大象传媒

Sut mae ennill C芒n i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Arfon WynFfynhonnell y llun, Arfon Wyn

Oes 'na fformiwla i ennill C芒n i Gymru? Mae'r gystadleuaeth am y g芒n orau yn cael ei nos Sadwrn, 29 Chwefror, ond ar 么l ennill bedair gwaith mae Arfon Wyn wedi penderfynu rhoi'r gorau i gystadlu.

"Roedd gen i g芒n eleni ro'n i'n meddwl fysa'n gwneud ond nes i benderfynu peidio ei gyrru hi achos amser i bobl ifanc ydi hi r诺an," meddai wrth Cymru Fyw.

Enillodd y gystadleuaeth fel cyfansoddwr gyda Ni Welaf yr Haf gyda'i fand Pererin yn 1979; Cae o 哦d yn 2000; Harbwr Diogel ar y cyd 芒 Richard Synnott yn 2002 ac yn fwyaf diweddar, Y Lleuad a'r S锚r ar y cyd ag Elin Angharad yn 2015.

Felly beth yw'r gyfrinach? Dyma gyngor Arfon Wyn am yr elfennau sy'n bwysig i g芒n fuddugol yn ei farn o:

Alaw dda sy'n bachu yn gyflym

"I ddechrau, mae'n rhaid i chdi gael melodi dda," meddai.

Ond peidiwch ei gadael rhy hir cyn i'r bachyn gicio i fewn: "Dwi'n gwybod ei fod yn air cawslyd ond rhaid bod y g芒n yn catchy yn sydyn."

C芒n anthemig

"Mae'n help os oes 'na rywbeth anthemig yn y g芒n - 'fath 芒 Cae o 哦d ddaru Martin Beattie ei chanu i mi.

"'Ac mae s诺n y gynnau'n tanio, dal i'w glywed yn y nos' - fedri 'di ganu honna efo lighter yn dy law mewn festival!"

Cytgan sy'n gafael

"Mae'r gytgan yn bwysig. Mae geiriau penillion Harbwr Diogel yn rhai reit ddifrifol a thrist ond am bod y gytgan mor catchy toedd ddim ots gan bobl am eiriau'r penillion - y gytgan aeth 芒 hi efo honna.

"A rhaid i'r gytgan fod yn afaelgar yn sydyn."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Harbwr Diogel yn 2002 wnaeth lawnsio gyrfa Elin Fflur fel artist unigol

Geiriau da

"I mi, mae'r geiriau yn bwysig. Dydyn nhw ddim wedi bod yn hollbwysig bob amser yn y gystadleuaeth ond mae'r caneuon sydd wedi dal eu tir - fel Y Cwm, Nwy yn y Nen, Nid Llwynog Oedd yr Haul - yn rhai lle mae'r geiriau yn bwysig iawn.

"Mae'r geiriau yn gorfod dod o'r galon. Myrddin ap Dafydd wnaeth y rhai gorau [awdur Golau Tan Gwmwl, 1980 a Nid Llwynog Oedd yr Haul, 1982].

"Mae'r ystyr yn bwysig - roedd y g芒n am Hedd Wyn [enillodd yn 2018] yn apelio i'r gynulleidfa ar y pryd."

C芒n sy'n eich codi

"Roedd Harbwr Diogel yn g芒n ddistaw pan wnes i ei gyrru hi i mewn ond roedd y trefniant roedd C芒n i Gymru wedi ei gwneud wedi ei chyflymu hi ac oedd hynny yn beth da, achos mi ddaeth y g芒n yn fwy poblogaidd oherwydd hynny.

"Ar y cyfan, mae'n well iddi fod yn g芒n reit hapus - doedd Harbwr Diogel ddim yn g芒n hapus yn mynd i mewn ond ar 么l cael ei chyflymu daeth yn rhywbeth roedd plant yn ei ganu mewn ysgolion cynradd."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyd gyfansoddodd Arfon Wyn Y Lleuad a'r S锚r gydag Elin Angharad, oedd yn ei chanu ar y noson yn 2015

Gwerin neu bop?

