing a dram芒u ac yn y blaen, ac mae rheiny yn ofnadwy o ddrud o'u cymharu 芒 gwasanaethau craidd."

Tanysgrifio 'ddim yn gweithio'

Dywedodd Ms Dorries ei bod hi'n bryd i ystyried ffyrdd eraill o ariannu'r 大象传媒.

Un opsiwn sydd wedi codi yw model tanysgrifio. Ond yn 么l Mr Owen: "Gall gwasanaethau iaith Gymraeg - ac yn wir 'swn i'n dweud gwasanaethau lleol ar hyd y DU - ddim bodoli yn y model yna."

Mae'n bryd ailagor y drafodaeth am ddatganoli darlledu, meddai.

Dywedodd iddo geisio datblygu rhyw elfen o ddatganoli darlledu fel prif weithredwr S4C, ond bu'n aflwyddiannus.

"Bydd rhaid i Lywodraeth Cymru gael safbwynt yngl欧n ag os ydyn nhw am ariannu hyn.

"Maen nhw'n ariannu Golwg a phapurau Cymraeg - rhaid iddyn nhw fynd cam ymhellach ac ystyried o leiaf ariannu darlledu Cymraeg."