Galw am gyflwyno Makaton i ysgolion a meithrinfeydd

Disgrifiad o'r fideo, Makaton: Techneg newydd i ddysgu'r Gymraeg
  • Awdur, Iolo Cheung
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae galw wedi bod i gyflwyno system iaith Makaton mewn meithrinfeydd ac ysgolion ar draws Cymru - gydag un ysgol yn dweud ei fod wedi helpu gwella sgiliau Cymraeg eu disgyblion.

Cafodd y dull yma o gyfathrebu ei greu yn yr 1970au ac 80au ac mae'n defnyddio llais, ystumiau dwylo a symbolau, sydd ychydig yn wahanol i ieithoedd arwyddo eraill fel BSL.

Yn Ysgol Llanfawr yng Nghaergybi mae'r plant yn cael gwersi a gweithgareddau wythnosol drwy Makaton.

Dywedodd y pennaeth Gwyn Williams fod y dull wedi talu ar ei ganfed yn barod, gan helpu'r rheiny gyda nam llafaredd yn ogystal 芒 gwella Cymraeg llawer o'r plant.

"Pan mae'r plant yn cyrraedd ni'n dair oed maen nhw'n dod o gartrefi Saesneg, wedyn 'dan ni'n dysgu Cymraeg yn syth bin iddyn nhw," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Gwyn Williams: 'Gwneud dysgu Cymraeg yn llawer mwy pleserus a hwyliog'

"Un techneg 'dan ni 'di gweld sydd yn hyrwyddo'r Gymraeg yn dda iawn yma ydi'r defnydd o Makaton."

Mae'r techneg sy'n cael ei ddefnyddio yn golygu dysgu prif eiriau brawddeg mewn Makaton, a chyfuno hynny efo'r Gymraeg.

"Maen nhw'n gallu dod 芒'r rheiny at ei gilydd ac yn gwneud dysgu Cymraeg yn llawer mwy pleserus a hwyliog," meddai.

"Mae plant yn gallu cyfathrebu efo'i gilydd ar yr iard, o gwmpas yr ysgol, ac efo oedolion."

Ysgolion yn awyddus i efelychu

Mae'r plant yn cael gwersi a gweithgareddau Makaton yn wythnosol, gyda thiwtor allanol yn ogystal 芒 rhai o athrawon yr ysgol sydd bellach yn dysgu'r iaith.

"Rydw i'n hoffi Makaton. Mae o'n helpu fi i ddysgu Cymraeg," meddai Kayla, sydd ym Mlwyddyn 2.

Disgrifiad o'r llun, Emily, Beatrix, Olive a Kayla o Ysgol Llanfawr, Caergybi

"Dwi'n siarad o ar yr iard efo ffrindiau."

Ychwanegodd Emily, disgybl arall ym Mlwyddyn 2: "Mae siarad Makaton yn really gwneud fi'n hapus."

Mae Makaton wedi dod yn fwy cyfarwydd i lawer o blant yn ddiweddar, drwy gymeriadau fel 'Mr Tumble' ar CBeebies a rhaglenni fel Dwylo'r Enfys ar S4C.

Dechreuodd Helen Williams fel tiwtor Makaton dair blynedd yn 么l, ac yn dweud bod llawer o ysgolion yn awyddus i efelychu beth mae Ysgol Llanfawr wedi'i wneud gyda'r disgyblion.

"Dwi 'di bod mor lwcus cael mynd i gylchoedd Ynys M么n, gweld staff a phlant sydd llawn brwydfrydedd, mae'n amazing," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Helen Williams, mae ysgolion yn awyddus i efelychu beth mae Ysgol Llanfawr wedi'i wneud

"Dydy Makaton ddim just i un oedran, neu'r person yma, mae o i bawb.

"Felly fysa fo'n dda tasa Makaton yn gallu sefydlu ei hun i bob ysgol ar yr ynys, a bod o'n rhan o'r cwricwlwm erbyn y diwedd - 'sa hynna'n wych."

'Budd ehangach'

Mae Cati yn ddwy oed ac yn byw yng Nghaernarfon. Pan sylweddolodd ei mam, Alaw ar oedi yn ei datblygiad, fe ddechreuodd ddefnyddio Makaton gyda hi.

Roedd hi wedi dysgu rhywfaint yn y gorffennol pan oedd hi'n gweithio mewn meithrinfa, ac ar 么l ailgydio yn y peth mae'n deud fod hynny wedi helpu ei chyfathrebu gyda Cati yn fawr.

"Dwyt ti ddim o reidrwydd yn gorfod defnyddio Makaton i bob gair mewn brawddeg," meddai.

"Ond bod chdi'n rhoi'r rhai pwysicaf i mewn, neu'r rhai ti'n gwybod, iddyn nhw sylweddoli fod o'n rhywbeth maen nhw'n gallu pigo fyny'n haws."

Disgrifiad o'r llun, Alaw Jones: 'Pwysig i bob plentyn a staff fod yn gallu defnyddio rhywfaint o Makaton'

Mae'n teimlo y byddai dysgu Makaton o fudd ehangach na dim ond rhieni fel hi.

"Mae Cati'n mynd i'r feithrinfa dri diwrnod yr wythnos ac roedd y staff yn fanna yn s么n bod nhw 'di cael hi'n anodd ffeindio lle ar gyrsiau iddyn nhw 'neud Makaton.

"Mae hynna wedyn yn rhoi Cati dan anfantais achos dydy pawb ddim yn gallu cyfathrebu efo hi a deall be' mae hi'n trio'i ddeud wrthyn nhw.

"Dwi'n meddwl fod o'n bwysig i bob plentyn a staff fod yn gallu defnyddio rhywfaint o Makoton i roi'r cyfle gorau i'r plant hefyd - dydyn nhw ddim i fod mewn cornel yn ista'n ddistaw, maen nhw fod i fod yn rhan o'r sgwrs fel unrhyw berson arall.

"Mi fysa fo'n braf bod mwy yn cael ei gynnig i bobl allu cael y cyfle i ddysgu Makaton."

Cyflwyno i'r cwricwlwm

Dywedodd llefarydd ar ran Elusen Makaton fod dros 1,000 o diwtoriaid bellach i gael ym Mhrydain, ac y byddai cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r iaith yn gam tuag at "gymdeithas fwy cynhwysol".

"Dim ond drwy mwy o ymwybyddiaeth y bydd mwy o bobl a sefydliadau'n cymryd rhan mewn dysgu Makaton," meddai.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai nhw oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno Iaith Arwyddo Prydain i'r cwricwlwm, a bod ganddyn nhw gronfa sy'n cynnwys arian tuag at "hyfforddiant ieithyddol".

"Gall ysgolion a lleoliadau ddysgu a defnyddio Makaton i gefnogi eu dysgu," ychwanegodd.