Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
49 o artistiaid cerddorol i rannu 拢63,000 o gronfa Gorwelion
Mae Cronfa Lansio Gorwelion wedi cyhoeddi'r 49 o artistiaid cerddorol fydd yn rhannu dros 拢63,000 fel rhan o'r prosiect eleni.
Mae'r bartneriaeth rhwng 大象传媒 Cymru a Chyngor y Celfyddydau wedi rhoi 拢273,000 er mwyn cefnogi dros 250 o unigolion a grwpiau ers ei sefydlu yn 2014.
Y cyllid eleni yw'r swm mwyaf ers i'r gronfa gael ei sefydlu.
Ymysg yr artistiaid sy'n derbyn cefnogaeth eleni mae Gwenno Morgan, Hanna Lili, KIM HON, Mali Haf, skylrk., SYBS a Tara Bandito.
Nod y cyllid yw helpu artistiaid i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol, a "chefnogi gwaith talent newydd o bob cwr o'r wlad ac yn cwmpasu holl sbectrwm y byd cerddorol yng Nghymru".
Mae'r arian ar gyfer y Gronfa Lansio ar gael drwy'r Loteri Genedlaethol, ac yn cael ei ddyrannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Pwy fydd yn derbyn arian eleni?
- ALICE LOW - CAERDYDD
- ANWAR SIZBA - CAERDYDD
- AISHA KIGS - CAERDYDD
- ALEKXSANDR, CAERDYDD
- ARTSHAWTY - CAERDYDD
- ASHA JANE - CAERDYDD
- BANDICOOT - ABERTAWE
- THE BUG CLUB - CIL-Y-COED, SIR FYNWY
- CHASING SHADOWS - SIR DDINBYCH
- CELAVI - BANGOR
- CLWB FUZZ - CAERDYDD
- CERYS HAFANA - MACHYNLLETH
- CI GOFOD - MAESTEG
- CUPSOFTE - CAERDYDD
- GWENNO MORGAN - BANGOR
- HANNA LILI - ABERSILI
- HEMES - PONTYPRIDD
- TEDDY HUNTER - CAERDYDD
- JAMES AND THE COLD GUN - CAERDYDD
- K(E)NZ - ABERTAWE
- KINNIGAN - CAERDYDD
- KIM HON - CAERNARFON
- HARRY JOWETT - BRO MORGANNWG
- L E M F R E C K - GWENT
- LLOYDY LEW - TORFAEN
- LUKE RV - CASTELL-NEDD
- MACE THE GREAT - CAERDYDD
- MALAN - CAERNARFON
- MALI HAF - CAERDYDD
- MANTARAYBRYN - CAERDYDD
- MIRARI MORE - CAERDYDD
- NIQUES - CAERDYDD
- PANTA RAY - CAERDYDD
- REBECCA HRN - PORTHCAWL
- ROMAN YASIN - CAERDYDD
- SKYLRK - DYFFRYN NANTLLE
- SOREN ARAUJO - CARDIFF
- SYBS - CASNEWYDD
- SU SANG SONG - CAERDYDD
- SZWE - CAERFYRDDIN
- TARA BANDITO - CAERDYDD
- TAPESTRI - SIR BENFRO/SIR F脭N
- THALO - PENYGROES
- WINGER RECORDS - SIR GAERFYRDDIN
- WOBBLI BOI - SIR GAERFYRDDIN
- WYNT - RHONDDA
- VOYA - CAERDYDD
- YAZMEAN - CAERDYDD
- XL LIFE - CAERDYDD
Dywedodd Bethan Elfyn, rheolwr prosiect gyda Gorwelion fod y cynllun yn "rhoi'r camau cyntaf hollbwysig i artistiaid yng Nghymru".
"Mae'n bwysicach nag erioed i gysylltu cymuned, i gredu yn yr artistiaid a'u taith ac i roi buddsoddiad yn niwydiant cerddoriaeth Cymru, a hynny yn yr eco-system gyfan o amgylch yr artistiaid - o'r stiwdios, i gynhyrchwyr, labeli, cwmn茂au hyrwyddo a mwy," meddai.
Ychwanegodd Lisa Matthews-Jones, rheolwr portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru eu bod "wrth ein bodd o weld nifer a chyfoeth y ceisiadau a ddaeth i law".
"Mae llawer iawn o dalent cerddorol yng Nghymru ar draws pob genre ac ymhob cornel, ac mae'r Gronfa Lansio yn gyfle hollbwysig i ddyrchafu'r artistiaid hyn," meddai.
'Cymry mor lwcus'
Dywedodd Tara Bethan, sydd bellach yn perfformio dan enw Tara Bandito, y bydd yr arian yn gymorth i artistiaid cerddorol sydd wedi'i chael yn anodd yn ystod y pandemig.
"Fel Cymry 'dan ni mor lwcus. Mae bod yn gerddor - ymysg lot o jobsys eraill - yn y ddwy flynedd ddiwetha' 'ma yn sicr wedi bod yn anodd," meddai ar Dros Frecwast.
"Ond i fi yn bersonol be' fydd yr arian yma'n ei olygu ydy 'mod i'n gallu rhyddhau dau fideo cerddoriaeth arall ar ben yr un cyntaf, sef Blerr."
Ychwanegodd Mali Haf ei bod wedi ystyried gwneud cais am y cynllun ers blynyddoedd.
"O'n i'n cofio pan o'n i yn arddegau fi ac o'dd mam yn dweud 'C'mon Mali ymgeisia am Gorwelion', ag o'n i fel 'fi ddim yn barod 'to'.
"Ond o'dd e wastad ar bucket list fi ag o'dd e mor sbesial cael e y tro cyntaf i fi drio amdano fe.
"Fi 'di dilyn e ers ages, gweld pwy sy'n mynd arno fe a chael yr arian, ac maen nhw mor dalentog ac anhygoel, ti'n meddwl 'ydw i'n gallu 'neud e?'"