Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Amheuon am ddyfodol cerbyd arfog Ajax ar gyfer y Fyddin
Mae amheuon am ddyfodol cerbyd arfog sy'n cael ei adeiladu ar gyfer y Fyddin yn ne Cymru, meddai'r corff gwarchod gwariant.
Mae prosiect Ajax yn cyflogi 800 o bobl ar draws dau safle ym Merthyr Tudful ac Oakdale, ac yn cefnogi dros 4,000 o swyddi ar draws y DU.
Bu oedi oherwydd problemau gyda s诺n a dirgryniadau.
Mae adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) yn rhybuddio bod 'na risg y gallai'r problemau "fod yn anorchfygol".
Mae hefyd yn dweud bod "heriau a phenderfyniadau anodd" os yw'r Weinyddiaeth Amddiffyn am gyflawni'r prosiect.
Dywedodd y weinyddiaeth na fyddai'n derbyn "cerbyd sydd ddim yn addas i'w bwrpas", ond ei fod yn gweithio gyda'r gwneuthurwyr er mwyn datrys y problemau gyda s诺n a dirgryniadau.
Dywedodd ffynhonnell sy'n agos at weithwyr yn y ffatri ym Merthyr fod yna rwystredigaeth oherwydd yr oedi a'r problemau parhaus, a bod cwmwl dros weithwyr yno.
Canfu adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol nad oes gan y Weinyddiaeth Amddiffyn unrhyw hyder yn ei tharged ei hun i Ajax fod yn gwbl weithredol erbyn mis Ebrill 2025.
Rhybuddiodd hefyd y gallai gymryd hyd at ddiwedd 2022 i ddod o hyd i ateb, oherwydd bod y Weinyddiaeth Amddiffyn a General Dynamics - sy'n cynhyrchu'r cerbyd - yn anghytuno ar ddiogelwch Ajax.
'Peryglon yn cynyddu'
Dywedodd Meg Hillier AS, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol "yn darllen fel rhestr wirio ar gyfer methiant prosiectau mawr lle aeth bron popeth o'i le".
"Mae'n golygu bod Ajax bellach wedi ymuno 芒'r pantheon truenus o brosiectau'r llywodraeth sydd wedi mynd oddi ar y trywydd," meddai.
"Mae'r Fyddin yn cael ei gorfodi i barhau i ddefnyddio offer cynyddol hen a darfodedig sydd, ar wah芒n i ychwanegu costau, yn lleihau ein gallu ar adeg pan fo peryglon yn cynyddu."
Roedd y cerbyd i fod i fod yn barod yn 2017, ond mae eisoes wedi cael ei wthio yn 么l ddwywaith.
Llofnododd y Weinyddiaeth Amddiffyn gytundeb ar gyfer 589 o gerbydau yn 2014 a hyd yma mae wedi gwario mwy na 拢3bn, ond dim ond 26 o gerbydau sydd wedi dod i law.
Mae gan yr oedi oblygiadau o ran sut y byddai'r Fyddin yn cyflawni'r ailstrwythuro arfaethedig erbyn 2025.
Dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod agwedd y Weinyddiaeth Amddiffyn a General Dynamics yn ddiffygiol o'r cychwyn cyntaf gan nad oedd yn deall maint y broblem.
Daeth i'r casgliad nad yw'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dangos gwerth am arian a bod risg o wariant pellach oherwydd yr angen i gynnal y cerbydau arfog presennol sy'n heneiddio.
'Angen gwelliant sylfaenol'
Dywedodd Gareth Davies, pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol: "Rydym wedi gweld problemau tebyg ar raglenni amddiffyn eraill, ac mae'n rhaid i'r adran ddangos ei bod yn deall y gwelliant sylfaenol sydd ei angen yn ei rheolaeth o raglenni mawr."
Dywedodd llefarydd o'r Weinyddiaeth Amddiffyn: "Fel rydym wedi ei gwneud yn glir, mae Ajax yn rhaglen gythryblus, ac ni fyddwn yn derbyn cerbyd sydd ddim yn addas i'w bwrpas."
Ychwanegodd eu bod yn gweithio gyda Genaral Dynamics i fynd i'r afael 芒'r problemau o ran s诺n a dirgryniadau, a'u bod yn parhau'n obeithiol y bydd y cerbydau yn cael eu cyflawni i'r Fyddin.
Mewn ymateb dywedodd General Dynamics ei fod yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddosbarthu Ajax i'r Fyddin Brydeinig.
Dywedodd llefarydd: "Wedi'i adeiladu yng Nghymru, Ajax fydd y cerbyd ymladd arfog mwyaf datblygedig yn dechnolegol yn y byd, gan ddarparu'r gallu diweddaraf sydd ei angen yn fawr ar luoedd Prydain."
Mae cerbydau arfog Ajax i fod i ddarparu'r dechnoleg maes brwydr ddigidol ddiweddaraf i'r fyddin, ond hyd at fis Rhagfyr 2021 efallai bod mwy na 300 o berson茅l wedi cael eu niweidio gan s诺n a dirgryniad yn ystod y profion, sydd wedi arwain at yr oedi sylweddol.