Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Targedau plannu coed yn 'fwch dihangol', medd gweinidog
Mae targedau plannu coed Cymru'n cael eu defnyddio fel "bwch dihangol" ar gyfer pryderon eraill o fewn cymunedau ffermio, yn 么l y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Fe wnaeth yr AS Lee Waters gydnabod fod "pryder dilys" am fuddsoddwyr y tu hwnt i Gymru yn prynu tir fferm er mwyn plannu coed i wneud yn iawn am eu hallyriadau carbon.
Ond dywedodd mai "ychydig iawn o dystiolaeth sydd yna fod hyn yn digwydd", a bod Llywodraeth Cymru'n dymuno "ei atal rhag digwydd".
Dywedodd NFU Cymru "mae angen i ni boeni gan fod hyn yn broblem gynyddol".
Mae Llywodraeth Cymru, wnaeth ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, wedi dweud y bydd angen iddynt blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd er mwyn cyrraedd eu targed sero net erbyn 2050.
Ond mae undebau ffermio yn dweud y dylai unigolion a chwmn茂au leihau eu hallyriadau carbon, yn hytrach na cheisio "cyrraedd sero net trwy wneud yn iawn am eu hallyriadau".
Yn 么l Undeb Amaethwyr Cymru, fe ddaeth 75% o'r cynlluniau mwyaf i blannu coed ar dir Cymreig dros y tair blynedd diwethaf o du allan i Gymru.
Mae'n rhaid asesu effaith amgylcheddol unrhyw gais i blannu dros 50 hectar o goetir yng Nghymru - sef maint tua 93 o gaeau p锚l-droed.
Ond dywed Undeb Amaethwyr Cymru mai dim ond 25% o'r ceisiadau hynny sy'n dod gan berchnogion tir yng Nghymru.
'Dihiryn pantomeim cyfleus'
Wrth siarad gyda 大象传媒 Radio Wales, dywedodd yr AS Lee Waters: "Mae'r dystiolaeth sydd gennym ni hyd yma o'r nifer o ffermydd sy'n cael eu prynu a cheisiadau am grantiau yn fach iawn, iawn.
"Ond nid yw hynny'n golygu na allai hynny ddigwydd, ac rydyn ni'n dymuno atal hynny rhag digwydd.
"Fe fyddai'n well, dwi'n meddwl, petai'r bobl sy'n lleisio'r pryderon hyn yn gweithio gyda ni i geisio rheoli'r newid yn hytrach na gwrthwynebu.
"Yn sicr mae yna deimlad o bryder am sawl rheswm," ychwanegodd.
Dywedodd cwmni gwerthu eiddo Savills ei fod wedi cysylltu gyda ffermwyr yng Nghymru yn uniongyrchol ar ran buddsoddwyr sy'n dymuno prynu tir er mwyn gwneud yn iawn am eu hallyriadau carbon.
"Mi fuaswn i'n dweud wrth gwmn茂au fel Savills, pwyllwch" meddai Mr Waters.
"Yr hyn rydyn ni ei eisiau yw i ffermwyr Cymreig arwain y ffordd yn fan hyn, i berchnogion Cymreig blannu'r coed, ac i berchnogaeth a rheolaeth aros yn lleol.
"Mae yna lawer o bryder yn dod gan gymunedau ffermio am newid, ond rydyn ni'n cymryd golwg rhy ffafriol ar y presennol - incwm fferm ar gyfartaledd gyda chymorthdaliadau o'r UE yw 拢16,000 y fferm.
"Felly rydyn ni wedi bod yn noddi ffermwyr i mewn i dlodi, ac mae plannu coed sydd wedi ei reoli'n iawn ar y cyd 芒 chynhyrchu bwyd yn cynnig llif incwm newydd."
'Allforio buddion carbon Cymru'
Wrth ymateb i sylwadau Mr Waters ar raglen 大象传媒 Politics Wales, dywedodd Abi Reader o NFU Cymru: "Dwi'n meddwl y gallen ni gytuno gyda Lee Waters fod angen i ffermwyr blannu coed, ac yn NFU Cymru rydyn ni'n credu cyn belled 芒 bod y goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lle cywir ar ffermydd maen nhw'n gallu bod o fudd i ni ac i'r gymdeithas.
"Ond rhaid i ni fod yn gwbl ymwybodol ein bod ni yn allforio'r buddion carbon sydd gennym ni yma yng Nghymru i gwmn茂au mwy."