Sioeau bach yn 'hanfodol' i'r diwydiant amaeth

Disgrifiad o'r llun, Mae'r paratoadau ar droed ar gyfer y Sioe Nefyn cyntaf ers y pandemig
  • Awdur, Llyr Edwards
  • Swydd, Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru

Mae'n hollbwysig bod y sioeau amaethyddol bach yn dechrau unwaith eto fel siop ffenest i'r diwydiant amaeth.

Dyna ddywed Undeb Amaethwyr Cymru wrth i'r paratoadau munud olaf gael eu gwneud ar gyfer Sioe Nefyn ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Oherwydd Covid nid yw Sioe Nefyn wedi cael ei chynnal ers 2019, ond rŵan maen nhw'n barod i fynd unwaith eto.

Dywedodd trefnydd y sioe wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw ei bod yn "deimlad braf ofnadwy" gweld y sioe'n cael ei chynnal eto.

"Mae dod yma heddiw a gweld pob dim yn ei le yn codi calon rhywun a dweud y gwir," meddai Eirian Lloyd Hughes.

"Mae'r ddwy flynedd ddiwetha' wedi bod yn anodd iawn i bawb... dwi'n gobeithio bydd hwn yn gychwyn rŵan… cychwyn y peth yn ôl eto."

Disgrifiad o'r llun, Roedd y pwyllgor yn frwdfrydig iawn ynglyn ag ailddechrau, meddai trefnydd y sioe, Eirian Lloyd Hughes

Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn reit anodd [ail ddechrau trefnu] achos mae'r criw wedi mynd yn llai o oherwydd gwahanol resymau, ond [roedd] y brwdfrydedd yn gryf yn y pwyllgor a 'da ni wedi mynd amdani."

Roedd y sioe yn werthfawr iawn, am sawl rheswm, meddai.

"Mae hon yn sioe gyntaf, sioe wanwyn; mae'r gaeaf drosodd, mae'r wyna drosodd wedyn mae'n gyfle i bawb ddod at ei gilydd ar ôl y ddwy flynedd anodd 'da ni wedi'i gael - mae'n werthfawr ofnadwy 'sen i'n meddwl."

'Ffenest siop' amaeth

Mae Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, yn gweld gwerth mawr i sioeau fel Sioe Nefyn o ran yr ochr gymdeithasol.

"Yn bendant, mae'n bwysig bod nhw'n ail gychwyn, am y rheswm mae'r cyfnod clo wedi cael effaith ar y diwydiant amaeth a'r gymuned cefn gwlad hefyd a dwi rŵan yn edrych ymlaen am eleni er mwyn dod yn ôl i ryw fath o normalrwydd os liciwch chi.

Disgrifiad o'r llun, Mae Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, yn gweld gwerth mawr i'r sioe

"Mewn ffordd 'dan ni'n dechre yn Nefyn ddydd Llun efo'r sioeau 'ma, a mae hynny yn gyfle rŵan i ni gymdeithasu fel diwydiant a phobl cefn gwlad, a hefyd trin a thrafod stoc.

"Mae'n bwysig bod ni'n medru gweld sut fath o stoc sydd gan yr arddangoswyr a gweld safon y stoc sydd gan gwahanol bobl.

"Dwi'n meddwl hefyd bod hi'n bwysig bod ni'n rhoi croeso i'r cyhoedd y tu allan i amaethyddiaeth, i ddod i weld ffenest siop y diwydiant amaeth yn ein sioeau."