拢31m ar gyfer adeiladu prosiect ynni llanw Morlais

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae safle prosiect ynni llanw Morlais yn gorchuddio ardal o 35 cilomedr sgw芒r yn y m么r ger Ynys Lawd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd grant Ewropeaidd o 拢31m yn cael ei roi i brosiect llanw ar Ynys M么n ar gyfer cam cyntaf y gwaith adeiladu.

Bydd prosiect Morlais ger arfordir Ynys Cybi yn gobeithio darparu p诺er i hyd at 180,000 o gartrefi bob blwyddyn.

Dywedodd y llywodraeth ei bod yn debygol mai dyma'r grant mawr olaf fydd yn dod i Gymru o raglen ariannu ranbarthol yr Undeb Ewropeaidd.

Daw wrth i Fenter M么n, sy'n gyfrifol am reoli'r safle, gyhoeddi mai cwmni Jones Bros o Ruthun sydd wedi sicrhau'r prif gytundeb gwerth 拢23.5m i adeiladu'r seilwaith ar gyfer y prosiect.

Bydd Yst芒d y Goron yn buddsoddi 拢1.2m arall ym mhrosiect Morlais er mwyn "cefnogi'r gwaith o gyflawni ei phecyn monitro a lliniaru amgylcheddol".

'Creu swyddi a sgiliau'

Mae safle prosiect ynni llanw Morlais yn gorchuddio ardal o 35 cilomedr sgw芒r yn y m么r ger Ynys Lawd, a'r nod yw gosod hyd at 625 o dyrbinau yn y d诺r.

Bydd y trydan yn cael ei gynhyrchu gan gyfres o dyrbinau llanw, wedi'u lleoli o dan y m么r, sy'n defnyddio egni'r llanw i gynhyrchu trydan.

Derbyniodd y safle, sydd 芒'r potensial i gynhyrchu 240MW o ynni, ganiat芒d ar gyfer datblygiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.

Y gobaith yw y bydd y tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn 2023/24.

Ond mae rhai mudiadau cadwriaethol yn poeni am yr effaith posib ar fywyd gwyllt, a maint y datblygiad.

Ffynhonnell y llun, NOVA Innovation

Disgrifiad o'r llun, Bydd y trydan yn cael ei gynhyrchu gan gyfres o dyrbinau llanw wedi'u lleoli o dan y m么r

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths fod "Ynys M么n a Gogledd Cymru yn gyffredinol mewn sefyllfa dda iawn i chwarae rhan allweddol mewn cynhyrchu ynni carbon isel arloesol sydd o fudd i gymunedau lleol".

"Mae'r newyddion heddiw yn dystiolaeth bellach o hynny. Bydd y prosiect nid yn unig yn hwb i gynhyrchu ynni carbon isel yn y dyfodol ond bydd hefyd yn creu swyddi a sgiliau yn yr ardal," meddai.

Ychwanegodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James fod y llywodraeth "am sefydlu Cymru fel lleoliad o ddewis ar gyfer datblygwyr ffrwd llanw a'r gadwyn gyflenwi".

'Cadwyni cyflenwi lleol'

Jones Bros fydd yn gyfrifol am adeiladu'r is-orsaf ar Ynys Cybi, yn ogystal 芒 gosod ceblau fydd yn cysylltu'r cynllun 芒'r Grid Cenedlaethol.

Mae Menter M么n wedi dweud yn y gorffennol y gallai'r prosiect greu 160 o swyddi.

Ffynhonnell y llun, Menter M么n

Disgrifiad o'r llun, Karen Jones o brosiect Morlais, Dafydd Gruffydd o Fenter M么n, Gerallt Llewelyn Jones o Morlais, a Huw Jones a Brendan Fieldhouse o gwmni Jones Bros

Dywedodd Gerallt Llywelyn Jones, cyfarwyddwr Morlais, fod "sicrhau budd i economi gogledd Cymru wedi bod yn bwysig i ni o'r dechrau a dyma pam roedden ni mor awyddus i greu rhywbeth 芒 gwreiddiau lleol cryf".

"Dim ond y dechrau yw'r contract hwn wrth gwrs, ond mae'n garreg filltir bwysig i sicrhau y gallwn adeiladu cadwyni cyflenwi lleol a chreu cyfleoedd gwaith yma ar Ynys M么n ac ar draws y rhanbarth yn ehangach.

"Nid yr economi yn unig fydd ar ei ennill gobeithio. Gyda'r angen i fynd i'r afael 芒'r argyfwng newid hinsawdd yn dod yn fwy brys, mae'r gallu i gynhyrchu trydan o ynni carbon isel yn fwy o flaenoriaeth byth."