Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth Cymru yn rhoi £1m i annog defnydd o'r Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mwy na £1m ar gyfer prosiectau er mwyn annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn ehangach.
Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG).
Yr Eisteddfod fydd yn elwa fwyaf yn ariannol, gyda £600,000 yn mynd tuag at gynnal y Brifwyl eleni yn Nhregaron ym mis Awst eleni.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, y byddai'r arian yn rhoi "cymorth ymarferol" wrth ddelio â chostau cynyddol yn sgil y pandemig.
Bydd cyfran Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol o'r arian ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys creu cyrsiau blasu ar-lein i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, heb fod angen iddynt fod yn rhugl yn Saesneg.
Bydd y Ganolfan, mewn partneriaeth â 'Say Something in Welsh', hefyd yn darparu cyrsiau yn yr ieithoedd sy'n cael eu siarad fwyaf gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Pwrpas y cyfraniad i RhAG fydd i ddatblygu gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg mewn ieithoedd lleiafrifol, medd Llywodraeth Cymru.
Y nod yw cefnogi teuluoedd y mae eu plant yn cael addysg cyfrwng Cymraeg, ond nid Cymraeg na Saesneg yw'r prif ieithoedd yr aelwyd.
Yn ogystal â hyn, y nod yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ymysg cymunedau ethnig lleiafrifol.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Betsan Moses y byddai talp yr Eisteddfod o'r arian yn rhoi "cymorth ymarferol ar gyfer gwireddu yr Eisteddfod ac ail-gydio yn y gwaith o ymwneud cymunedol".
"Fel i ni gyd yn ymwybodol, ni wedi cael dwy flynedd o Steddfod wahanol o Steddfod Amgen ac wrth i ni fynd ati i baratoi ar gyfer Ceredigion mae'n amlwg bod 'na newidiadau mawr wedi bod yn y sector.
"Mae cludiant yn ffactor anferth yn ogystal â chriwio achos dros nos fe wnaeth nifer o bobl llawrydd adael y diwydiant digwyddiadau felly bydd yn rhaid edrych o'r newydd ar griwio."
Ychwanegodd y byddai'r sylw nawr yn troi ar ddenu "pobl newydd" i'r Steddfod "ar lawr gwlad".
"Bydde fe yn anhygoel pe bai modd i bawb allu profi y Steddfod yn rhad ac am ddim ond wrth gwrs busnes yw'r Steddfod ar ddiwedd y dydd ac mae rhaid i ni dalu'r biliau.
"Beth mae hyn yn galluogi ni yw datblygu yr Å´yl ond hefyd rhoi cyfleoedd i bobl ar lawr gwlad, a hefyd i sicrhau bod y costau ddim yn mynd yn fwy gyda prynu tocynnau a bob dim," meddai.
'Pryderus iawn cyn y Nadolig'
Dywedodd fod trafodaethau wedi bod am flwyddyn gyda'r llywodraeth i "wireddu'r ŵyl gyda Covid".
"Mae rhaid fi ddweud, cyn y Nadolig pan o'n i'n edrych ar y cynnydd o ran costau a phob dim, o'n i yn bryderus iawn," meddai.
"Mae'n hollbwysig bod pobl yn teimlo'n ddiogel am ddod i'r Steddfod - felly byddwn ni yn edych ar y maes, a sicrhau fel bod digon o le ar y maes i anadlu, edrych ar yr is-bafiliynau, edrych bod llif awyr yn mynd trwyddyn nhw yn gywir...
"Wedi cyfnod o gynni - ac mae 'na adroddiadau yn profi bod Covid wedi bod yn andwyol i'r Gymraeg - mae'n hollbwysig bod ni yn cychwyn y gwaith yma yn ein cymunedau a bod pobl yn dod nôl i'r arfer i allu ymarfer eu Cymraeg."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Dywedodd cadeirydd cenedlaethol RhAG, Wyn Williams, y byddai'r nawdd yn mynd at brosiect sy'n "torri tir newydd o ran cyflwyno'r iaith i gymunedau newydd".
"Nod y prosiect fydd rhannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu'r teimlad o berthyn," meddai.
"Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn fodd o ddeffro chwilfrydedd rhieni trwy bwysleisio bod dewis arall ar gael iddynt o ran addysg eu plant a bod addysg Gymraeg yn agored ac ar gael i bawb.
"Rydym ar siwrnai gyffrous wrth i unigolion a chymunedau newydd gofleidio'r Gymraeg am y tro cyntaf ac mae lledaenu'r neges fod addysg Gymraeg yn hygyrch i bob cymuned yn rhan annatod o'r daith honno."
'Perthyn i ni gyd'
Dywedodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Diben y cyhoeddiad heddiw yw ei gwneud hi'n haws nag erioed defnyddio ein hiaith a'n diwylliant.
"Rydyn ni yn buddsoddi mewn cyfleoedd i ragor o bobl ddysgu, defnyddio ac addysgu Cymraeg lle bynnag y maen nhw yng Nghymru a beth bynnag yw eu cefndir.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, p'un a ydym yn ei siarad neu beidio.
"Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gyda'n partneriaid ar brosiectau mor amrywiol, sydd i gyd yn cefnogi ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'n hiaith erbyn 2050."