大象传媒

Yr ysgol ble mae'n rhaid gwisgo cot y tu allan a thu fewn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgyblion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae plant Ysgol yr Hendy yn gorfod gadael eu hystafelloedd dosbarth bob awr oherwydd problemau awyru

Hydref 25, 1918 - mae nodyn yn loglyfr Ysgol yr Hendy yn dweud bod angen cau am bythefnos oherwydd "influenza".

Ffliw Sbaen oedd hynny, a dros ganrif yn ddiweddarach mae disgyblion a staff yr ysgol gynradd ger Llanelli yn ymateb i heriau pandemig arall.

Mae'r pennaeth Rhian Kenny yn falch o gael bron 200 o ddisgyblion 'n么l yn yr ysgol ar 么l y Nadolig, er gwaethaf rhybudd am fwy o ddysgu ar-lein.

Ond mae problemau awyru yn yr adeilad 110 mlwydd oed yn golygu bod plant yn gorfod gadael eu hystafelloedd dosbarth bob awr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r plant wedi gallu dysgu bod cenedlaethau eraill wedi wynebu heriau pandemig drwy'r nodyn yn loglyfr yr ysgol

Fel ysgolion eraill Cymru mae Ysgol yr Hendy wedi derbyn mesuryddion carbon deuocsid er mwyn amlygu pryd mae angen mwy o awyr iach o fewn dosbarthiadau.

"Gyda hen ysgol, mae problemau ychwanegol gyda ni," meddai Mrs Kenny.

Roedd y mesuryddion "yn goch neu'n ambr drwy'r amser", meddai, a hynny'n dangos nad oedd digon o awyr iach yn llifo er gwaetha'r ffaith bod y ffenestri a'r drysau ar agor.

Daeth swyddog iechyd a diogelwch y cyngor i asesu'r sefyllfa ac mae'r ysgol yn disgwyl derbyn peiriannau puro aer, ond yn y cyfamser mae angen mesurau eraill.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Sicrhau bod ni gyd yn yr ysgol - dyna beth 'ni gyd moyn," meddai'r pennaeth Rhian Kenny

"Bob awr ni'n tynnu'r plant mas o'r dosbarthiadau 'ta beth yw'r tywydd i sicrhau wedyn bod yr awyr yn gallu cael ei purgio a'r dosbarthiadau'n gallu cael eu glanhau o'r awyr yn fwy aml," meddai Mrs Kenny.

"Ni 'di prynu cotiau ychwanegol jest i sicrhau, os nad yw'r got yn addas ar gyfer y tywydd gwlyb, bod y plant yn gallu gwisgo cotiau sy'n addas ar gyfer y glaw.

"Mae'n gallu bod yn ddiflas i'r plant. Heddi' nawr, mae mor oer o fewn yr ysgol 芒 beth yw e tu fas, achos mae'r drysau ar agor jest i drio cael yr aer i dryfeili mewn i bob dosbarth."

Mae hynny'n golygu cotiau yn y dosbarth, ac ambell athro'n gwisgo het hefyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ysgolion wedi derbyn mesuryddion carbon deuocsid er mwyn amlygu pryd mae angen mwy o awyr iach

Ond mae staff a disgyblion wedi bod yn "ffantastig" meddai Rhian Kenny.

"Maen nhw'n deall y sefyllfa ac mae'r plant wedi bod yn wych."

Ar ddechrau'r tymor cafodd ysgolion ar draws Cymru ddeuddydd i gynllunio yn sgil amrywiolyn Omicron er mwyn cyflwyno mesurau ar gyfer sefyllfa "risg uchel iawn".

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylen nhw hefyd baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddysgu ar-lein.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ffion a Lily yn mwynhau'r ysgol er gwaetha'r mesurau ychwanegol

Mae Ffion a Lily o flwyddyn 5 wrth eu boddau i fod yn 么l yn yr ysgol, er bod methu cymysgu gyda ffrindiau o flynyddoedd eraill yn un o'r pethau anodd am y mesurau.

"Mae'n mynd yn rili oer yn y dosbarth," meddai Ffion, 9, wrth ddisgrifio sut mae ffenestri a drysau ar agor fel rhan o'r drefn awyru.

"Weithiau mae'n anodd i weithio achos ti'n mynd yn rili oer a dechrau shivran."

Ond mae hi'n mwynhau'r gweithgareddau tu fas fel mesur cysgodion a rhedeg milltir y dydd.

Mae Lily, 10, hefyd yn mwynhau'r awyr iach.

"Ond ambell waith fi'n teimlo'n rili oer pan fi'n dod mas neu os mae'n bwrw glaw ambell waith fi'n aros dan y shelter," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ysgol wedi prynu cotiau ychwanegol i'r rheiny sydd heb got addas ar gyfer tywydd gwlyb

Mae'r plant wedi gallu dysgu bod cenedlaethau eraill wedi wynebu heriau pandemig drwy'r nodyn yn loglyfr yr ysgol am Ffliw Sbaen.

Ond mae problemau adeilad gafodd ei godi yn 1912 wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig, gan gynnwys coridorau cul a nenfydau gafodd eu hychwanegu i'r strwythur gwreiddiol ac sy'n atal llif awyr iach.

Er gwaethaf y sialensiau mae Rhian Kenny yn fodlon derbyn y mesurau mewn ysgolion, hyd yn oed wrth i gyfyngiadau eraill lacio, os ydyn nhw'n helpu i'w cadw ar agor.

"Sicrhau bod ni gyd yn yr ysgol - dyna beth ni gyd moyn - gweld y plant yn yr ysgol, clywed s诺n y plant yn chwarae ar yr iard."