大象传媒

Mark Drakeford yn gwadu anwybyddu'r data ar Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford nad yw dileu'r gorfodaeth cyfreithiol yn golygu na fydd busnesau'n gwneud asesiadau risg ar gyfer Covid

Mae Mark Drakeford wedi gwadu ei fod yn anwybyddu'r data ar ymlediad coronafeirws yng Nghymru drwy ddileu'r gorfodaeth cyfreithiol ar gwmn茂au i gymryd camau penodol rhag y feirws o ddydd Llun.

Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru, dywedodd y prif weinidog fod ei lywodraeth wedi datgan ei bwriad i ddileu'r ddeddf dair wythnos yn 么l er mwyn rhoi amser i fusnesau i "ddiweddaru eu hasesiadau coronafeirws".

Ychwanegodd fod Covid "yn gyffredinol" wedi "sefydlogi yng Nghymru dros y tair wythnos diwethaf er bod y niferoedd yn uchel iawn".

Dywedodd hefyd fod "arwyddion cychwynnol efallai fod y don BA.2 o Omicron yn pasio'r brig a bod niferoedd yn dechrau dod i lawr".

"Mae'n bwysig iawn i fod yn eglur yn yr hyn yr ydym yn gwneud mewn perthynas 芒'r gweithlu yw dileu'r gofyniad cyfreithiol i gael asesiad risg penodol i coronafeirws," meddai.

"Mae busnes ar draws Cymru wedi ein sicrhau y byddan nhw'n parhau i wneud yr asesiadau risg yna, oherwydd maen nhw'n ceisio gwneud popeth y gallan nhw i gadw gweithwyr yn ddiogel ac i gadw defnyddwyr eu gwasanaethau yn ddiogel.

"Felly dyw'r ffaith nad yw e bellach yn ofyniad cyfreithiol ddim yn golygu na fydd pobl yn parhau i wneud y peth iawn."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd masgiau'n dal yn orfodol mewn sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol

Dywedodd Mr Drakeford y "byddwn ni'n cyrraedd pwynt" gyda Covid lle byddwn ni'n "gwneud hyn yn rhan o'r ffordd y byddwn ni'n delio gyda'r feirws o ddydd i ddydd yn hytrach na dibynnu ar y ffaith fod gennym ofyniad cyfreithiol i ddelio gydag e".

"Dyna pam yr ydym wedi codi rhai o'r gofynion cyfreithiol o safbwynt gwisgo masgiau er enghraifft... dyw hynny ddim yn golygu na fydd pobl yn parhau i wisgo masgiau.

"Mae'n dal yn gyfraith bod rhaid gwisgo masgiau mewn sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol, a dywedodd y prif weinidog bod "dadl yn sicr dros eu cadw mewn lle y tu hwnt i'r tair wythnos nesaf.

'Synnwyr cyffredin'

"Fe fyddwn ni'n adolygu hynny ymhen tair wythnos, ond o ystyried fod gan ysbytai nifer o bobl sy'n s芒l yn barod ac felly mewn mwy o risg o gael y feirws, a bod ein cartrefi gofal yn llawn pobl sydd 芒 chyflyrau iechyd eraill sy'n eu rhoi dan fwy o risg, rwy'n credu y bydd pobl yn credu mai synnwyr cyffredin yw cadw masgiau yn y sefyllfaoedd yna cyhyd ag y bydd y feirws yn ffactor yn ein bywydau bob dydd."

Dywedodd Mr Drakeford hefyd bod Llywodraeth Cymru yn paratoi am ymgyrch frechu arall yn yr hydref.

"Dydyn ni heb gael y cyngor terfynol gan y JCVI [Cyd-Bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio] ar hynny, ond rydym yn rhagweld y byddan nhw'n argymell pigiad ychwanegol i ganran uchel o'r boblogaeth cyn tymhorau'r hydref a gaeaf nesa'.

"Felly ry'n ni'n gosod cynlluniau mewn lle gyda'n byrddau iechyd a gweithwyr iechyd fel y gallwn ddechrau ymgyrch frechu effeithiol a chyflym os mai dyna'r cyngor a gawn ni."