"Mae 'na ryw fath o schizophrenia yn y gystadleuaeth achos mae'r g芒n fuddugol i fod i fynd i'r 糯yl Ban Geltaidd yn Iwerddon, sy'n 诺yl werin. Ond yng Nghymru c芒n bop, gyfoes, maen nhw'n chwilio amdani.

"Mae 'na ganeuon gwerinol gan Plethyn wedi ennill yn y gorffennol - does 'na'm byd o'i le efo'i wneud yn y dull c芒n werin gyfoes. Ond dwi 'di ffeindio mai c芒n boblogaidd - pop - sy'n mynd 芒 hi ran amlaf.

"Ond ro'n i'n licio c芒n Elidir Glyn yn 2019. Roedd ganddi bob dim - melodig, geiriau da ac yn apelio'n syth. C芒n werin yn y dull gwerin cyfoes oedd yn enghraifft wych o'r elfennau i gyd: roedd hi jyst yn extra bonus bod hi'n werinol."

Ond nid rhy abrofol...

"Roedd 'na un g芒n oedd ychydig yn RnB yn cael ei chanu gan Elin Parisa Fouladi ryw ddwy flynedd yn 么l o'n i'n meddwl oedd yn g芒n wych - o'n i'n ei licio hi'n arw ond am ryw reswm dim dyna'r math o g芒n sy'n mynd 芒 hi.

"Ers talwm roedd y canu arborofol i fod yn yr underground - dyna oeddan ni'n ei alw fo. Frank Zappa a phobl felly oedd yn gwneud pethau diddorol, arbrofol. Ac yma yng Nghymru mae hwnna wedi cymryd drosodd dwi'n meddwl ar raglenni Radio Cymru - mae'r arbrofol wedi cymryd drosodd oddi wrth y melodig a dwi ddim yn meddwl bod hynny'n beth da.

"Mae Cymry yn licio geiriau da, alaw dda, a gorau oll os ydi hi'n anthemig."

Dim ots os nad ydi hi'n ennill

"Dwi 'di cael lot o ail a thrydydd yn y gystadleuaeth hefyd.

"Beth sydd isho ei ddweud am C芒n i Gymru fwy na dim ydy ei bod yn rhoi cyfle i gyfansoddwyr wneud eu marc.

"Doedd gen i ddim ffynhonnell arall i wneud hynny. Yng Nghymru, yn enwedig yn y gorffennol, os oedd Radio Cymru ddim yn chwarae dy stwff di doedd gen ti ddim gobaith, felly roedd C芒n i Gymru yn rhoi cyfle i ti wneud dy farc fel cyfansoddwr. Os oedd gen i g芒n fyddai'n gwneud pan oedd y dedlein yn dod, ro'n i'n ei gyrru hi mewn.

"Weithiau nid yr enillydd ydi'r g芒n sy'n goresgyn - 'run fath ag Yma Wyf Finnau i Fod, sy'n chwip o g芒n. Aeth hi ddim trwadd i'r rownd olaf hyd yn oed.

"Dim ots os ti'n ennill, achos os 'di'r g芒n yn gafael mi wneith hi oroesi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arfon Wyn gyda Geraint L酶vgreen a gyfansoddodd Nid Llwynog Oedd yr Haul gyda Myrddin ap Dafydd ac Yma Wyf Finnau i Fod gyda Meirion MacIntyre Huws

Cyfle i feirniadu?

"Y dyddiau yma, dwi 'di penderfynu peidio trio a gadael i'r rhai newydd gael cyfle," meddai Arfon Wyn.

"Fel yr Eisteddfod - os wyt ti wedi ennill y Gadair neu'r Goron dair gwaith fedri di ddim cystadlu eto. Ro'n i'n meddwl y bysai hynny yn beth da efo C芒n i Gymru hefyd!"

"Ond fyswn i'n licio gwahoddiad i fod yn feirniad - dwi'n disgwyl am hwnna ers blynyddoedd ond 'di hynny ddim 'di digwydd - mae hynny'n siomedig."

Ond, nos Sadwrn fe fydd yn feirniad answyddogol yn gwylio gartref ar y teledu!

Hefyd o ddiddordeb: