Taflu achos ymgyrchydd iaith dros ddirwy Saesneg o'r llys

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Toni Schiavone gael dirwy barcio o 拢70

Mae'r achos yn erbyn ymgyrchydd iaith sydd yn gwrthod talu dirwy barcio am ei bod yn uniaith Saesneg wedi cael ei daflu o'r llys.

Fe wnaeth Toni Schiavone dderbyn dirwy o 拢70 am dorri rheolau parcio yn Llangrannog ar 16 Medi 2020.

Yn 么l Mr Schiavone roedd y ddirwy yn uniaith Saesneg ac fe wnaeth y cwmni wrthod cyflwyno copi Cymraeg ohoni.

Fe wnaeth cwmni One Parking Solutions fynd 芒 Mr Schiavone i'r llys am wrthod talu'r ddirwy, er mwyn adennill y gost.

Cafodd yr achos ei daflu o'r llys yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth ddydd Mercher am nad oedd cynrychiolydd o'r cwmni yn bresennol.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gefnogi Mr Schiavone

Roedd Mr Schiavone wedi gofyn i'r llys i sicrhau fod pob gohebiaeth yn Gymraeg, gan gynnwys copi o'r ddirwy.

Ddydd Mercher fe wnaeth Mr Schiavone, sef llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ymddangos yn y llys. Roedd aelodau o'r gymdeithas yno hefyd yn ei gefnogi.

Dywedodd y Barnwr Rhanbarth wrth y llys mai cyfrifoldeb One Parking Solutions oedd cyflwyno tystiolaeth fod Mr Schiavone wedi torri'r rheolau.

Taflodd yr achos o'r llys gan nad oedd cynrychiolydd o'r cwmni yno - ni wnaethon nhw gyflwyno rheswm dros hynny na gofyn i aildrefnu'r achos.

Galw am newid yn y sector breifat

Wedi'r achos, dywedodd Mr Schiavone: "Fe wnes i ofyn dro ar 么l tro am yr hysbysiad cosb yn Gymraeg, a byddwn i wedi talu'r ddirwy, ond yn lle hynny penderfynodd One Parking Solutions fynd 芒 fi i'r llys.

"Am bod y llys wedi gofyn iddyn nhw gyfieithu copi o'r hysbysiad cosb fe wnaethon nhw, ond cymerodd hi achos llys iddyn nhw wneud - a wnes i ddim derbyn yr hysbysiad swyddogol yn Gymraeg o gwbl.

"Gan iddyn nhw orfod cyfieithu copi'r hysbysiad cosb does dim byd yn eu rhwystro nawr rhag cyflwyno hysbysiadau cosb yn Gymraeg yn y dyfodol."

Dywedodd bod yr achos yn dangos fod angen newid y Mesur Iaith Gymraeg i gynnwys y sector breifat.

"Mae cwmn茂au fel hyn yn gallu gwneud pethau yn Gymraeg, ond dim ond os oes gorfodaeth gyfreithiol iddyn nhw wneud. A dim ond un o nifer o gwmn茂au preifat sy'n rhedeg meysydd parcio yw hwn.

"Mae dros ddeng mlynedd ers i'r Mesur Iaith fod mewn lle, ac mae gweithdrefn y Safonau wedi gwneud gwahaniaeth yn y sector cyhoeddus - mae mwy o bobl yn gallu ac yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg eu cynghorau ac yn y blaen. Felly pryd gawn ni weld yr un newid yn y sector preifat?"