Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwasanaethau fasgwlar y gogledd 'angen gwelliant sylweddol'
Mae gwasanaethau fasgwlar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi eu dynodi fel rhai sydd "angen gwelliant sylweddol", gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).
Daw'r penderfyniad wedi i AGIC gynnal cyfarfod i drafod y sefyllfa ddiwedd mis Chwefror.
Roedd hynny'n dilyn adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon wnaeth godi pryderon, gan gynnwys fod perygl i gleifion sy'n defnyddio'r gwasanaethau.
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei fod yn "siomedig, rhwystredig a dig" am safon y gwasanaethau fasgwlar.
Mae'r mater wedi bod yn bwnc llosg ymysg cleifion a gwleidyddion ers i'r bwrdd iechyd ganoli'r gwasanaethau fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn Ebrill 2019.
'Rhybudd terfynol'
Fis diwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi "rhybudd terfynol" i'r bwrdd iechyd y gallai fod mewn mesurau pellach o fewn tri mis os na fyddai gwelliannau.
Bryd hynny dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fod cynnwys adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn "siom ac yn achos pryder", ond na fyddai'r bwrdd iechyd yn cael ei rhoi dan fesurau arbennig yn syth.
Ond mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo'r llywodraeth o wneud penderfyniad gwleidyddol i dynnu'r bwrdd iechyd o'r mesurau arbennig yn y lle cyntaf.
Daeth Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020, a hynny ar 么l bod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ers haf 2015.
Dywedodd AGIC fod dynodi'r gwasanaethau fasgwlar fel rhai sydd angen gwelliant sylweddol yn eu galluogi i "geisio sicrwydd ynghylch materion penodol a amlinellwyd yn adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon".
Ychwanegodd fod hyn yn cynnwys "gwaith gwael gan y t卯m amlddisgyblaethol, dogfennau a gwaith cadw cofnodion gwael, ac ansawdd y gofal clinigol".
Yn 么l AGIC fe allai pob un o'r pwyntiau hynny "beri pryder i ddiogelwch cleifion a'r canlyniadau iddynt".
"Ar ben hynny, o ganlyniad i ganfyddiadau adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, mae gan AGIC bryderon dros drefniadau llywodraethu ansawdd o fewn gwasanaethau fasgwlaidd," meddai'r corff mewn datganiad.
Yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor cyfrifon cyhoeddus a gweinyddiaeth gyhoeddus y Senedd fore Mercher dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei fod yn "siomedig, rhwystredig a dig" am safon gwasanaethau fasgwlar y gogledd.
Dywedodd Mark Polin ei fod yn adrodd i'r Gweinidog Iechyd pob mis am sut y mae'r gwasanaethau'n datblygu, a bod yr adroddiad cyntaf o'r fath newydd gael ei gyflwyno.
"Mae 'na ffocws mawr r诺an ar y problemau gyda gwasanaethau fasgwlar ac mae pethau'n digwydd ar fyrder," meddai.
"'Dan ni'n canolbwyntio ar gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen, a byddwn yn disgwyl fod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud mewn tri mis.
"Dwi'n credu mai'r model 'dan ni wedi'i fabwysiadu r诺an ar gyfer y gwasanaeth yw'r un cywir, ac mae'n gynaliadwy yn y tymor hir."
'Dan y lach unwaith eto'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ogledd Cymru, Darren Millar fod "gwasanaethau iechyd y gogledd dan y lach unwaith eto am y rhesymau anghywir".
"Mae pobl yn y rhanbarth yn cael eu methu gan arweinwyr y GIG, sy'n ymddangos yn hollol ddi-glem am sut i wella'r gwasanaethau y mae cleifion yn dibynnu arnynt," meddai.
"Mae'r newyddion heddiw yn dangos yn amlwg mai penderfyniad gwleidyddol oedd cymryd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig, ac nad oedd yn seiliedig ar wneud y penderfyniadau a'r gwelliannau sydd wedi eu haddo.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am y methiannau yma a dal y rheiny sy'n gyfrifol i gyfrif."