Heriau newydd cyn y Pasg cyntaf heb gyfyngiad ers 2019

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Gobaith y diwydiant ydy y bydd mwy o bobl yn parhau i archebu gwyliau yng Nghymru eleni
  • Awdur, Mared Ifan
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Ar drothwy'r penwythnos Pasg cyntaf heb unrhyw gyfyngiadau Covid ers 2019, mae diwydiant twristiaeth Cymru yn disgwyl ac yn gobeithio am gyfnod prysur.

Mae wedi bod yn gyfnod heriol wedi dwy flynedd dan gysgod coronafeirws, ond wrth i'r argyfwng costau byw fwrw pocedi, a fydd pobl mor barod i wario ar wyliau a gweithgareddau hamdden?

Yn 么l busnesau, mae'n rhaid iddyn nhw addasu eto yn wyneb amryw o heriau newydd - y cynnydd mawr mewn costau, problemau recriwtio staff a sicrhau bod y diwydiant yn ffynnu eleni wrth i fwy o bobl fynd ar deithiau tramor.

Mae asiantaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru, Croeso Cymru, yn dweud eu bod yn cyd-weithio'n agos gyda busnesau i sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i'r diwydiant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid i Ffos Las ddiswyddo chwech o bobl yn ystod y cyfnod clo er mwyn gallu parhau i weithredu

Ar gae rasio ceffylau Ffos Las ger Llanelli maen nhw'n edrych ymlaen at benwythnos y Pasg wedi cyfnod heriol iawn.

"Mae wedi bod yn ofnadwy o galed i fod yn onest. Buon ni'n cadw fynd yn rasio yn y lockdown... ond mae setbacks wedi bod," meddai prif glerc y cwrs, Dai Jones.

"I fynd 'n么l lan ble oedden ni [cyn y pandemig], especially infrastructure, i buildio pethe newydd a gwella'r lle - mae lot o'r pethe 'na yn mynd i fod ar y back-burner fel maen nhw'n gweud.

"Bues i'n ffodus iawn ond mae llawer eraill wedi cael ffyrlo a hefyd oedd chwech bychan yma wedi colli eu swyddi.

"Mae tri wedi dod 'n么l nawr ond o'dd hi'n galed iawn. Dim ond dau ohonom ni oedd yn cadw'r lle i fynd am naw mis."

'S'dim cymaint o arian i gael gyda phobl'

Rhaid bod yn obeithiol yn 么l Mr Jones, ond mae angen i'r busnes addasu nawr yn wyneb yr argyfwng costau byw, yn enwedig o ystyried lleoliad y cae ras.

"Mae'n rhaid i ni beidio anghofio lle y'n ni yng Nghymru," meddai.

"S'dim cymaint o arian i gael gyda phobl i wario fel oedd e blynyddoedd yn 么l falle. Ma'n rhaid i ni ymateb i hwnna.

"Mae'n rhaid i ni roi gwerth am arian i bobl."

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n rhaid i ni roi gwerth am arian i bobl," meddai Dai Jones

Er hynny, mae'r 'ods' am gyfnod prysur yn edrych yn dda, wrth i'r cwmni symud tuag at gynnig mwy o ddigwyddiadau ar gyfer teuluoedd.

"Mae'n rhaid edrych 'mlaen. Beth sydd wedi digwydd yn y mis neu ddau ddiwethaf yma, mae pobl nawr yn bwcio 'mlaen [i ddigwyddiadau] sydd i ddod.

"Mae Sul y Pasg nawr i'r teuluoedd. Mae tipyn o bethau wedi cael eu bwcio yma yn barod. Digon i'r plant chwarae. Fi'n credu ma'r pre-bookings yn dda iawn, iawn.

"Fi'n credu mae dyfodol da yma yn Ffos Las. Mae mwy a mwy o geffylau yn dod yma, a mwy a mwy o geffylau da yn dod yma. Mae'n un o'r cyrsiau gorau ym Mhrydain.

"Mae hynny'n bwysig - mae pobl mo'yn dod yma. Fi'n credu bod y dyfodol yn edrych yn dda."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, 2021 oedd "un o'r blynyddoedd gorau" erioed i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Bu llynedd yn "un o'r blynyddoedd gorau" erioed i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir G芒r, wrth i bobl edrych am weithgareddau yn yr awyr agored yn ystod y pandemig.

"Ry'n ni yn teimlo'n hyderus, yn enwedig ar 么l llynedd lle welon ni nifer fawr o ymwelwyr yn dod. Un o'r blynyddoedd gorau i ni a gweud y gwir," meddai Steffan John o'r sefydliad ger Llanarthne.

"Felly edrych ymlaen at eleni. Ry'n ni'n hyderus bod pobl eto am ddod yma, am aros yn lleol.

"Falle bod nifer o bobl ddim eto yn hyderus am fynd bant ar wyliau, felly aros yn lleol a gweld yr atyniadau sy'n agos atyn nhw."

Disgrifiad o'r llun, "Ry'n ni'n hyderus bod pobl eto am ddod yma, am aros yn lleol," meddai Steffan John

Wrth i'r rhagolygon ar gyfer y Pasg a'r haf edrych yn "addawol", yn 么l Croeso Cymru, mae angen i'r sector nawr "adeiladu ac adfywio".

"Mae 'na heriau eraill megis chwyddiant, mae 'na heriau o ran costau byw a chostau tanwydd," meddai Steffan Roberts, dirprwy gyfarwyddwr Croeso Cymru.

"Mae hynny yn bwrw pocedi pobl, mae'n bwrw pocedi teuluoedd hefyd a'u gallu nhw i wario.

"Mi oedd 'na heriau cyn Covid o ran sgiliau a recriwtio yn y sector... ac mae hynny yn flaenoriaeth i ni fel Croeso Cymru ac fel llywodraeth.

"Ry'n ni am ymateb i'r her hynny yn benodol ac un ffordd ry'n ni wedi gwneud hynny yw creu a chefnogi ymgyrch drwy wefan Cymru'n Gweithio y llynedd. Mae'r gwaith hynny'n parhau.

"Ry'n ni'n hyrwyddo'r cyfleoedd sydd yn y sector o ran swyddi, y cyfleoedd i gael gyrfa i bobl o bob oed a dangos pa mor hyblyg ac amrywiol yw'r sector."

'Cyffrous iawn' am y dyfodol

Ychwanegodd Mr Roberts fod yr asiantaeth yn "gyffrous iawn" o ran y dyfodol y tu hwnt i Covid.

"Mae'n edrych yn addawol iawn o ran y diddordeb sydd gan bobl i ymweld yng Nghymru a dod i Gymru," meddai.

"Mae'r hyder yn uchel ac yn gwella tu hwnt i Gymru ac mae'n gyfle i Gymru ddangos pa atyniadau ac arlwy safonol sydd gyda ni yma ar gyfer ymwelwyr."