大象传媒

Ramadan: Costau byw yn atal rhai rhag cymryd rhan

  • Cyhoeddwyd
Raneem Ibrahim
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y fyfyrwraig Raneem Ibrahim bod angen iddi brynu bwyd sy'n fwy rhad

Mae'r cynnydd diweddar i gostau bwyd a thanwydd yn golygu fod rhai Mwslemiaid wedi methu a chadw at reolau Ramadan eleni.

Mae tua 55,000 o Fwslemiaid yng Nghymru wedi bod yn cymryd rhan yn Ramadan, sydd yn golygu peidio bwyta nac yfed yn ystod golau dydd a gwedd茂o mwy na'r arfer.

Ond dywed un gyrrwr tacsi fod prisiau tanwydd drytach a biliau uwch yn golygu ei fod wedi methu gwedd茂o gymaint ag y dylai am iddo orfod gweithio oriau ychwanegol.

Mae Nesaor Ali, 48, yn gweithio saith diwrnod yr wythnos er mwyn dal dau ben llinyn ynghyd.

"Dyw Ramadan erioed wedi bod fel hyn i mi o'r blaen," meddai.

"Yn ystod Ramadan, y teulu a'r gwedd茂o dylai fod yn cael fy sylw pennaf, ond eleni dyw hynny ddim wedi bod yn bosib."

'Mwy heriol nag erioed'

Cyn i brisiau bwyd a thanwydd gynyddu, roedd yn gweithio oriau llawn fel gyrrwr tacsi Uber, a'r cydbwysedd rhwng gwaith a gorffwys yn golygu fod digon o amser i ddilyn Ramadan fel y mynnai.

"Dwi'n cofio caledi 2008 a'r crash rhyngwladol, ond nawr mae popeth wedi mynd yn ddrud.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Sheikh Imam Ahmed Ali (chwith) ei fod wedi gweld newid i Ramadan eleni

"Yn anffodus, mae'n rhaid i mi golli fy ngwedd茂au nosweithiol Ramadan gan fy mod i'n gweithio oriau mor hir.

"Mae biliau'r t欧 mor uchel, a disel yn 拢1.80 y litr - cyn y cyfnod clo ro'n i'n talu 拢1.10. Mae'r oriau ychwanegol i gyd yn mynd tuag at dalu am y tanwydd.

"Mae'n dal yn bosib cynnal y teulu, ond mae Ramadan wedi cael ei effeithio... mae'r Ramadan yma yn fwy heriol nag erioed."

Yn 么l ei amcangyfrifon, mae Mr Ali yn disgwyl i'w fil nwy gynyddu o 拢560 y flwyddyn i 拢912, a'r bil trydan i godi o 拢713 i 拢1,011 y flwyddyn.

'Llai yn dod i'r mosg'

Mae arweinydd ei fosg, Sheikh Imam Ahmed Ali, wedi sylwi fod sawl teulu wedi gorfod newid eu harferion Ramadan eleni.

"Mae 'na lai o bobl yn dod i'r mosg am weddi gyda'r nos achos fod rhaid iddyn nhw weithio oriau ychwanegol i dalu eu biliau," meddai.

"Ac mae 'na fwy yn gofyn i'r banciau bwyd fod ar agor yn fwy aml gan fod eu harian sb芒r yn mynd tuag at dalu biliau."

Roedd Imam Ali yn 12 oed pan deithiodd o Yemen i Gymru i fyw. Mae'n dweud ei fod wedi cael ei synnu gyda'r tlodi mae'n ei weld yng Nghaerdydd.

"Pan o'n i'n blentyn yn Yemen," meddai, "ro'n i'n credu na fyddwn i byth yn gweld tlodi ym Mhrydain. Ond ar 么l cyrraedd des i ar draws pobl dlawd iawn. Mae'n wlad sydd wedi datblygu ac sy'n orllewinol iawn yn ei harferion, ond mae 'na dlodi."

'Popeth yn ddrytach'

Mae'r esgid yn gwasgu ar fyfyrwyr hefyd, sy'n gweld canran uwch o'u hincwm prin yn cael ei wario ar fwyd a biliau ynni.

Mae Raneem Ibrahim yn fyfyrwraig ym mhrifysgol Caerdydd sydd hefyd yn dilyn Ramadan eleni, ac yn gweld newid mawr yn ei chostau byw.

Mae'n dweud nad yw'n bosib bellach i arbed arian yn ystod y mis sanctaidd drwy beidio bwyta yn ystod y dydd.

"Mae popeth dwi'n ei brynu 'di mynd yn ddrytach, llaeth, cyw i芒r ac yn y blaen. Ychydig fisoedd yn 么l roedd pum darn o gyw i芒r o'r bwtsier Halal yn costi 拢7, nawr mae bron yn 拢9.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ahmed Tahar (right) yn poeni na fydd y banc bwyd mae'n ei reoli yn goroesi

"Maen nhw'n dweud wrtha i fod cadw bwyd mewn rhewgell wedi mynd yn ddrud a bod yn rhaid i brisiau bwyd godi.

"Dwi bendant yn fwy gwyliadwrus o'r hyn dwi'n gwario. Beans fydd hi yn amlach o hyn ymlaen."

Ac mae cynnydd i gost bwyd yn cael effaith ar fanciau bwyd sy'n cael eu cynnal gan Fwslemiaid.

Mae Ahmed Tahar yn rheolwr arlwyo ym mosg a banc bwyd Al-Ikhlas yn ardal Adamsdown, Caerdydd, ac yn gweld cynnydd mawr yn y galw am barseli bwyd.

"Ry'n i'n bwydo llawer o Fwslemiaid yng Nghymru, ond hefyd tua 50 o bobl gwyn sy' ddim yn Fwslemiaid bob wythnos sy'n ei chael hi'n anodd talu am ddigon o fwyd.

"Mae parsel bwyd yn costi tua 拢25 yr wythnos ac ry'n ni'n dibynnu ar roddion." Ond mae'n poeni am ba hyd y gallan nhw wneud hynny.

"Allwn ni ateb y galw am y parseli bwyd? Os na fydd y rhoddion yn cynyddu, neu hyd yn oed yn cael eu cynnal, mi fyddwn ni mewn trafferth."

'Heriol i dalu'r biliau'

Mae'r sefyllfa yn achosi pryder i arweinydd Cyngor Mwslemiaid Cymru, sy'n credu fod teuluoedd Mwslemaidd yn aml iawn yn dioddef mwy.

"Mae Mwslemiaid yng Nghymru yn dlotach i gychwyn arni," meddai Dr Abdil-Azim Ahmed, ysgrifennydd cyffredinol Cyngor Mwslemaidd Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae teuluoedd Mwslemaidd yn teimlo effaith y cynnydd i gostau byw yn fwy, medd Dr Abdil-Azim Ahmed

"Maen nhw ar y pen isaf o'r ysgol economaidd, ac ry'n ni'n gwybod fod Mwslemiaid yn ei chael hi'n anoddach na phob un o'r lleiafrifoedd ethnig pan mae'n dod i chwilio am swydd.

"Felly, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw yn fwy na llawer iawn o bobl mewn cymdeithas. Oherwydd yr argyfwng mae hi wedi bod yn heriol iawn i rai Mwslemiaid dalu'r biliau."

Mae'n ddiwrnod olaf Ramadan ddydd Sul, a ddydd Llun mi fydd dathliadau Eid al-fitr yn gyfle i deuluoedd a ffrindiau dorri'r ympryd gyda'i gilydd. Ond mi fydd heriau'r argyfwng costau byw yn parhau.

Pynciau cysylltiedig