大象传媒

Guto Harri yw rheolwr cyfathrebu newydd Boris Johnson

  • Cyhoeddwyd
Guto Harri a Boris Johnson yn 2009Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Guto Harri gyda Boris Johnson yn 2009 pan roedd yn gyfarwyddwr cyfathrebu cyn Faer Llundain

Mae Prif Weinidog y DU Boris Johnson wedi penodi'r cyflwynydd Guto Harri fel ei gyfarwyddwr cyfathrebu newydd.

Y Cymro oedd pennaeth cyfathrebu a phennaeth staff Mr Johnson yn ystod ei dymor cyntaf fel Maer Llundain.

Mae S4C wedi cadarnhau na fydd yn parhau i gyflwyno'r rhaglen deledu Y Byd Yn Ei Le yn sgil y penodiad.

Daw cyhoeddiad Mr Johnson wedi i sawl aelod allweddol o d卯m Mr Johnson yn Downing Street ymddiswyddo yn ystod y dyddiau diwethaf.

Mae hi wedi bod yn wythnos gythryblus i'r Prif Weinidog a'i weinyddiaeth wedi i'r uwch was sifil Sue Gray gyhoeddi adroddiad cychwynnol i bart茂on yn Downing Street tra bod cyfyngiadau Covid mewn grym.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Boris Johnson wedi bod dan bwysau aruthrol, o sawl cyfeiriad, cyn ac ers cyhoeddiad adroddiad Sue Gray

Dywedodd Mr Johnson bod Mr Harri "yn newyddiadurwr uchel ei barch 芒 gyrfa ddisglair gyda'r 大象传媒 cyn ymgymryd 芒 rhai o'r swyddi cyfathrebu mwyaf heriol".

Ar 么l ei gyfnod diwethaf yn gweithio i Boris Johnson, cafodd Guto Harri ei benodi'n gyfarwyddwr cyfathrebu News UK, cwmni Rupert Murdoch, yn y cyfnod yn dilyn y sgandal hacio ffonau.

Roedd hefyd ar un cyfnod yn ymgynghorydd i'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus Hawthorn Advisers, ac fe fu hefyd mewn swydd blaenllaw gyda Liberty Global.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Samuel Kurtz MS

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Samuel Kurtz MS

Mae wedi ysgrifennu colofnau i nifer o bapurau newydd gan gynnwys y Times a'r Daily Telegraph, ac mae wedi bod yn sylwebydd cyson ar raglenni LBC, Sky a'r 大象传媒, gan ymateb yn aml ar ddatblygiadau'n ymwneud 芒 Mr Johnson a'i lywodraeth.

Y llynedd fe ymunodd 芒 th卯m darlledu'r sianel deledu newydd GB News cyn i reolwyr ddweud ei fod wedi torri safonau'r sianel trwy benlinio ar yr awyr i ddangos cefnogaeth i b锚l-droedwyr t卯m Lloegr.

Mewn cyfweliad 芒 phodlediad Newscast y 大象传媒 yn gynharach yn y mis, dywedodd Mr Harri: "Mae Boris yn gyson wedi tanbrisio pa mor hanfodol yw cael t卯m ffantastig o'i amgylch".

Dywedodd hefyd bod angen i Mr Johnson wneud addewid i'r Blaid Geidwadol na fyddai'r "nonsens sydd wedi digwydd" yn digwydd eto.

Mae Mr Johnson hefyd wedi penodi Steve Barclay AS i fod yn bennaeth staff fel rhan o newidiadau a fydd "yn cryfhau r么l fy Nghabinet a chydweithwyr meinciau cefn ac yn cyflymu ein perwyl diffiniol i godi'r gwastad ar draws y wlad".

Pynciau cysylltiedig