Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Nath o ddim croesi fy meddwl fod rhywbeth mor fawr o'i le'
Mae Nicky John yn wyneb adnabyddus ar y teledu ers blynyddoedd, yn gyflwynydd ar y rhaglen bêl-droed boblogaidd Sgorio ar S4C. Ond yn ddiweddar mae Nicky a'i gŵr, Gwion, wedi bod drwy gyfnod anodd ar ôl i'w merch Emi gael diagnosis o gancr Wilms ac yn derbyn gofal arbenigol.
Yma mae Nicky'n rhannu'r hanes o sut wnaeth ei merch blwydd oed gael diagnosis o gancr, a sut mae'r teulu'n ymdrin â'r sefyllfa.
Mae'n un o'r sefyllfaoedd 'na sy'n siŵr o fod ymhlith rhestr hunllefau unrhyw riant. Yn fy achos i, un o'r pethau sydd wedi chwarae ar fy meddwl fwyaf yn ystod y mis diwethaf yw 'sut na sylwais i fod rhywbeth o'i le ar fy mhlentyn?' Ond wir i chi, doedd gen i ddim syniad.
Wythnos cyn y Nadolig bu'n rhaid inni dreulio ychydig ddyddiau yn Ysbyty Gwynedd gydag Emi, sydd ychydig dros flwydd oed bellach, gan roedd ganddi infection »åŵ°ù.
Yn dilyn hynny, gan ei bod hi mor ifanc ar y pryd, trefnwyd sgan iddi yng nghanol mis Mawrth eleni - does bosib bod y meddygon yn amau bod unrhywbeth o'i le ar y pryd gan fod 3 mis wedi mynd heibio rhwng y naill beth â'r llall.
Cychwynnodd diwrnod y sgan ei hun fel unrhyw ddiwrnod arall, ac yn aml iawn dw i'n ffeindio'n hun yn meddwl yn ôl am hynny a pha mor ddi-glem oeddwn i, heb syniad yn y byd o'r hyn oedd o'n blaenau. Sgwrsio efo'r ddwy oedd yn gwneud y sgan am wreiddiau enw Emi Elea (doeddan nhw heb glywed enw fel ei un hi o'r blaen!) a phoeni am gyrraedd y car heb wlychu ar y ffordd allan gan fod hi'n tresio bwrw glaw… doeddwn i ddim eisiau iddi dal annwyd!
O fewn awr neu ddwy o adael yr ysbyty, cefais alwad gan ein GP i ddweud bod angen inni fynd yn ôl yn syth i ward Dewi. Roeddwn i wedi mynd ag Emi i Pili Palas i chwarae ac am ginio yn lle mynd yn syth adre, ac roedd o'n job clywed y doctor yn iawn, ond am fod Emi i'w gweld mor hapus ynddi'i hun nath o ddim croesi fy meddwl am eiliad fod rhywbeth mor fawr o'i le.
Diolch i'r nefoedd fe ddaeth Gwion, fy ngŵr, i gyfarfod ni yno, ac o fewn dim roedd y doctor wedi dod i'n gweld ni. Gofynnodd inni eistedd. Dw i ddim yn cofio llawer o'r hyn ddigwyddodd nesaf, ond dw i yn cofio nad oedd hi'n gallu edrych arnai wrth roi'r newyddion. Roeddwn i'n teimlo drosti'n ofnadwy. Am uffarn o job, i orfod rhoi ffasiwn newyddion i rieni plentyn!
Teithio i Ysbyty Alder Hey
Y noson honno cawsom ein hanfon yn syth i Alder Hey, gyda chant a mil o gwestiynau yn nofio o gwmpas ein pennau ar hyd y siwrne.
Bu cyfres o sganiau dros y dyddiau nesaf, ond pnawn dydd Gwener cawsom fynd yn ôl adref i ddisgwyl tan dydd Llun am y canlyniadau; at ein mab Sam Elwyn sy'n chwe blwydd oed. Roedd hynny'n gymaint o fendith.
Mae gan fechgyn bach chwech oed ffordd arbennig iawn o gadw eich meddwl chi'n brysur, a thrwy'r broses yma i gyd dwi mor ddiolchgar iddo a falch ohono am y ffordd mae o 'di delio efo bob dim. Mae gan Sam feddwl y byd o'i chwaer fach, ac i Emi, Sam ydi ei ffrind gorau yn y byd.
