Wcr谩in: Teulu'n aduno yn Slofacia cyn dychwelyd i Gymru

Disgrifiad o'r fideo, Mae Gareth Roberts a'i wraig Nataliia o Drawsfynydd wedi aduno 芒'u teulu o Wcr谩in ar y ffin yn Slofacia
  • Awdur, Elen Wyn, Geraint Thomas a Rhodri Llywelyn
  • Swydd, Newyddion S4C yn Slofacia

Ers dros ddau ddegawd mae Gareth Roberts a'i wraig Nataliia wedi bod yn rhannu eu bywyd rhwng eu cartrefi yn Nhrawsfynydd ac Horishni Plavni, tref o 'chydig dros 50,000 o bobl ar lannau'r Dnieper yng nghanolbarth Wcr谩in.

Ond mae'r hen drefn wedi darfod am y tro wrth i fyddin Rwsia ymosod ar Wcr谩in o sawl cyfeiriad.

Daeth Nataliia a'i g诺r i Gymru ganol fis Ionawr, a'r bwriad oedd mynd 'n么l i Wcr谩in ym mis Mawrth.

Ond daeth y rhyfel 芒'u trefniadau i ben, a gweddill eu teulu yn Horishni Plavni a chyrchoedd Putin yn agos谩u.

'Hapus eu bo' nhw'n ddiogel'

Yno roedd Angelina, merch Nataliia a llysferch Gareth Roberts, ei merch hithau, Albina sy'n 12 oed, a'i thad Vova.

Penderfynwyd fod rhaid cael y merched o'r wlad, a'u hebrwng rhywsut i ddiogelwch cefn gwlad Cymru.

Ar 么l teithio o Drawsfynydd i bentref Vysne Nemeck yn Slofacia ar y ffin gyda Wcr谩in, roedd rhaid i Nataliia a Gareth ddisgwyl ynghanol pentref sydd wedi troi, i bob pwrpas, yn wersyll i ffoaduriaid, yn lloches o'r rhyfel ac yn fan cychwyn i weddill y daith.

Disgrifiad o'r llun, Yr aduniad: O'r chwith i'r dde, Albina, Nataliia, Angelina, Giina y ci a Gareth Roberts

"Ma' Nataliia a fi yn hapus bo' ni ar y ffin, ma' nhwythau wedi cyrraedd a ma' hynna yn codi ein calonnau," meddai Gareth Roberts, gyda baner Cymru o amgylch ei 'sgwyddau a baner Wcr谩in wedi ei chlymu o amgylch ysgwyddau ei wraig.

"Ma' Nataliia yn nerfus, yn edrych 'mlaen i weld ei theulu, ac yn hapus eu bo' nhw'n ddiogel."

'Siwrna hir yn 么l i Gymru'

Heb wybod faint o rwystrau fyddai ar y ffordd, roedd Angelina, Albina a'u ci bach Giina wedi gadael eu cartref ers ychydig ddyddiau er mwyn cyrraedd y ffin.

Ond bu'n rhaid gadael Vova ar 么l. Does dim hawl i ddynion rhwng 18 a 64 ffoi - rhaid aros i amddiffyn eu gwlad.

"Gafon ni gyfle i weld nhw'n llwytho y car," meddai Gareth Roberts.

"Angelina a'i g诺r yn 'neud hynna. Mae'r car yn llawn felly fydd hi'n siwrna reit hir yn 么l i Gymru."

Disgrifiad o'r llun, Er hapusrwydd yr aduniad, mae pryder am fod tad Albina, Vova, wedi gorfod aros i frwydro

Cyn yr aduniad, roedd 'na s么n am ddychwelyd rhyw ddydd i Wcr谩in.

"'Da ni'n llawn obeithio y bydd pethau'n setlo. 'Da ni yn awyddus i weld y mab yng nghyfraith, sy'n amddiffyn ei dref."

'Diolchgar i ffrindiau yng Nghymru'

Ar 么l sefyll am sbel gan syllu ar wynebau pawb oedd yn pasio - dyma sylwi ar gar Angelina, ac roedd y teulu bron yn gyflawn unwaith eto.

Cofleidio, sibrwd ambell air - "You're safe now, ok", a "We'll look after you" cyn dechrau gwenu eto.

"Taid - do you remember?" meddai Gareth wrth ei wyres, a hithau yn cofio; merch 12 oed yn sefyll ymhell o'i chartref - un o ffoaduriaid rhyfel Wcr谩in.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r teulu nawr yn wynebu taith hir yn 么l i Gymru

Yr her nesaf yw gadael Slofacia am Gymru.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi newid rhywfaint ar y broses o wneud cais am fisa, fel nad oes rhaid i Wcrainiaid sydd 芒 theulu ym Mhrydain gwblhau y profion biometric yn Ewrop.

O'r wythnos yma mae modd cwblhau y rhan fwyaf o'r ffurflen ar-lein, ac yna gorffen y broses ar 么l cyrraedd.

"'Da ni yn edrych 'mlaen i fod yng Nghymru, ond hefyd i ddychwelyd. Falle bydd hi'n fisoedd, ond 'da ni'n ddiolchgar i ffrindiau yng Nghymru," meddai Gareth Roberts.

Disgrifiad o'r llun, Mae bron i dair miliwn o bobl wedi ffoi o Wcrain ers dechrau'r brwydro, yn 么l y Cenhedloedd Unedig

Bu'r teulu yna'n anelu am westy, cyn cychwyn ar y daith hir 'n么l i Gymru.

Ond mae'r profiad yn chwerw felys i'r pedwar, gan wybod bod Vova ynghanol rhyfel,聽ac nad oes sicrwydd y bydd y pump gyda'i gilydd byth eto.

"Dwi'n hapus," meddai Nataliia, "i weld Angelina ac Albina, ond 'da ni ddim yn hapus bod Vova yn Wcr谩in, a ddim yn hapus am [y sefyllfa yn] Wcr谩in."