大象传媒

'Newyddion digidol sy'n llai sefydliadol'

  • Cyhoeddwyd
logo CGFfynhonnell y llun, Corgi Cymru

Mae gwasanaeth newyddion digidol cyfrwng Cymraeg newydd ar gael o fore Llun ymlaen a'r nod yw "denu cynulleidfa newydd".

Mae gwasanaeth Corgi Cymru yn un o ddau wasanaeth sydd wedi derbyn cyllid blynyddol o 拢100,000 gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Cwmni Newsquest sydd yn gyfrifol am y gwasanaeth ac wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru Fyw dywedodd Huw Marshall y bydd "yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd o siaradwyr Cymraeg".

Ychwanegodd Mr Marshall, sy'n gyfrifol am redeg Corgi Cymru, y bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar straeon newyddion o Gymru a gwleidyddiaeth ond fe fydd yna sylw hefyd i faterion rhyngwladol, diwylliant, yr amgylchedd a phynciau eraill.

"Dyw hi ddim yn nod cystadlu gyda gwasanaethau eraill fel y cyfryw ond bod yn llai sefydliadol efallai na gwasanaethau S4C a'r 大象传媒," dywedodd.

"Y nod yw cyflwyno newyddion di-duedd, dealladwy a gonest ar bob math o blatfformau digidol gan ddefnyddio arddulliau sy'n berthnasol i'r gynulleidfa.

"Fe fydd yna wefan ac fe fyddwn yn rhannu ein straeon mewn amrywiol ffurfiau ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter, Instagram, TikTok, YouTube ac yn y blaen.

"Fe fydd yna fwletin fideo, er enghraifft a chyn hir fe fydd yna ap ac fe fydd yna bodlediadau."

Gwasanaeth golwg360 yw'r gwasanaeth arall fydd yn derbyn cyllid blynyddol o 拢100,000 gan y Cyngor Llyfrau ac mae rhai wedi beirniadu'r penderfyniad i haneru cyllid Golwg gan ofyn hefyd a fydd gan Corgi Cymru ddigon o staff i gwrdd 芒'r gofyn.

'Digon o staff?'

Yn rhifyn Ebrill o'r cylchgrawn Barn gofynnodd Alun Ffred Jones "sut fydd y drefn newydd yn gwella ar yr hen un".

"Mae rheoli gwasanaeth o'r fath yn gofyn am newyddiadurwyr sy'n gweithio bob dydd o godiad haul, neu yn gynt, hyd ei fachlud bob dydd o'r flwyddyn," meddai.

Ychwanegodd y "gall 拢100,000 dalu cyflog tri o bobl", gan ychwanegu bod angen ystyried gwyliau ac amser gwaith ychwanegol.

Dywed hefyd bod angen gofyn cwestiynau "sut y bydd rhannu'r gacen yn gwella'r arlwy gan nad yw dwy fersiwn frysiog o'r un stori ddim yn gwella'r stori nac yn ei gwneud yn fwy diddorol".

Wrth ymateb i'r sylw dywedodd Huw Marshall bod y cwmni, sydd 芒'i bencadlys yng Nghasnewydd ac sydd 芒 swyddfeydd yn y gogledd a'r gorllewin, eisoes yn cyflogi dros 170 o staff yng Nghymru.

"Mae gennym ni 15 o deitlau lleol - papurau fel South Wales Argus, North Wales Chronicle, y Tivyside Advertiser a'r National sy'n deitl cenedlaethol ac fe fydd y National a Corgi Cymru yn gallu bwydo ei gilydd."

Bydd Corgi yn cyflogi golygydd, Siriol Griffiths, a phedwar newyddiadurwr arall a fydd yn gweithio'n benodol i'r gwasanaeth.

Cafodd yr enw Corgi Cymru ei ddewis am ei fod yn "gi traddodiadol Cymreig". Ychwanegodd Mr Marshall: "Mae c诺n yn inquisitive a dyw'r corgi ddim yn ofni dim byd."