大象传媒

Mae yna Le gan Rhydian Meilir yn ennill C芒n i Gymru 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhydian Meilir a Ryland TeifiFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhydian Meilir wnaeth gyfansoddi Mae yna Le, tra mai Ryland Teifi oedd yn ei pherfformio

Mae yna Le gan Rhydian Meilir sydd wedi cipio tlws C芒n i Gymru 2022, a gwobr ariannol o 拢5,000.

Cafodd y g芒n, oedd yn cael ei pherfformio gan Ryland Teifi, ei dewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr rhaglen C芒n i Gymru ar S4C.

Mae Rhydian, o Gemaes ger Machynlleth, yn wyneb cyfarwydd iawn i'r gystadleuaeth.

Mae wedi cyrraedd y rhestr fer yn 2012 gyda Cynnal y Fflam, yn 2019 gyda Gewn ni Weld Sut Eith Hi, a llwyddodd gyfansoddi dwy g芒n ar restr fer 2020 - Pan Fyddai'n 80 Oed a Tir a'r M么r.

Mae'r g芒n - Mae yna Le - ynn deyrnged i natur a phrydferthwch y byd.

'Methu cael gwared arna i!'

Dywedodd Rhydian: "O'r diwedd! O'dd gennai ddim disgwyliadau o gwbl, awydd un go arall - 'chi methu cael gwared arna i!

"O'n i'n teimlo'n falch iawn dros Ryland am roi ei stamp ar y g芒n, a 'naeth o jest gafael yn y g芒n a'i pherfformio union fel oeddwn i isio."

Ffynhonnell y llun, S4C

Cana dy G芒n oedd yn ail, gan dderbyn gwobr o 拢2,000. Geth Tomos oedd cyfansoddwr y g芒n honno, gyda geiriau gan Geth Robyns a Rhys Owain Edwards yn ei pherfformio.

Yn drydydd - gan ennill gwobr o 拢1,000 - fe ddaeth Rhyfedd o Fyd, wedi'i chyfansoddi gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen, geiriau gan Emlyn Gomer Roberts, ac a oedd yn cael ei pherfformio gan Elain Llwyd.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, nos Wener, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.

O'r cyfanswm o 99 o geisiadau, roedd panel o arbenigwyr wedi dewis wyth o'u ffefrynnau i gael eu perfformio ar y noson.

Ar y panel eleni roedd Dafydd Iwan, Lily Beau, Elidyr Glyn a Betsan Haf Evans.