Felly, daeth dydd Llun y canlyniadau. Diwrnod hir, di-ddiwedd o aros am yr alwad ffôn gan Alder Hey. Er mai fy rhif ffôn i oedd ganddynt, doeddwn i ddim yn gallu wynebu cymryd yr alwad fy hun, felly nes i ofyn i Gwion gymryd fy ffôn, ac fe aeth y diwrnod heibio mewn blur o ddagrau, gwylio'r cloc, stumog yn troi, taflu fyny, methu aros yn llonydd.
Diagnosis Cancr Wilms
O'r diwedd fe ganodd y ffôn ac fe cawsom gadarnhad o gyflwr Emi fach. Mae ganddi math o gancr o'r enw Wilms, yn y naill aren a'r llall.
Roedd clywed y cadarnhad yna gan Gwion yn haws i glywed na gan rywun dieithr rywsut. Drwy'r cyfan, mae o wedi bod mor gryf yn delio efo'r ochr yna o bob dim, ei ben yn ymarferol ac yn meddwl am y broses sydd o'n blaenau; lle i mi, mae 'na dal elfennau dw i'n stryglo i brosesu, i glywed, ac i ddweud allan yn uchel.
Mae Emi bellach hanner ffordd drwy ei chwe wythnos cyntaf o chemotherapy, ac mae'r daith wythnosol i Alder Hey wedi dod yn rhan o'n rwtîn newydd ni erbyn hyn.
Y bwriad ydi rhoi llawdriniaeth ar ôl y bloc cyntaf o chemo, ond 'dan ni'n gwybod hefyd bod 'na bosibilrwydd o addasu'r amserlen i roi rhagor o chemo o flaen llaw os ydi'r doctoriaid yn teimlo y bydd hynny'n fuddiol, ac yn sicr y bydd rhagor o driniaeth i ddilyn wedi'r op.
Emi yn ysbrydoliaeth
Trwy hyn i gyd, mae Emi ei hun wedi bod yn ysbrydoliaeth llwyr. Ar hyn o bryd, mae hi'n fabi bach hapus a digon bodlon ei byd ar y cyfan, a dw i'n ceisio atgoffa fy hun yn ddyddiol mai dyma'r peth pwysig imi ganolbwyntio arno. Edrych arni hi, a chymryd fy ysbrydoliaeth o fanno. Ceisio osgoi meddwl rhy bell o flaen llaw.
Wrth gwrs, mae 'na gyfnodau lle mae hynny'n anodd, ond buan iawn da chi'n ffeindio'ch hun mewn lle eitha' tywyll os 'dach i'n gadael i'r meddwl grwydro'n ormodol. Y cwestiynau a'r holl edrych am atebion. Sut ddigwyddodd hyn? Oes 'na rhywbeth ddylwn i fod wedi gwneud yn wahanol fysa wedi osgoi'r sefyllfa yma?
Mae 'na gapel bach yn Alder Hey, a dyna lle fyddai'n ffeindio'n hun am gyfnod bach bob wythnos. Weithiau ar ben fy hun, weithiau gydag eraill, o wahanol gefndir a chrefydd ond pob un ohonom yn gofyn wrth Duw am yr un peth. I wella'n plant.
'Cefnogaeth anhygoel'
Dwi ddim yn siŵr os fyswn i wedi dod drwy'r mis diwethaf heb y gefnogaeth hollol anhygoel rydan ni wedi ei dderbyn - mae'r caredigrwydd sydd wedi cael ei ddangos tuag atom wirioneddol yn golygu gymaint.
Does 'na 'run diwrnod wedi mynd heibio lle dw i heb ddeffro i neges ar fy ffôn gan rywun, yn checkio fewn, yn cynnig helpu, yn barod i fod yn glust i wrando.
Mae 'na dîm anhygoel o bobl o'n cwmpas ni, o'r nyrsys a'r doctoriaid, i weithwyr cefnogol o'r elusen CLIC Sargent/Young Lives vs Cancer, ac yna, ein teulu a ffrindiau arbennig.
Rhaid imi ddweud hefyd bod fy nghyflogwyr, Rondo a chriw Sgorio, a theulu pêl-droed Cymru yn gyffredinol wedi bod yn gefn anhygoel imi, a wna i fyth anghofio hynny.
Oes, mae ganddon ni ddipyn o siwrne o'n blaenau eto. Ma'n reid rollercoster does 'na neb eisiau bod yn rhan ohono, ond dyma lle ydan ni.
Yr unig beth sy'n saff ydi, drwyddo i gyd, os fedra i ddangos canran o'r dewrder mae'r hogan fach 'ma wedi dangos i ni dros yr wythnosau diwethaf, mi fydda i wedi gwneud yn ok hefyd.
Hefyd o ddiddordeb: