大象传媒

Dyblu budd-dal ynni i ymateb i 'argyfwng costau byw'

  • Cyhoeddwyd
Cynhesu traedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru'n dyblu taliadau ar gyfer helpu rhai aelwydydd i dalu eu biliau ynni.

Bydd taliadau'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn codi o 拢100 i 拢200 mewn ymateb i "argyfwng costau byw, sy'n gwaethygu".

Fe fydd y newid i bobl sy'n derbyn y Credyd Cynhwysol a budd-daliadau oedran gwaith, ac fe fydd pobl sydd eisoes wedi derbyn taliadau yn derbyn yr arian ychwanegol yn yr wythnosau nesaf.

Daw'r newid yn sgil cynnydd tebygol sylweddol yn y cap ar bris tanwydd o fis Ebrill. Mae disgwyl i lefel y cynnydd gael ei gadarnhau ar 7 Chwefror.

Mae'r cap sy'n cyfyngu ar faint gall cwmn茂au godi am nwy a thrydan yn cael ei adolygu bob chwe mis ac mae yna ofnau y gallai godi 50% y tro hwn.

Fe allai hynny olygu bod y gost yn codi i aelwydydd ar gyfartaledd o 拢1,277 i bron 拢2,000 y flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y rheoleiddiwr ynni Ofgem sy'n gosod y pris uchaf y gall cwmn茂au ofyn i bobl dalu am drydan a nwy

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i helpu ein pobl gyda'r biliau sydd ganddynt, a bydd hyn yn helpu i wneud hynny."

Mae'r taliadau'n rhan o gynllun gwahanol i gynllun taliadau tywydd oer Llywodraeth y DU.

Mae Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf ar gael i aelwydydd ble mae o leiaf un person mewn oedran i weithio yn cael budd-daliadau lles penodol, ac yn gyfrifol am dalu biliau ynni'r eiddo.

Mae'n rhaid bod yr ymgeiswyr wedi hawlio un o'r budd-daliadau perthnasol rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.

Mae'n bosib ymgeisio hyd at 28 Chwefror ond yn 么l Llywodraeth Cymru fe fydd y cynghorau sir "wedi cysylltu 芒'r bobl y maent yn credu sy'n gymwys".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er taw helpu aelwydydd i dalu biliau ynni yw nod y cynllun, does dim cyfyngiadau o ran sut mae'r arian yn cael ei wario.

Y llynedd fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod y cynllun yn costio 拢38m, ac yn targedu 350,000 o aelwydydd.

Nid oedd yn glir nos Lun faint y mae'r llywodraeth yn rhagweld y byddan nhw'n gwario ar y taliadau eleni, ond fe nododd ei fod yn rhan o "ein Cronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth 拢51m".

Mae llefarydd Cyfiawnder Cymdeithasol Plaid Cymru, Sioned Williams wedi croesawu'r "cymorth ychwanegol ar gyfer y miloedd o bobl yng Nghymru sy'n wynebu'r dewis amhosib hwnnw rhwng gwres a bwyta".

Ond fe rybuddiodd na fydd yn cyrraedd pawb sydd ei angen, gan gynnwys "aelwydydd sydd eisoes mewn dyled o ganlyniad yr argyfwng cost byw" a phobl "sy'n byw gyda thlodi tanwydd nad sy'n derbyn budd-daliadau".