大象传媒

Gollwng 500 baril o olew i'r m么r ger arfordir y gogledd

  • Cyhoeddwyd
arfordir y gogleddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gollyngwyd yr olew i'r m么r brynhawn Llun

Mae oddeutu 500 baril o olew wedi gollwng o bibell ger arfordir y gogledd.

Cafodd y bibell, sy'n rhedeg rhwng dau blatfform o'r enw Conwy a Douglas, ei chau wedi'r gollyngiad brynhawn Llun ac mae'n parhau ar gau.

Dywedodd y cwmni sy'n rhedeg y system, ENI UK, eu bod yn dal i geisio gwirio manylion yr hyn ddigwyddodd tua 30 milltir i'r gogledd o blatfform Conwy. Ni chafodd neb ei anafu.

Ychwanegodd y cwmni bod yr holl awdurdodau perthnasol wedi cael eu hysbysu, ac y byddai mwy o wybodaeth pan fydd mwy o fanylion ar gael.

Mae gollyngiad o tua 500 baril yn cyfateb i rhyw 80,000 litr.

Mae'r Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau yn dweud bod eu t卯m gwrth-lygredd ynghyd ag Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol y llywodraeth yn monitro ymateb ENI a'u bod yn "cynorthwyo awdurdodau partner lleol mewn ymateb" i'r digwyddiad.

Mae cyfadeilad Douglas yn cynnwys tri phlatfform, ac mae wedi'i leoli tua 15 milltir oddi ar arfordir y gogledd.

Pynciau cysylltiedig