'Baw dynol' ar hyd llwybr Yr Wyddfa, medd tywysydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn ei ddal gan gr诺p o gerddwyr yn 'mynd i'r toiled' ar lethrau'r Wyddfa ddydd Sadwrn.
Gyda thymheredd Cymru yn uwch nag yng Ngwlad Groeg, Twrci a de'r Eidal, fe heidiodd ymwelwyr i'r traethau a'r parciau cenedlaethol.
Ond dywedodd tywysydd yr Wyddfa, Gemma Davies, fod llwybr Llanberis "wedi'i orchuddio 芒 baw dynol".
Roedd hi hefyd wedi "ffieiddio'n llwyr" gan sbwriel a gafodd ei adael ar y mynydd, meddai.
Roedd y broblem mor ddrwg fel ei bod yn gorfod rhybuddio ymwelwyr: "Osgowch y baw dynol."
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nad oes dim byd anarferol wedi cael ei adrodd iddyn nhw.
"Roedd 'na dipyn o faw dynol mewn cwpanau papur, o dan gerrig, ac wrth i ni fynd lawr roedd o ar y llwybr," meddai Ms Davies, a arweiniodd daith i fyny mynydd uchaf Cymru i weld codiad yr haul fore Sadwrn.
"Roedd cymaint ar lwybr Llanberis roedd yn ffiaidd."
Wrth iddi hi a chriw o ymwelwyr fynd lawr, fe gawson nhw eu syfrdanu o weld dyn yn "mynd i'r toiled ar y rheilffordd".
"Tynnodd ei bants yn gyflym a cheisio mynd i ffwrdd yn gyflym," ychwanegodd.
"Ond roeddwn i wedi ei weld yn barod, roedd fy ngr诺p i wedi ei weld yn barod. Ac roedd yn rhaid i ni gerdded heibio iddo hefyd."
Diffyg toiledau
Nid oedd yn "sefyllfa braf", meddai, gan ychwanegu ei bod yn ddig am y diffyg toiledau yn y cyffiniau.
"Doedd dim toiledau ar agor yn y gwaelod pan gyrhaeddon ni ar 么l hike saith awr," meddai.
"Dylai fod yn rhywle. Dyma'r mynydd prysuraf yn y DU."
Galwodd ar yr awdurdodau i ddarparu cyfleusterau.
"Roedd yn brysur iawn yn Llanberis ond doedd dim toiledau i bobl fynd iddyn nhw," meddai.
"Does dim un ar ben y mynydd oherwydd dydy'r caffi ddim ar agor.
"Dwi'n deall bod pobl eisiau mynd i'r toiled ond dydy gwneud hynny ar y llwybrau ddim yn neis i weld."
Roedd baw ci hefyd yn broblem.
"Mae angen i [bobl] fynd 芒'u bagiau baw i lawr efo nhw," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2017