Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen ehangu' ysbyty mwyaf newydd Cymru yn barod
- Awdur, Gareth Bryer
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae angen ehangu ysbyty mwyaf newydd Cymru yn barod gan fod y galw wedi bod traean yn uwch na'r disgwyl.
Fe ymddiheurodd cyfarwyddwr meddygol bwrdd iechyd Aneurin Bevan, Dr James Calvert i gleifion gafodd driniaeth yn Ysbyty'r Faenor, Cwmbr芒n am "y gorlenwi a'r amseroedd aros hir".
Agorodd yr ysbyty ym mis Tachwedd 2020 - pedwar mis yn gynt na'r disgwyl.
Dywedodd Dr Calvert fod y galw cynyddol wedi'i yrru gan y pandemig a pha mor ddifrifol ydy anghenion iechyd pobl.
Ddydd Mawrth, cymerodd y bwrdd iechyd gamau i'w galluogi i ddargyfeirio ambiwlansys i ffwrdd o'r ysbyty ac o bosib canslo apwyntiadau llawdriniaeth a chleifion allanol arferol.
"Gallant fod yn sicr eu bod yn cael gofal o safon uchel iawn, ond rwy'n cydnabod bod y profiad o ofal yn wael iawn," meddai.
Mewn ymateb i'r sefyllfa bydd "canolfan gofal symudol" yn agor yn yr haf, lle caiff cleifion eu trin heb fod angen eu derbyn yn swyddogol i'r ysbyty.
Mae'r ardaloedd aros yn yr ysbyty hefyd wedi'u hailfodelu.
Roedd Dr Calvert hefyd yn cydnabod fod staff yn dal i gael eu gwasgaru'n rhy denau ar draws pedwar ysbyty'r bwrdd iechyd - rhywbeth sydd wedi'i godi eto gan Goleg Brenhinol y Meddygon.
Ym mis Hydref y llynedd dywedodd adroddiad gan Goleg Brenhinol y Meddygon daeth i law 大象传媒 Cymru bod rhai meddygon ac ymgynghorwyr dan hyfforddiant yn y bwrdd iechyd "yn ofni dod i'r gwaith".
Chwe mis ers eu hymweliad, dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, fod gwelliant calonogol wedi'i wneud, ond bod "materion cadw staff, mor芒l, galw gan gleifion, capasiti staff, llwyth gwaith a gorflino dal i fodoli".
'Ddim yn canolbwyntio ar anghenion pobl'
Dywedodd Dr Parisa Torabi, meddyg iau sy'n gweithio yn ysbytai y Faenor a Choleg Brenhinol Gwent, fod pethau wedi gwella gyda staff ychwanegol, ond bod heriau'n parhau o ran gofal i gleifion oedrannus a bregus.
"Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio a gyda hynny mae angen i ni gael ysbytai sy'n gallu darparu gofal i'r cleifion bregus hynny.
"Ar hyn o bryd yn y Faenor tydan ni ddim yn darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth honno," er iddi ychwanegu ei bod yn ymwybodol o gynlluniau ar gyfer t卯m asesu eiddilwch newydd.
Cafodd gofal critigol a gwasanaethau arbenigol yn ysbytai Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd a Nevill Hall yn y Fenni, eu canoli yn Ysbyty Athrofaol y Faenor y llynedd.
Ar y pryd cost adeiladu'r ysbyty oedd 拢358m.
Mae'n golygu bod yn rhaid i feddygon iau symud rhwng safleoedd i gyflawni eu gofynion hyfforddi, all fod yn anodd pan fydd wedi eu hymestyn.
"Mae llawer o feddygon dan hyfforddiant yn pryderu na fyddant yn gallu bodloni gofynion eu portffolio er mwyn gallu pasio'r flwyddyn," meddai Dr Torabi.
Staff 'wedi'u gwasgaru'n rhy denau'
Dywedodd Dr Calvert fod y bwrdd iechyd yn buddsoddi mewn staffio meddygol ar wardiau er mwyn rhyddhau amser i feddygon dan hyfforddiant.
Ym mis Hydref esboniodd fod diffyg o 21 o feddygon iau wedi'u nodi.
Yn fuan ar 么l hynny penodwyd wyth meddyg, gyda 27 yn cael eu cyfweld yr wythnos hon ar 么l ail rownd recriwtio ym mis Ionawr.
Bydd y swyddi hynny'n cael eu lledaenu ar draws y bwrdd iechyd, "yn enwedig er mwyn mynd i'r afael 芒 phryderon yn Nevill Hall lle rydym yn ceisio cryfhau ein staffio," meddai Dr Calvert.
"Dwi ddim yn rhagweld mai'r model yr ydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd fydd y model yr ydym yn ei ddarparu flwyddyn o nawr, oherwydd mae ein staff wedi'u gwasgaru'n rhy denau."
Esboniodd nad oedd y cynllun gwreiddiol yn cynnwys cleifion ac铆wt yn cael eu gweld ar draws pedwar ysbyty, ond roedd Covid wedi gorfodi hynny.
"Wrth i ni ddechrau dychwelyd o Covid yna cawn gyfleoedd i symleiddio'r model gofal, lledaenu staff yn llai tenau a darparu profiad llawer gwell i gleifion."