Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Awgrym y gallai Llywodraeth Cymru wedi atal ehangu glofa
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru
Mae Awdurdod Glo y DU wedi awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i atal rhag caniat谩u trwydded dadleuol i ehangu glofa Aberpergwm.
Wythnos ddiwethaf daeth i'r amlwg y byddai'r safle ger Glyn-nedd yn derbyn caniat芒d i gloddio am 40m tunnell arall o lo.
Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd a San Steffan wedi bod yn ffraeo yngl欧n a phwy oedd 芒'r gair ola'.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu na allai wyrdroi'r penderfyniad.
'Cywilyddus a siomedig'
Yn 么l y cwmni sy'n gyfrifol am y safle - Energybuild - fydd y rhan fwyaf o'r glo ddim yn cael ei losgi ond yn hytrach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosesau amgylcheddol, megis puro d诺r.
Ond gyda'r DU ar hyn o bryd yn arwain trafodaethau rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, mae'r penderfyniad i ganiat谩u rhagor o gloddio wedi'i ddisgrifio fel un "cywilyddus" a "siomedig" gan wrthwynebwyr.
Mewn datganiad, a adroddwyd yn gyntaf ar wefan BusinessLive Wales, dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Glo eu bod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru "am unrhyw gyfarwyddyd y busasen nhw'n dymuno ei roi" dan Ddeddf Cymru 2017.
"Ar 10 Ionawr 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hysbysu'r Awdurdod Glo na fyddai gweinidogion Cymreig yn gwneud penderfyniad yn yr achos hwn," meddai.
Roedd rheolwyr y lofa wedi dangos "eu bod wedi cwrdd a phob maen prawf o dan y ddeddfwriaeth bresennol," ychwanegodd, cyn dod i'r casgliad bod gan yr awdurdod "ar 么l ymgynghori a Llywodraeth Cymru ar y cynnig, ddyletswydd cyfreithiol i ganiat谩u'r cais am drwydded".
Er fod Deddf Cymru 2017 wedi cynnig pwerau newydd i Lywodraeth Cymru oruchwylio'r broses o drwyddedu pyllau glo, mae gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi dadlau nad oedd hyn yn berthnasol i'r achos yma am fod cais Aberpergwm wedi'i gyflwyno cyn i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd yn cefnogi "cloddio am danwyddau ffosil" a'i bod "yn canolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd".
"Fe dderbyniodd pwll glo Aberpergwm y drwydded angenrheidiol yn gyfreithlon, cyn bod Deddf Cymru 2017 wedi cyflwyno pwerau yn ymwneud a thrwyddedau glo i weinidogion Cymreig," meddai.
"Mae'r penderfyniad i ganiat谩u'r drwydded yn fater i'r Awdurdod Glo ei ystyried yn erbyn y dyletswyddau sydd ganddo dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994."