Bygwth diarddel CPD Dinas Bangor oherwydd dyled

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe symudodd CPD Bangor i'w cartref newydd yn Nantporth bron i 10 mlynedd yn 么l

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi rhoi saith diwrnod i glwb Dinas Bangor dalu dyledion gwerth 拢53,000 neu wynebu eu diarddel o'r gynghrair.

Ond mae'r Dinasyddion nawr wedi derbyn rhybudd byddan nhw'n cael eu diarddel o'r ail haen os na thelir yr 拢53,000 sy'n daladwy erbyn 19 Chwefror.

Oherwydd y gwaharddiad mae'r clwb wedi methu 芒 chwarae pum g锚m yn barod.

Ond hyd yn oed os bydd yr arian yn cael ei dalu, mae'r gymdeithas hefyd wedi rhybuddio'r clwb bydd methu mwy o gemau y tymor yma yn golygu diarddel ar unwaith.

Fe gadarnhawyd fis Ionawr nad oedd y clwb wedi gwneud cais am drwydded ar gyfer tymor 2022/23, sy'n golygu na fydd modd chware ar lefel uwch na'r bedwaredd haen y tymor nesaf.

Mae'r clwb, sy'n chwarae yn stadiwm Nantporth ar gyrion y ddinas ac yn cael ei ystyried yn draddodiadol yn un o gewri'r byd p锚l-droed yng Nghymru, wedi wynebu nifer o drafferthion yn y blynyddoedd diwethaf.

Wedi colli'i lle yng nghyngrair JD Cymru Premier yn dilyn methiant i sicrhau trwydded ar gyfer tymor 2018/19, aeth nifer sylweddol o'r cefnogwyr ymlaen i greu clwb newydd, Bangor 1876, oherwydd pryderon yngl欧n 芒r ffordd yr oedd Clwb Dinas Bangor yn cael ei redeg.