Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Syndrom ofari polysystig: 'Hunllef cyn tabledi gwrth-iselder'
- Awdur, Meleri Williams
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae angen gwella'r gefnogaeth iechyd meddwl i fenywod sy'n byw 芒 syndrom ofar茂au polysystig (PCOS).
Dyna alwad elusen ac un arbenigwr o Brifysgol Caerdydd a ddywedodd wrth 大象传媒 Cymru Fyw nad yw'r cysylltiad rhwng y cyflwr a'r effaith mae'n gallu cael ar iechyd meddwl "yn cael ei gydnabod ddigon".
Yn 么l Angharad Lewis, 41, o Lanybydder sy'n byw 芒'r cyflwr, roedd ei symptomau mor wael fel "nad oedd hi eisiau byw".
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod iechyd menywod yn "flaenoriaeth" iddyn nhw ac y bydd cynllun newydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Cafodd Angharad ddiagnosis o gyflwr PCOS 20 mlynedd yn 么l.
Roedd hi'n cael y symptomau arferol oedd yn gysylltiedig 芒'r cyflwr, ond heb yn wybod iddi ar y pryd, fe ddechreuodd gael effaith ar ei hiechyd meddwl.
"Ro'n i'n cael mislif trwm iawn, o'n i mewn poen ofnadwy am wythnos gyfan o bob mis, tyfu gwallt ar fy wyneb, gorbryder, poeni gymaint am fynd allan oherwydd y mislif trwm fel bod e bron yn embarrassing.
"O'dd e'n hunllef... o'n i ddim yn sylwi pa mor wael o'dd fy iechyd meddwl i ar y pryd".
'Ddim eisiau byw rhagor'
Penderfynodd Angharad yn 2006 ei bod hi a'i g诺r, Andrew, eisiau dechrau teulu.
Er mwyn dechrau ar driniaeth IVF, bu'n rhaid iddi ddod oddi ar ei meddyginiaeth atal cenhedlu oedd yn helpu lleddfu symptomau'r PCOS.
Fe waethygodd cyflwr meddyliol Angharad yn ddifrifol.
"O'n i ar fy nglinie. O'dd e'n rheoli bywyd fi gyment.
"Cyn mynd i weld y doctor o'n i wedi cyrraedd y pwynt le o'n i ddim ishe byw rhagor.
"O'dd fy wyneb i 'di mynd yn flewog iawn, y poenau, jyst functiono o ddydd i ddydd jyst wedi cario arna i yn llwyr."
Cafodd Angharad feddyginiaeth gwrth-iselder yn 2019 a chafodd gyngor i roi ei hiechyd meddwl yn gyntaf.
Roedd hynny'n golygu stopio'r driniaeth IVF ac ail-ddechrau'r feddyginiaeth i reoli'r PCOS.
"Ma hi [y nyrs] wedi newid bywyd fi. Y cwbl na'th hi o'dd rhoi fi ar anti-depressant, Prozac, am chwe mis a rhoi fi ar y mini pill.
"Y geirie' gore glywes i gan y nyrs 'na o'dd 'anghofia am drio am fabi ar hyn o bryd. Ma'n rhaid iti edrych ar 么l dy hunan'."
Mae Angharad yn galw nawr am fwy o gefnogaeth i gleifion PCOS.
"Fi ddim yn mo'yn gweld merched ifanc yn stryglo fel nes i. Ma' angen atebion ar fenywod... a mwy o gefnogaeth".
Beth yw PCOS?
Cyflwr sy'n cael ei achosi gan lefelau hormon abnormal yw PCOS sy'n aml yn achosi'r ofar茂au i fynd yn systig.
Mae'r symptomau corfforol yn aml yn golygu anawsterau wrth golli pwysau, ceisio beichiogi a bod mwy o flew yn tyfu dros y corff a'r wyneb oherwydd lefelau uwch o hormon testosteron, sy'n uwch mewn dynion yn gyffredinol.
Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod menywod sy'n byw 芒 PCOS 芒 "risg llawer yn uwch o ddioddef o orbryder ac iselder" - a hynny oherwydd symptomau a sgil effeithiau'r cyflwr.
Ond maen nhw'n pwysleisio bod y symptomau'n amrywio o berson i berson.
'Bwlch yn y sgyrsiau gyda'r meddyg'
Yn 么l yr Athro Aled Rees o Brifysgol Caerdydd, sy'n arbenigo mewn endocrinoleg, dyw'r cyflwr PCOS ddim yn cael ei gydnabod ddigon - yn enwedig yr effeithiau ar iechyd meddwl.
"Ma' PCOS yn gyffredin iawn," dywedodd. "Ma 'na ryw 8-13% o fenywod ifanc yn y DU yn dioddef o'r cyflwr ac mae'n glwstwr o broblemau'n sy'n dod at ei gilydd.
"Ma' cleifion yn aml yn dod atom ni i'r clinig ac mae'n amlwg o'r symptomau ma' nhw'n disgrifio ei fod yn mynd i gael effaith ar iechyd meddwl, a ni 'di gweld bod 'na ddim astudiaeth mawr wedi bod yn y gorffennol i edrych mewn i'r cysylltiad."
Dywedodd fod pethau'n dechrau gwella ond mae'n galw am fwy o bwyslais ar yr effaith ar iechyd meddwl mewn sgyrsiau gyda chleifion PCOS.
"Dw i'n credu, i ddechre, bod y linc [rhwng y symptomau corfforol a meddyliol] ddim wedi cael digon o sylw.
"[Mae angen] rhoi pwyslais i gleifion a doctoriaid bod unrhyw consultation neu sgwrs ma' rhywun yn ca'l gyda'r doctor yn cynnwys trafodaeth am iechyd meddwl achos ma' 'na driniaeth effeithiol ar gael."
'Ar ei h么l hi'
Mae elusen Triniaeth Deg i Ferched yng Nghymru yn galw am roi cyflyrau iechyd menywod ar frig agenda'r Llywodraeth - gan ddadlau bod y sgil-effeithiau meddyliol yn mynd yn angof yn aml.
Dywedodd Julie Richards, sy'n ymddiriedolwr gyda'r elusen: "Dyw'r cysylltiadau rhwng salwch, yn benodol i ferched, ddim yn cael ei ymchwilio'n ddigon trylwyr.
"Ni ar ei h么l hi, yn ofnadwy ar ei h么l hi. Mae angen clinigau arbenigol arnom ni yng Nghymru ac o ran iechyd ehangach menywod ni ar ei h么l hi ymhob un maes.
"Felly dim ond un o'r cyflyrau yw PCOS sy'n effeithio ar fenywod ac sydd ddim yn cael ei ddelio 芒 yn y ffordd gywir."
'Cyhoeddi cynlluniau yn fuan'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles menywod yn flaenoriaeth i ni.
"Byddwn ni'n cyhoeddi yn fuan ein cynlluniau a fydd yn amlinellu sut ry'n ni'n disgwyl i'r GIG yng Nghymru gefnogi menywod i gael mynediad i'r gwasanaethau iechyd sydd angen arnyn nhw."
Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y 大象传媒.