Mae trochi d诺r oer yn ffasiynol... ond sut mae bod yn ddiogel?

Ffynhonnell y llun, James Richardson

Disgrifiad o'r llun, Gwawrio ym Mhenarth wrth i nofwyr y Dawnstalkers fynd i'r d诺r

Mae'r niferoedd sy'n nofio mewn d诺r agored yn y DU wedi cynyddu 45% mewn blwyddyn wedi'r cyfnod clo, yn 么l Chwaraeon Cymru. Ond pa mor ddiogel ydy trochi rhewllyd?

Angharad Samuel, myfyriwr newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, fu'n holi.

Bob bore ym Mannau Brycheiniog mae'r D诺r y Fan Dippers yn cyfarfod i nofio mewn afon rewllyd.

Mae nifer wedi ymuno 芒'r gr诺p yn ystod y cyfnod pandemig ac yn dweud ei fod yn gymdeithasol a manteisiol ar gyfer eu hiechyd.

"Dwi wedi joio bod yn rhan o'r gr诺p achos rwy' 'di cwrdd 芒 phobl newydd o'r ardal," meddai un aelod, Rhian Morgan.

Fe ymunodd Huw Samuel gyda'r gr诺p ar ddechrau'r pandemig nol ym mis Mawrth 2020. Meddai: "Mae e wedi helpu iechyd meddwl fi achos o'dd e'n anodd bod yn styc yn y t欧 yng nghanol Cofid'"

Ffynhonnell y llun, Dwr y Fan Dippers

Disgrifiad o'r llun, Bore rhewllyd i'r D诺r y Fan Dippers

Mae ymchwil yn cadarnhau bod nofio mewn d诺r oer yn fanteisiol i iechyd a lles, gydag adroddiad academaidd yn y Ffindir yn dweud bod tensiwn a phoenau yn lleihau a hwyliau pobl yn gwella.

Peryglon d诺r oer

Ond er y manteision, mae 'na beryglon. Yn 么l y Fforwm Cenedlaethol Diogelwch D诺r, bu 25 marwolaeth o ganlyniad i foddi damweiniol yng Nghymru llynedd, sy'n rhan o gyfanswm o 45 marwolaeth flynyddol y wlad yn gysylltiedig 芒 d诺r.

Ac yn 么l y Royal Life Saving Society UK mae tua 85% o'r marwolaethau damweiniol hynny yn digwydd mewn pyllau d诺r agored.

Mae aelodau D诺r y Fan Dippers yn ymwybodol o'r peryglon ac yn 么l yr arweinydd, Carys Samuel, y rheswm dros sefydlu'r gr诺p yn y lle cyntaf oedd "er mwyn sicrhau bod neb yn nofio ar eu pennau hunain".

Er mai oerni yw rhan o'r ap锚l i nifer, mae tymheredd rhewllyd yn gallu arwain at sioc d诺r oer, sy'n amharu ar allu'r corff i anadlu'n rheolaidd.

Dywedodd Carys fod pawb o'r gr诺p yn ofalus i osgoi mynd mewn i'r d诺r yn rhy gyflym er mwyn ceisio lleihau'r risg. Ond ychwanegodd: "Mae e'n hollbwysig i unigolion wneud ymchwil eu hun. Eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau eu bod nhw'n ffit ac iachus cyn cymryd rhan."

Ffynhonnell y llun, James Richardson

Disgrifiad o'r llun, Criw y Dawnstalkers ym Mhenarth

Yr oerni yw beth wnaeth ddenu Lene Hops at nofio yn y lle cyntaf: "Dechreuais am yr oerni, dim am yr ymarfer corff."

Mae hi'n aelod o'r gr诺p D诺r y Fan Dippers yn ogystal 芒 bod yn arweinydd Dawnstalkers, gr诺p o dde Cymru sy'n nofio yn y m么r.

Sefydlodd y gr诺p yn 2021, a hynny'n anfwriadol wrth i ddau ffrind ddechrau nofio'n ddyddiol yn y m么r ym Mhenarth, gyda niferoedd cynyddol yn ymuno 芒'r p芒r bob dydd.

"Roedd rhaid i ni'n dwy wneud rhywbeth dros ein hunan, a'r m么r oedd y rhyddhad perffaith am hynny," meddai Lene.

Mewn un digwyddiad roedd y gr诺p yn credu bod dwy o nofwyr wedi mynd ar goll yn y m么r. Yn lle galw'r RNLI yn syth, fe geision nhw edrych i weld os oedd y nofwyr mewn golwg er mwyn osgoi galw'r gwasanaethau brys yn ddiangen.

Yn 么l Lene, doedd y ddwy ddim yn bell yn y diwedd a'r tywyllwch oedd yn ei gwneud yn anodd eu gweld nhw, ond fe ddysgon nhw wers.

Meddai: "Ar 么l siarad gyda'r RNLI ers hynny rydyn ni'n gwybod y pwysigrwydd o beidio gwastraffu amser. Os bydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto bydden ni'n galw'r RNLI yn syth yn lle gwastraffu munudau pwysig."

Yn 2020, gwnaeth yr RNLI ymateb i 521 digwyddiad yn Ne Cymru a derbyniodd 618 o bobl cymorth ganddynt.

Cyngor yr RNLI yw paratoi o flaen llaw, ystyried y tywydd a'r llanw, defnyddio cyfarpar cywir a pheidio nofio heb gwmni. Ni ddylai neb neidio'n syth mewn i dd诺r oherwydd y risg o'r sioc d诺r oer, sy'n gallu lladd unigolion.

Dywedodd Lene bod addysg yn rhan fawr o fod yn ddiogel, a bod yn rhaid cofio bod nofio yn y m么r yn wahanol i nofio mewn llyn neu afon.

Meddai: "Mae wastad y posibilrwydd o gerrynt neu donnau, ac felly perygl. Mae'r m么r yn gallu newid yn sydyn.

"Doeddwn i ddim yn deall llawer am y llanw neu geryntau cyn i fi ddechrau nofio yn y m么r, felly addysgais fy hun oherwydd mae e'n beth massive. Ti'n gallu marw."