Dyngarwr lleol yn cyfrannu 拢500,000 i brosiect Theatr Clwyd

Ffynhonnell y llun, Rept0n1x

Disgrifiad o'r llun, Agorodd y theatr yn 1976 ond bellach mae problemau wedi codi gyda'r adeilad

Mae Theatr Clwyd wedi cyhoeddi eu bod bellach wedi derbyn rhoddion o 拢3m fel rhan o'u cynlluniau i drawsnewid yr adeilad Rhestredig Gradd II gafodd ei adeiladu yn y 1970au.

Dywedodd llefarydd fod y rhoddion diweddaraf yn cynnwys 拢500,000 gan ddyngarwr lleol.

Mae'r theatr yn nhref Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint, wedi gosod nod o gasglu 拢5m o ffynonellau preifat fel rhan o'r cynlluniau adnewyddu uchelgeisiol gwerth 拢42m.

Yn ogystal 芒'r dyngarwr lleol, daeth 拢1.5m oddi wrth Sefydliad Moondance, 拢500,000 o Sefydliad Wolfson, 拢500,000 o Sefydliad Garfield Weston a 拢300,000 oddi wrth Sefydliad Esm茅e Fairburn.

Yn 么l y Theatr, y cyfanswm rhoddion o 拢3m hyd yma yw'r mwyaf o'u bath i unrhyw theatr yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Theatr Clwyd

Disgrifiad o'r llun, Sut mae disgwyl i Theatr Clwyd edrych ar ei newydd wedd yn dilyn y gwaith gwerth 拢42m

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Theatr Clwyd, Liam Evans-Ford: "Pan wnaethom gychwyn ar y siwrne yn 2017 roedd pobl yn dweud y byddai'n annhebygol y byddwn yn codi mwy na 拢2m o gyllid preifat ar gyfer theatr yng Nghymru.

"Diolch i gefnogaeth hael ein rhoddwyr rydym eisoes wedi cyrraedd 拢3m."

Llywodraeth Cymru sydyn cyllido mwyafrif y gost o 拢42m, gyda chyfraniadau hefyd wedi'i derbyn gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cwblhau'r gwaith ailddatblygu.

Y nod yw ailagor yn yr adeilad yn llawn yn ystod 2024.