Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y farn o Wlad Pwyl: 'Mae gan bob ffoadur ei stori'
- Awdur, Sion Pennar
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru yng Ngwlad Pwyl
Mae ffoaduriaid o'r Wcr谩in yn dal i dyrru i wledydd cyfagos - a'r rhan fwyaf yn dod yma i Wlad Pwyl.
Yn 么l yr awdurdodau Pwylaidd mae bron i 200,000 wedi cyrraedd y wlad hon ers dechrau'r ymosodiad milwrol dydd Iau.
Fe gyrhaeddodd bron 44,000 o'r rheiny fore Sul.
Mae gwledydd eraill hefyd yn gwneud eu rhan - gan gynnwys Hwngari, Romania a Moldofa.
Daw hynny 芒 chyfanswm y ffoaduriaid i tua 370,000, yn 么l y Cenhedloedd Unedig.
Mae gan bob un o'r ffoaduriaid eu stori, wrth gwrs, ac yn Warsaw ddoe [Sadwrn] dywedodd sawl un wrtha' i eu bod wedi gorfod cysgodi rhag y bwledi a'r bomiau ar eu taith tua'r gorllewin.
Yma yn Lublin, dinas ranbarthol bwysig tua 50 milltir o'r ffin, mae sefydliadau dyngarol, llywodraethol a phobl gyffredin wedi neidio ar y cyfle i helpu.
Dywedodd pennaeth cangen leol y Groes Goch Bwylaidd eu bod nhw'n paratoi i yrru faniau llawr blancedi a bwyd i helpu'r rheiny sy'n disgwyl i gael croesi i Wlad Pwyl.
Gyda'r tymheredd yma dros nos yn is na'r rhewbwynt - mae'n amlwg pam fod hynny'n flaenoriaeth.