Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Torri dwy record byd ar ben-blwydd yr Urdd yn 100
Mae cefnogwyr yr Urdd wedi torri dwy record byd ar ben-blwydd y mudiad yn 100 oed.
Yn ystod y bore, bu cannoedd o unigolion a grwpiau yn canu'r gân 'Hei Mistar Urdd' ac yn uwchlwytho'r recordiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Brynhawn Mawrth fe gyhoeddodd y mudiad "bod yr Urdd a'i gefnogwyr wedi torri dwy record byd" drwy lwytho y nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu'r un gân ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cyn heddiw 250 oedd y nifer oedd wedi postio yr un gân ar Twitter ond rhwng 10:45 a 11:45 fore Mawrth roedd 1,176 wedi postio fideo ohonyn nhw'n canu'r gân 'Hei Mistar Urdd'.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 1
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 2
Gydol y dydd mae degau wedi bod yn rhannu eu hatgofion am y mudiad gyda nifer yn rhannu lluniau ohonynt mewn eisteddfodau a gwersylloedd.
Mae nifer eraill wedi bod yn anfon eu dymuniadau da.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 3
Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis bod y pen-blwydd yn gyfle i "ddathlu stori'r urdd ac edrych tua'r dyfodol".
Fe sefydlwyd yr Urdd ym 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.
Cyhoeddodd y syniad mewn erthygl yng nghylchgrawn 'Cymru'r Plant' a'r bwriad oedd rhoi rhagor o gyfleodd i blant yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg.
Sefydlwyd adran gyntaf yr Urdd yn Nhreuddyn, Sir Y Fflint yn yr un flwyddyn.
Roedd yr Urdd wedi bod yn cydweithio gyda grwpiau ac ysgolion ledled Cymru er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgais i dorri record byd.
Yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth roedd gor-ŵyr Syr Ifan ab Owen Edwards ymhlith y rhai fu'n canu.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd y prifathro, Clive Williams, ei fod wedi bod yn fore hynod o gyffrous.
"Mae wedi bod yn hynod o braf gweld pawb yn mwynhau eto wedi cyfnod anodd," ychwanegodd.
Yn gynharach dywedodd Lewys Jones, Swyddog Celfyddydau a Gwersylloedd yr Urdd: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n holl bwysig bod yr Urdd yn teimlo eu bod nhw'n ymestyn ei profile mewn ffordd a rhoi cyfle i bob math o bobl ifanc a plant o amgylch Cymru.
"Mae'n bwysig bod pob un ohonyn nhw'n teimlo eu bod nhw'n perthyn i'r iaith ac yn cael cyfle i ymwneud â gwahanol weithdai drwy'r Gymraeg - yn chwaraeon neu'n eisteddfodau neu drwy'r celfyddydau.
"Felly mae'n grêt cael mynd i ysgolion sydd ella erioed wedi cymryd rhan efo'r Urdd o'r blaen a rhoi blas iddyn nhw o'r iaith a gweithgareddau gwahanol."
'Mor berthnasol ac erioed'
Yn ôl Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, ma'r pen-blwydd yn gyfle i edrych ymlaen hefyd.
"Mae'r Urdd wedi bod yn fudiad hollol unigryw ac arloesol ers y cychwyn, ac mor berthnasol heddiw i fywydau pobl ifanc ag yr oedd ganrif yn ôl.
"Mae cyrraedd y garreg filltir arbennig hon yn gyfle inni ddathlu stori'r Urdd ac edrych tua'r dyfodol."
Cafodd y partïo rhithiol yr Urdd ei ddarlledu ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru ac ar ´óÏó´«Ã½ Radio Wales hefyd.
Yn ôl Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau ´óÏó´«Ã½ Cymru, Rhuanedd Richards, mae'r ´óÏó´«Ã½ yn falch o fod yn rhan o'r digwyddiadau.
"Mae gan yr Urdd a ´óÏó´«Ã½ Cymru bartneriaeth arbennig sy'n ymestyn dros ddegawdau, gyda'r ´óÏó´«Ã½ yn darlledu o Eisteddfod yr Urdd ers y saithdegau."
Ddydd Mawrth hefyd fe wnaeth Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan agor arddangosfa newydd i ddathlu'r canmlwyddiant.
Mae adeiladau nodedig ar draws Cymru wedi cael eu goleuo yn lliwiau'r Urdd.